Diliau Meirion Cyf I/Drygedd Meddwdod
← Flangell i'r Tyngwyr | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Adgyfodiad Dysgeidiaeth yn Nolgellau → |
DRYGEDD MEDDWDOD
Ffei! feddwdod! drewdod direidi—ydyw,
Pwy edwyn ei fryntni?
Fe dreiddiodd ei fudreddi
' N barddu noeth i'n broydd ni.
Meddwi, hawdd profi bob pryd,—bai uchel,
Sy'n bechod dychrynllyd,
A rhyfedd flaenor hefyd
Holl ddrygau a beiau'r byd.
Meddwi, mae hyn fal moddion,—heb rinwedd,
Yn braenu'r coluddion,
Anurddo, difrio'r fron,
Gwelwi a phydru'r galon.
Meddwdod sy'n hynod wanhau—y synwyr,
Os uniawn fy marnau,
Pair gryndod i'r aelodau,
Fath na cheir fyth yn iachâu.
Meddwdod, 'rwy'n gwybod, ar g'oedd—du loddest,
A laddodd ei filoedd;
Dyfetha er Adda 'roedd,
Ac etto'n waeth nag ytoedd.
Meddwdod yw y nôd niweidiawl—penaf,
O'r poenau tragwyddawl,
Sy'n aros ansynwyrawl
Hudolion deillion у diawl.
Meddwdod dry'n drallod ryw dro—heb obaith
I bawb a'i dilyno;
Tyred, cyn dydd y taro,
O'i greulon afaelion fo.