Darfu noddfa mewn creadur
← Duw anfeidrol yw dy enw 2 | Darfu noddfa mewn creadur gan William Williams, Pantycelyn |
Ein nerth a'n cadarn dŵr yw Duw → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
82[1] Noddfa yn Nuw.
87. 87. 47.
1.DARFU noddfa mewn creadur,
Rhaid cael noddfa'n nes i'r nef;
Nid oes gadarn le im orffwys
Fythol ond ei fynwes Ef;
Dyma'r unig
Fan caiff f'enaid wir iachâd.
2.Dan dy adain cedwir f'enaid,
Dan dy adain byddaf byw,
Dan dy adain y gwaredir
Fi o'r beiau gwaetha'u rhyw;
'R wyt yn gysgod
Rhag euogrwydd yn ei rym.
William Williams, Pantycelyn
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 82, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930