Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)/Barddoniaeth Dafydd Jones

Bywyd a Buchedd Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)

gan Owen Gaianydd Williams

Crefydd Dafydd Jones

V. BARDDONIAETH DAFYDD JONES.

Gwaith anhawdd yw rhoddi i Ddafydd Jones o Drefriw safle fel bardd.

Cadwodd dôn foesol ei ganeuon yn bur. Yn hyn tra rhagorodd ar ei gydoeswyr Cyfansoddodd amryw ganeuon—garolau yn ol arfer ei oes, llawer o englynion, ac mae ei ysgrif-lyfrau yn cynnwys llawer o benhillion Salm ar ffurf emynnau. Yn rhan foreaf ei oes ysgrifennodd rai cywyddau; ond nid yw'r rhai a welsom fawr glod iddo. Ni welais un o'r cerddi—y baledau penffair o natur rhai salaf rhai salaf Elis y Cowper—y cyhuddodd Ashton ef gyhoeddi cymaint o honynt. Syniai ef yn lled uchel o hono ei hun fel bardd, ond prin yr oedd ganddo le i hynny, os bardd bob amser yr hwn a gyfansoddo farddoniaeth. Ymddanghosodd rhan ehelaeth o'i ganeuon yn y "Flodeugerdd." Rhai o honynt a wnaed to order, er ymddangos yn y Flodeugerdd, canys ceir amseriad tair neu bedair wedi eu dyddio'r pryd hwnnw.

Rhoddaf yma ryw frasolwg dros rai o'i ganeuon a'i englynion. Prin mae eu gwerth llenyddol yn galw am fanylder; eto teg yw eu trafod. Yr ail-argraffiad (1779) o'r Flodeugerdd sydd gennyf. gyntaf a nodir yw

"Mawl i ferch a'i henw drwy'r gerdd."

"An Wiliam, An elw, An iredd, An arw,
An union, An enw, An loyw, An lan,
An fenws, fwynedd, An hynaws, An henedd,
An weddedd, An waeledd, An wiwlan.

"An weddus, An wiwdda, An linos, An lana,
An eurad, An arwa, An loywa yn y wlad,
 An ddoniol, An ddynes, An liwdeg, An lodes,
An fawrles, An gynes, An ganiad.

An burffydd, An berffeth, An hylwydd, Anheleth,
An anwyl, An eneth, An odieth, An wiw,
An onix, An enwog, An hylwydd, An halog,
An foddiog, An oediog, An ydyw.

"An seren, An siriol, An lwysedd, An lesol,
An onest, An unol, An raddol, An ras,
An oeredd, An eurol, An foddus, An fuddiol,.
An hollol, An weddol, An addas."[1]


Cymerwn Dewi ar ei air, mai mawl ac nid gogan i ferch o'r enw An yw'r uchod. Os mawl, mawl heb ei eneinio â fawr o wlith barddoniaeth, ond gobeithio ei fod yn onest a synhwyrol. Er mai tasg mewn gosod geiriau ynghyd ydyw, hi yw'r gân ystwythaf a chywiraf o ran mesur o'i holl ganeuon.

"Carol Plygain, a gymerwyd o Gân y 3 Llange a St. Ambros, i'w ganu ar fesur Barna Bunge." Nid cân y Tri Llanc yn hollol wedi ei throi ar gân yw hon, ond Carol wedi ei chymeryd o Gân y Tri Llanc fel y dywed yr awdwr. Mae'n ddernyn maith o ddeuddeg pennill, ac y mae ei syniad yn dda,—sef troi gwedd foliannus Cân y Tri Llanc yn garol Nadolig, ac mae dlysed ei farddoniaeth ag y gellid disgwyl. Wele engraifft,—

"Chwi holl weithredoedd brenin nef
Bendithiwch ef yn ufudd;
Molwch ei enw ef drwy'r byd
Yn galawnt gyda'ch gilydd;
Angylion glan o'r nefoedd wen,
A'r holl ddyfroedd sydd uwch ben,
A nerthoedd rhi Jehofa Rhen,
A'r wir ffurfafen ffurfiwch,
Haul a lleuad gyd a sêr,
Cawodau gwlaw a gwlithoedd pêr,
Euroclydon a gwyntoedd ner,
Yn dyner cyd ordeiniwch.


