Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)/Crefydd Dafydd Jones

Barddoniaeth Dafydd Jones Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)

gan Owen Gaianydd Williams

Llyfrau Dafydd Jones

VI. CREFYDD DAFYDD JONES.

Yr oedd dau beth amlwg yn ymdorri allan yn barhaus yn ysgrifeniadau Dafydd Jones o Drefriw,—ei sel dros yr Eglwys, neu dros wedd Gymreig yr Eglwys, a'i brofiadau crefyddol. Ni cheir un arwydd iddo deimlo dim o ddylanwad y Diwygiad Methodistaidd, oedd yn allu moesol ac ysbrydol mor gryf yn ei amser. Diau y gwyddai am dano; ac os gellir cymeryd ei ddistawrwydd fel tystiolaeth, yr ystyr yw ei fod yn amheus o ba le yr oedd, ond barchus yn ymatal rhag ei gondemnio, neu ei fod yn ei gymeradwyo, ond oherwydd ei gysylltiadau yn tewi a son, yr olaf hwn fwyaf tebyg. Cyfeiriodd yn barchus at Griffith Jones Llanddowror. Nid felly'r Morrisiaid. Gwawdiasant hwy, yn ddifloesgni, y Diwygiad a'r Diwygwyr, felly hefyd Ieuan Brydydd Hir.

Er nad oedd llawer o raen grefyddol ar gymeriadau Ieuan Brydydd Hir, Goronwy Owen, a rhai o'r Morrisiaid, yr oeddynt yn Eglwyswyr selog, yn credu'n ddiysgog yng nghyfaddaster y drefn eglwysig er hyrwyddo crefydd, ac yng Nghymru y dylasai fod yn hollol Gymreig yn ei holl fywyd. Yr oeddent yn bendant yn erbyn yr elfen Saesnig, yr hon ar y pryd oedd yn difwyno bywyd yr Eglwys mewn llawer cylch, a'r Saeson oedd yn byw'n ddiwaith mewn bywoliaethau Cymreig. Aethant mor bell a dwyn cynghaws yn erbyn gŵr o Sais benodwyd i fywoliaeth Trefdraeth, Mon, a hwy a orfuant. Nid culni gwladgarol oedd eu sel. Os oedd gulni o gwbl, culni Eglwysig oedd, —os gellir galw sel dros eglwys eu calon yn gulni hefyd. Yr oeddent wedi deall un elfen o'r anhwyldeb ddifaodd nerth yr Eglwys yng Nghymru, ac mewn pryd yn codi eu llef dros ei feddyginiaethu. Pe buasai'r Eglwys yng Nghymru ar y pryd wedi gwrando eu cenadwri mae'n amheus a fuasai canlyniadau'r Diwygiad Methodistaidd yn hollol yr hyn fuont. Fel hwynt, felly hefyd Dafydd Jones. Gan ei fod ef lawer mwy o apostol y bobl na'r arweinwyr, felly yr oedd lledaenu'r teimlad hwn ymhlith y werin lawer mwy ei waith ef. Wele ddarn miniog o'i waith,—

"Ai ni fedr ef ddim Cymraeg? Na fedr air. Pa ddaioni a wna ef yn ei esgobaeth pan ddel ef iddi? Conffirmio plant a phregethu. Mewn pa iaith? Saesoneg a Lladin. Pwy sy'n i i ddeall? Y deon a'r ficeriaid ac ymbell wr bonheddig. Oh! Mi welaf nad yw'r lleill ond fel y coed a'r cerrig, fal yr oeddynt cyn y Refformation neu'r Diwygiad.

