Cwrw Oddi ar Wicitestun

Gan Rhisiart ap Harri.


   Faint o gwrw a yfaist ti, 'nghariad,
       Faint ohono sy'n mynd i'th yfed di?
           Paratoa i gael dy yfed,
               Gan y cwrw,
                   Yr union gwrw,
                       A wyt newydd yfed,
                           O 'nghariad.

Llyfr Oddi ar Wicitestun

Gan Rhisiart ap Harri


   Mae llyfr yn rhywbeth a wyt ti'n ei ddarllen,
   Mae'n gallu fod yn hir, neu yn fyr,
   Ond os wyt ti'n ei roi i lawr heb ei orffen,
   Bydd rhaid i ti fwrw dy ben ar y mur. 

Saeson Oddi ar Wicitestun

Gan Rhisiart ap Harri:


   Mae Saeson sydd yn dod i Gymru
   yn yfed cwrw ar y draeth.
   Mae Saeson sydd yn dod i Gymru
   yn atal Cymry rhag eu gwaith.


   Mae Saeson sydd yn dod i Gymru
   yn prynu tai ar draws y wlad,
   ond gwerthwnt rŵan eu heneidiau.
   Y diawl a gaiff y bargen rhad. 

Sion Oddi ar Wicitestun

Gan Rhisiart ap Harri


   Dwedir mai Jon yw ei wir enw fo,
       Ond ei ffugenw neb a wyr,
   Ewch i ffordd â'i ffugenw,
       Gadewch i ni wybod pwy ydy o.
   Dwedir na fydd o'n goroesi,
       Heb ffugenw i guddio ei hun,
   Ond ei fai ei hun yw hynny,
       Dylai bod wedi meddwl am hyn
           cyn iddo lofruddio baban.

Fi Oddi ar Wicitestun

Gan Rhisiart ap Harri


Byd,
Edry-
chwch
arna i.
---
Byd,
Edry-
chwch
arna i.
---
BYD,
EDRY-
CHWCH
ARNA I.
---
Ia,
gwn i
bod dros chwe biliwn o bobl yn y byd,
ac mae bron i hanner ohonynt yn
dioddef o afiechydon erchyll,
ond serch hynny,
dw i am i chi
edrych
arna


i

Anwybyddiaeth Oddi ar Wicitestun

Gan Rhisiart ap Harri


   Mae'r byd yn dy anwybyddu,
       Mae hyd yn oed yr athrawon yn dy anwybyddu,
           Ac rwyt ti'n mynd i grio.


   Dwyt ti ddim isio yn dy galon fod yn ddrygionus
       Dim ond wyt ti am i'th athrawon dy sylweddoli
           Ond maen nhw'n dy anwybyddu.