Ysbryd graslon, rho i mi

O! Dduw, rho im dy Ysbryd Ysbryd graslon, rho i mi

gan Thomas Toke Lynch


a Howell Elvet Lewis (Elfed)
Diddanydd anfonedig nef
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930
Thomas Toke Lynch

257[1] Ysbryd pob Gras
77. 77. 77.

1 YSBRYD graslon, rho i mi
Fod yn raslon fel Tydi:
Dysg im siarad yn dy iaith,
Boed dy ddelw ar fy ngwaith:
Gwna i holl addfwynder f'oes
Ddweud wrth eraill werth y groes.

2 Ysbryd geirwir, rho i mi
Fod yn eirwir fel Tydi:
Trwy'r doethineb oddi fry
Gwna fi'n dirion ac yn gry';
Gwna fi'n frawd i'r gwan a'r trist,
Er mwyn dangos Iesu Grist.

3 Ysbryd grymus, rho i mi
Fod yn rymus fel Tydi:

Dysg im gonero lle mae dyn
Yn rhy egwan wrtho'i hun;
Yn dy obaith dwg fi 'mlaen
Trwy beryglon llif a thân.

4 Ysbryd sanctaidd, rho i mi
Fod yn sanctaidd fel Tydi:
Ynof pob rhyw ras cryfha,
Dysg im fyw i bethau da;
Ac i'r Duw a'th roddodd Di,
Ysbryd perffaith, canaf fi.

Thomas Toke Lynch
Cyf: Howell Elvet Lewis (Elfed)


Ffynhonnell

golygu
  1. Emyn rhif 257, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930