"Y rwan heb un Esgub o Gymro ganddo o fewn ei 4 Esgobaeth o bydd neb i'm gohebu, am fod mor eofn. Briwedig wyf o weled fod ein Heglwys yn amddifad o Gymro, i fod yn ben colofn iddi, na chae ryw Fryttwn gymaint a hynny o fraint, doed imi a ddel o ddig a bar am fy mhoen."[1]

Nid beirniadaeth oer un o'r tu allan, na chwaith duchan gŵr siomedig o'i mewn, ond datganiad caredig a gonest o deimlad yw hwn. Er mor deg a phri—odol yr ymddanghosai ei gwyn, buasai'n chwith ganddo ddeall mai ymhen 105 o flynyddau y gwelwyd yn ddoeth wella'r aflwydd. Yr un eu cwyn ag ef oedd y beirdd-offeiriaid; ond ei hagwedd foesol, a llesgedd ei hymdrech i oleuo'r wlad ac achub eneidiau, oedd cwyn y Diwygwyr o fewn ac o faes i'r Eglwys. Er ei fod ef ei hun yn llefaru geiriau lled arw a gonest am yr Eglwys, nid da oedd gan Ddafydd Jones i arall wneuthur hynny, yn neillduol ymosod ar y drefn eglwysig a gamddefnyddid. Fel gŵr o farn, un peth yn ei olwg oedd y drefn eglwysig a pheth arall oedd ei chamarfer. Yn y llyfr "Gwaedd Ynghymru yn wyneb pob cydwybod," mae'r frawddeg ganlynol,—"Ac oni fedri weddio, cais duchan o flaen Duw, ond gad ymaith dy lyfr gweddi oddi allan."

Yn yr argraffiad o'r llyfr uchod a gyhoeddwyd ganddo ef yn 1750 gadaw—odd allan, "ond gad ymaith dy lyfr gweddi oddi allan.' Gwelir felly nad amcanai ond at gamarferion niweidiol. oedd yn yr Eglwys.

Yr oedd gwybodaeth Dafydd Jones am lenyddiaeth grefyddol, a diwinyddiaeth ei amser, yn eang. Safai bron ar ei ben ei hun yn ei oes. Yn ei nodion ar waelod dail y Cydymaith Diddan" cyfeiriodd at rannau mewn 29 o wahanol lyfrau oedd yn cadarnhau gosodiadau'r llyfr —hwnnw, a'r rhai hynny yn llyfrau safonol yr amser hwnnw. Mae ei gyfeiriadau, nid yn unig yn profi'r pwnc, ond yn wir ddyddorol i'r hanesydd. Arferai osod i lawr ddyddiadau yr argraffiadau, a hynny yn gywir bob amser. Yn yr amrywiol lythyrau at y darllennydd a ysgrifennodd,. danghosodd lawer o gydnabyddiaeth ag amrywiol lyfrau crefyddol, ac hefyd â'r Beibl. Amcanodd brofi ei osodiadau ag adnodau. Er ei fod yn profi ambell bwnc nad oedd fater cydwybod iddo ef na'i ddarllenwyr, nid oedd hynny yn bychanu dim ar ei gydnabyddiaeth â'r Ysgrythyrau. Cyhoeddodd amryw lyfrau crefyddol, er esiampl, chwedlau Nicodemus a thraddodiadau'r Tadau yn "Histori yr Iesu Sanctaidd." Yr oeddent fel cyffredin lyfrau'r amser, ac yn llai ofergoelus na llawer. A pha beth bynnag am gymeriad llenyddol y Flodeugerdd, y mae ei thôn foesol uwchlaw amheuaeth. Amcanodd at y moesol bur, yn ol ei osodiad ei hun, beth bynnag am y coeth lenyddol. Os yw ei charolau a'i cherddi yn amddifad o farddoniaeth, mae eu tôn grefyddol yn amlwg ddigon. Meddai yn ei ragymadrodd,—

"Rwy'n gobeithio nad oes yn hyn o lyfr ddim a wna niwed i grefydd neb. Os wyf yn adgyfodi gwagedd ac yn hau llygredigaeth, yr wyf yn y camwedd yn gymaint a'r gwyr a wnaeth y gwaith."

Os ydynt yn ymddangos yn lled ddi-farddoniaeth yn ein golwg ni heddyw, bai beirdd y farddoniaeth rydd oedd hynny. Yn wir, Williams Pant y Celyn, yn ei emynnau, oedd y cyntaf i ganu'n rhydd farddoniaeth gyfriniol dlos, y wedd honno ystyrrir heddyw'n farddonol.