"Chwi dân a gwres, gaeaf a haf,
Y rhew ac eira ac oerfel;
Nosau a dyddiau yn eu rhyw
Bendithiwch Dduw goruchel;
Goleuni a thywyllwch du,
Mellt a chymylau'r awyr fry,
Y ddaear faith a'i gwaith yn gu,
Mae ef i'w haeddu yn haeddawl;
Chwi fynyddoedd dowch yn awr,
Bryniau, bronydd, moelydd mawr,
Dyffrynoedd a gwastadoedd llawr,
Rhowch i Dduw wir fawr eurfawl."[2]

"Difrifol ddymuniadau am drugaredd, i'w canu ar fesur a elwir Gwledd Angharad." Cerdd ddvmunol ei hysbryd yw hon; ceir ynddi ysbryd emyn, ond ei bod ar hen fesur cywreingas, ddigon felly i ddifwyno teimladau crefyddol tyner. Llawer o deimladau crefyddol da a gollwyd o ddiffyg eu canu mewn mesurau priodol iddynt eu hunain. Wele un o'r chwe phennill,—

"Clyw Dad y trugareddau, fy ngweddi'n llwyr
Bob boreu a hwyr; tydi o bawb yn ddiau,
Yw'r un a'r goreu a'i gwyr;
Gwel waeledd fy nhrueni, o'th flaen yn awr,
Bob enyd awr; Ni faethwyd neb a'i feithrin.
A'i feiau yr un mor fawr;

Na ddryllia'r gorsen yssig,
Tydi ydyw'r Meddyg diddig da,
Gwellha fy mriw, a gad fi yn fyw
Fy Nuw, O clyw fi'r claf:
Trwy ddrych dy Fab trugarog
Edrych yn rhywiog ar fy haint;
Gwna waeledd wr, fi'n golofn dwr
I'th foli yn siwr fel saint."[3]

Ysgrech Mai. Paham "Ysgrech Mai," anhawdd dyfalu, os nad math o ostyngeiddrwydd, sef nad allai ei oreu gân ef i Fai fod namyn ysgrech. Pa beth bynnag oedd ei farn ef, hyn sydd amlwg, sef mai hon yw ei gerdd oreu o lawer. Dewisodd fesur dymunol, canodd yn rhwydd, a chanodd lawer syniad tlws, wedi ei wisgo yn eglur a thaclus. Nid gormod dweyd mai dyma'r gân i Natur oreu geir yng nghasgliad y Blodeugerdd. Amheuthyn ei darllen, er cael gwedd arall ar bethau rhagor Huw Morus a'i efelychwyr yn gweu beirniadaeth ar gymdeithas a'i harferion, nes gwneyd barddoniaeth namyn Llyfr y Diarhebion ar gân. Gall nad yw yn gwbl wreiddiol, oblegid mae llawer o debygolrwydd rhyngddi a'r gân flaenorol iddi yn y llyfr, o waith Rhys Ellis,—

"Y teulu hynod haeledd,
Da haelion lu diwaeledd,
Sydd yma yn byw gyfannedd,
Bur weddwedd rwyddedd rai;
Egorwch eich golygon,
Cewch weled yn wych wiwlon,
Iawn gydfryd hyd y goedfron,
Gantorion mwynion Mai.

"Fe ddaeth yr Haf blodeuog,
Wych rinwedd at eich rhiniog,
Edrychwch mor feillionog
Yw'ch meusydd rywiog rai;
A'r Adar drwy gyttundeb,
Sydd wyneb oll yn wyneb,
Ffrwyth enau mewn ffraethineb,
Yn atteb mwyndeb Mai.

BYRDWN.


"Bendithia, Dad trag'wyddol,
Sior ap Sior frenhinol,
A phump o'i blant olynol,
Rhagorol reiol ryw;
Dau saith o wyrion hefyd,
A ninau bawb drwy'r holl fyd,
Bid i ni wir gyrhaeddyd
Dedwyddfyd gyda Duw.[4]

Ceir chwech arall o benhillion yn dilyn, o'r un nodwedd a natur. Paham yr oedd eisiau byrdwn i ofyn am fendith ar "Sior ap Sior frenhinol" mewn molawd i Fai sydd anhawdd ei ddeall, oddigerth fod ei deyrngarwch, fel popeth arall, yn adfywio a blodeuo o dan awelon balmaidd ei fis. Gedy i'w awen grwydro peth, a heibio'r farn a'r adgyfodiad cyn diwedd ei gerdd, er y gallasai'n hawdd ofera mwy nag ehedeg i gael trem ar y gwanwyn—a mwyned Mai y gwanwyn hwnnw.

