Diddanydd anfonedig nef
← Ysbryd graslon, rho i mi | Diddanydd anfonedig nef gan John Jenkins (Gwili) |
O! Sancteiddia f'enaid, Arglwydd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
258[1] Y Diddanydd Arall
86. 84.
1 DIDDANYDD anfonedig nef,
Fendigaid Ysbryd Glân!
Hiraethwn am yr awel gref,
A'r tafod tân.
2 Erglyw ein herfyniadau prudd
Am brofi o'th rad yn llawn;
Gwêl a oes ynom bechod cudd
Ar ffordd dy ddawn.
3 Cyfranna i'n heneidiau trist
Orfoledd meibion Duw;
A dangos inni olud Crist
Yn fodd i fyw.
4 Am wanwyn Duw dros anial gwyw
Dynolryw deffro'n llef;
A dwg yn fuan iawn i'n clyw
Y sŵn o'r nef.
5 Rho'r hyder anorchfygol gynt
Ddilynai'r tafod tân;
Chwŷth dros y byd fel nerthol wynt,
O! Ysbryd Glân.
John Jenkins (Gwili)
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 258, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930