Diliau Meirion Cyf I/Adgyfodiad Dysgeidiaeth yn Nolgellau
← Drygedd Meddwdod | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Y Ceiliog a'i Gân → |
ADGYFODIAD DYSGEIDIAETH
YN NOLGELLAU.
Un o destunau misol Cymdeithas y Cymreigyddion yn y lle,
Tach.20fed, 1822. Yr Englynion canlynol a farnwyd yn fuddugol.
Henffych well yn Nolgellau—frwd araul,
Frodorion diwallau,
Dywenydd bod eu doniau
A'u mawl o hyd yn amlhau.
Helaeth goleddwyr hylwydd—dysgeidiaeth,
Dwys gedawl serchawgrwydd,
Gosgordd rydd fraich ac ysgwydd
O'i pblaid, pan fo rhaid, yn rhwydd.
Mewn bedd bu'n gorwedd yn gaeth—y fronawg
Fireinwych Ddysgeidiaeth,
Yn awr adgyfodi wnaeth
I'w chyfiawn hen uchafiaeth.
Ffrydiodd, tarddellodd allan—mal afon,
Mil yfant win purlan,
Meithriniad maith i'r anian,
Yn llysoedd ei gwleddoedd glân.
Pa arwyrain mewn peroriaeth—hyddysg,
Rydd haeddawl ganmoliaeth?
Pa wir fawl, dreiddiawl ar draeth,
Addas gaed i Ddysgeidiaeth.
Mor weddaidd yw ymroddi—i'w cha'mol,
A chymhell pawb ati;
Dynion fo'n cael daioni,
Amen, dan ei haden hi.