Ceir ganddo nifer o garolau,—" Carol Plygain am Enedigaeth a Dioddefaint. Iesu, i'w ganu ar y Ffion felfed"; "Carol Clais y Dydd"; "Odlau'r Oesoedd";

Gwys Plygeiniol i Folianu Duw,"—oll yn y Flodeugerdd. Mae'r oll rai hyn i raddau o'r un natur a'r caneuon crefyddol cyntaf a nodasom. O bosibl fod eraill o'i waith yn y Flodeugerdd, canys amheuir ai nid ei eiddo ef yw'r rhai nodir fel wedi eu codi o Lyfr Dab Sion, sef Dewi ap Sion.

Saerniodd lawer o englynion, fel rheol yn gywir o ran cynghanedd, ond yn aneglur ac yn amddifad o bertrwydd anhebgorol englyn da. Ceir ar ddechreu'r Flodeugerdd Englynion Cyflwyniad gan Ieuan Brydydd Hir, David Ellis, a Dewi Fardd ei hun, ac yn anffodus rhoddodd ei eiddo ei hun yn gyntaf, os oedd anfoneddigeiddrwydd yn hynny hefyd. Wele hwynt,—

"Blodeugerdd iowngerdd awengu,—hynod
Ei henwir drwy Gymru;
Da ei fwriad er difyrru
Gomer lwyth digymmar lu.

"Mae Prydain gywrain ei gwaith,—yn amlwg
Yn ymyl estroniaith
Asiad enwog sidanwaith,
Od yw a mwyn weuad maith.

"Derbyniwch mynnwch i'ch mysg—farddoniaeth
Fawr ddeunydd o addysg;
Diau gemwaith digymmysg,
Gywir wiw ddawn gwyr o ddysg.

"Odiaethol fuddiol a fydd,—y canu
Er cynnal awenydd;
Dir llonna bob darllenydd
A'i naws da bob nos a dydd.

"Nag aros ond dos i dai,—gwyr anwyl
Gwyr enwog a'th garai;
N' ad i alldud o'i dylldai,
Olud dy fyth wel'd dy fai.

"Na ddos yn agos i neb,—o dylwyth
Sy'n dilyn casineb;
Myn wenu mwyn ei wyneb
Sawl eura ei serch mal aur Sieb."

"Ar ddiwedd "Histori Iesu Sanctaidd" ceir englynion perthynasol i'r llyfr,—

"Gwel gyffes hanes o hyd,—yr Iesu
Gwyw Rosyn dedwyddfyd;
Fu'n diodde' annedwyddfyd
Sal o'i fodd mewn isel fyd.

"Gofid ac erlid gyfan,—a'i faeddu
I foddio rhai aflan;
Yn glir ar ei enau glan,
O gas rhoe Suddas gusan.

Canaf a molaf Dduw mau,—mewn difri,
O'm dwyfron yn ddiau;
Fy siarad ar fesurau,
Swydd glir fy meddwl sydd glau."

Yn ail-argraffiad Drych y Prif Oesoedd, 1740, ceir englynion o fawl i'r llyfr gan amryw o feirdd yr amser honno, sef Jenkin Thomas, John Jones Llewelyn o Lanfair yng Ngaereinion, Theophilus Evans Vicar Llangamarch, sef yr awdwr ei hun, a Dafydd Jones o Drefriw. Wele'r eiddo Dafydd Jones, fel eu ceir yn yr argraffiad hwnnw,——

Mawl i'r Llyfr a'r Awdwr Mr. Theophilus Evans."

"Ardderchog enwog union,—clyw d'annerch,
Clau ddawnus amcanion,
O Wynedd yn ddi-unon
I'r deheu-dir da hoyw don.


O Arfon dirion dyrog—y tardda
At urdd wawr flodeuog,
Fawl min gân fel y mwyn gog,
Fraich anwyl i Frycheiniog.

[5]Theophilus iaith hofflawn
Oleu ras ail i Aaron
Fel Dafies[6] wiw flodeuyn
Goreu glwys gu eurog lin.

Peryglor Ifor Evan ail ydych,
Hael odiaeth berffeithlan,
Ac ieithydd yn gwau weithian,
Cymraeg lwys i'r Cymry glân.

Dosbarthu, rhanu yn rhwydd—hanesion
Hen oesoedd yn ebrwydd;
Gwr hylaw, gywir hylwydd,
Rhywiog lân ar we aeg lwydd.

Drych gwiwlan, dyddan i'n dydd—un ydyw,
Iawn adail waith crefydd;
Goludog iach i'n gwledydd,
Gwiw dw'ffel i gyd a'i ffydd.

Drych y Prif (a rhif ar hyd—yr) Oesoedd,
Aur eisoes o'r cynfyd;
Drych gwiw-lwys edrych golud,
Hynaws bwnc o hanes byd.