Nodwedd lled amlwg ym mywyd Dafydd Jones yw tuedd at fod yn ofergoelus. Nid yn unig ysgrifennodd lawer o ofergoelion llafar gwlad yn ei ysgriflyfrau; ond, ysywaeth, coeliodd hwy hefyd. Digon naturiol. Yr oedd y tylwyth teg yn y wlad yn ei oes ef, yn dawnsio ar foreau haf, oni byddai cylchau gwyrddion ar y meusydd yn ol eu traed ysgeifn. Ymguddiai ysbrydion yn y ceubrennau, a llechent o dan gysgodion y coed tewfrig. Ac yr oedd ambell hen blas mwyn yn ddim amgen na chastell brad, lle trigai rhyw ysbryd effro, yn gwylio'n barhaus am gyfle dial rhyw alanas. Ymataliodd yn rhagorol rhag cyhoeddi'r chwedlau hyn, er iddo ysgrifennu toraeth o honynt.[2]

Thos. Price, Yswain, fu'n creu y ffeithiau sydd yn yr ysgrif-lyfrau ; John Davies yn oes Dafydd Jones ei hun yn eu hail chwilio, gan gadarnhau eu bod yn wir; a Dafydd Jones yn credu'r holl wrachiaidd chwedlau. Mae'r holl ddesgrifiad o lun Dulyn a'i bysgod yn bob peth ond gwir, a dylasai Dafydd Jones wybod hynny, gan fod y Dulyn heb fod nepell o'i gartref. Ond pa wahaniaeth? Onid rhywbeth tebyg yw hanes ofergoelion pob oes a gwlad?

Ceir ganddo hefyd lawer o gynghorion llawer mwy anffaeledig na meddyginiaethau yr oes hon, yn unig mai anffaeledig i un peth oeddent. Wele feddyginiaeth rad at dynnu dant,—

"Cymer lyffant melyn o'r dŵr fis Mawrth neu fis Mai, a berw mewn dŵr, a dod dy fys yn y dŵr hwnnw. Cyffwrdd y daint a fynnech ac ef a syrth o'ch pen." [3]

Yr un modd yr oedd yn ofergoelus yn ei anianawd grefyddol, heb feddu fawr o ysbryd Puritanaidd ei amser a'r amseroedd blaenorol. Felly nid oedd coelion y Canol Oesoedd, oedd eto heb gilio'n llwyr o'r wlad, yn gas yn ei olwg; yn hytrach fel arall. Yr oedd yn hollol sicr yn ei feddwl na chynwysai'r Efengylau holl hanes Iesu Grist, ond fod y "Tadau Sanctaidd wedi diogelu'r gweddill. Ac yr oedd traddodiadau'r tadau mor ddwyfol yn ei olwg ef a'r gwirionedd ei hun,—

"Ond eto rwy'n gweled fod y Tadau Duw. iol wedi adrodd llawer trwy ysbrydoliaeth nefol, o wrthiau nodedig yn eu llyfrau."[4]

Cyfeiriai bob amser at yr Apostolion yn y dull eglwysig,—St. Paul a. St. Pedr. Aeth mor bell a chymeryd chwedlau mynachod y Canol Oesoedd fel traddodiadau i'w credu. Diau fod yr elfen hon yn ddofn yn ei natur, ac yr oedd nodwedd cymdeithas a chrefydd ei oes yn llawer mwy o fantais iddi nac o ataliad arni.

Nodiadau

golygu
  1. Cydymaith Diddan, t.d. 7.
  2. Ceir rhai yn CYMRU, Medi, 1903. Gwelir, yn enwedig, ei nodiadau ar Gamfa Hwfa a'r Allor Goch yn Llyn Dulyn.
  3. Yr ydym yn copio'r uchod o CYMRU, Medi, 1903, yno gall y darllennydd weled llawer chwaneg.
  4. Histori yr Iesu Sanctaidd. 1776. Tud. 4.