Ein nerth a'n cadarn dŵr yw Duw
← Darfu noddfa mewn creadur | Ein nerth a'n cadarn dŵr yw Duw gan Martin Luther wedi'i gyfieithu gan Lewis Edwards |
Deued dyddiau o bob cymysg → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
83[1] Ein Cadarn Dŵr.
87. 87. 55. 567.
1.EIN nerth a'n cadarn dŵr yw Duw,
Ein tarian a'n harfogaeth;
O ing a thrallod o bob rhyw
Rhydd gyflawn waredigaeth.
Gelyn dyn a Duw,
Llawn cynddaredd yw;
Gallu a dichell gref
Yw ei arfogaeth ef;
Digymar yw'r anturiaeth.
2.Ni ellir dim o allu dyn:
Mewn siomiant blin mae'n diffodd;
Ond trosom ni mae'r addas Un,
A Duw ei Hun a'i trefnodd.
Pwy? medd calon drist:
Neb ond Iesu Grist,
Arglwydd lluoedd nef;
Ac nid oes Duw ond Ef;
Y maes erioed ni chollodd.
Martin Luther, cyf. Lewis Edwards
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 83, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930