Llanddewi, heini, hynod—Llangammarch,
Llawn gymhwys fyfyrdod;
Dwy chwaer glir, da wych ar glod,
Hir einioes i'w lor hynod.

DAFYDD JONES, O DREFRIW, A'I CANT

Ysgrifennodd lawer o englynion i Almanac John Prys, yr hwn ddeuai allan yn flynyddol o 1738; yr olaf welsom yw'r un am 1771. Weithiau englynion cyfarch oeddynt, bryd arall cywrain dasgau ys—grythyrol. Wele ddiolchgarwch am ateb un o'i dascau,—

"Diolchgarwch i Jonathan Hughes am ei atteb."

"Jonathan (weithian wiw Ieithydd)—ap Huw
Ti piau'r awenydd;
Wyt gyflawn mewn dawn bob dydd
Hoff radol wych a phrydydd.

"Cenaist a rhoddaist yn wreiddiol,—atteb
Wiw odiaeth 'Scrythyrol;
Imi'n wir a mwyn yn ol
Mewn siarad cymmesurol.

"Am dy waith odiaeth deg,—diolchaf
Da eilchwel gyfandeg;
Anrhydedd a fo'n rhedeg
I'th enw doeth a'th awen deg."

—DEWI FARDD.


Fe wel y darllennydd nad oedd "John Prys, Philomath," yn olygydd neilltuol fanwl ar lythrennau a sillnodau, pa mor fanwl bynnag ei sylw o'r ser. Ar y ddalen nesaf ceir englynion

"I Annerch Ioan ap Rhys, Philomath."

"Astronomydd sydd ys wiw,—odiaethol
Wyt weithian o'r cyfryw;
Rwi'n d'annerch ar lannerch liw
Yn dryfrith hyn o Drefriw.

Sywedydd gwledydd gu lwys,—iawn ydych
Un odiaeth a chymmwys;
Tra gwiwlan trwy aeg wiwlwys
O ddysc a dawn addysc dwys.

"Graddau'r planedau a'i gwreiddin,—gweddaidd
Gwyddost hwy yn ddibrin;
Am y tywydd wyt iwin
Amor-hawdd am y wir hon.

Mynediad rhediad y rhodau,—nefol
A nifer planedau;
Arwyddion yr holl raddau
Yn wiw i gyd yna'r gwau.

"Gwiwlan a diddan bob dydd,—iw'th lyfrau
A'th lafur di beunydd;
Mewn maenol ac mewn mynydd,
Dyfal daith dy fawl a fydd.


"Iechyd a hawddfyd o hedd,—a fytho
I'th faethu'n gyfanedd
Da anno Duw dy rinwedd
Itti fyth hyd at dy fêdd."

DAFYDD JONES.[7]

Yn rhifyn Medi CYMRU 1903, ceir tipyn o waith barddonol Dafydd Jones wedi ei godi o'i lawysgrif sydd ym meddiant y Parch. R. Jenkin Jones, M.A., Aberdâr, lle y canmola y Morisiaid a Goronwy Owen. Rhydd Carneddog,[8] yn yr un cylchgrawn, englynion wedi eu codi o almanaciau John Prys.

Rhag blino y darllennydd ymataliwn, gan ein bod wedi nodi digon i'w alluogi i ffurfio barn drosto ei hun. Ystyriwn, pa faint bynnag feddyliai Dewi Fardd o'i awen a'i chynhyrchion, nad o herwydd hon yr haedda glod. Yr oedd ef o'r dosbarth o feirdd na feddant fedr i dorri llwybrau newydd i'w traed fel y gwnaeth Goronwy Owen. A mawr oedd eu han—ffawd. Rhaid oedd iddynt ganu cywyddau ac englynion clod byw a marw, neu ganu penhillion yn arddull Huw Morus. oedd y llwybrau hynny yn sych-gochion, a diflasdod i'r wir awen oedd eu tramwyo. Cofio hyn a dynera beth ar ein beirniad—aeth, a haedda llafur medr cyffredin glod, tra'r adeilada'r un o fedr uwchraddol ei glod ei hun.

Nodiadau

golygu
  1. Blodeugerdd, tud. 127, 128.
  2. Blodeugerdd, 248—52.
  3. Blodeugerdd, 267—9.
  4. Blodeugerdd, 306—8.
  5. Proest gyfnewidiog.
  6. Dr Dafies a ysgrifenodd y Geirlyfr Cymraeg.
  7. Almanac John Prys, 1771.
  8. Cerddi XXXIII, XXXIV a XXXVII