Diliau Meirion Cyf I/Arwyrain Boddlonrwydd

Fflangell i'r Absenwr Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Diolchgarwch am Ffon

ARWYRAIN BODDLONRWYDD

O, F'AWEN addien rinweddawl—esgyn,
Bydd wisgi a threiddiawl,
I brydu yn barodawl
Arwyrain gywrain mewn gwawl.

Gwna fâd agoriad gwiwrwydd—da ystyr,
Ar destun Boddlonrwydd,
Myn olrhain mewn manylrwydd
Meithder ei helaethber lwydd.

Boddlonrwydd, dedwydd yw'r dyn—pwy bynag,
Pob enaid a'i hedwyn,
Nid oes gecrus, warthus wŷn
Ddialus, yn ei ddilyn.

Heddychawl rodd oddiuchod—ydyw,
Mae'n odiaeth ei hanfod;
Rhydd heb ball yn nydd trallod
Gysuron rhadlon dan rhod.

Er drygfyd, croesfyd, er cri,—oer derfysg,
Er dirfawr galedi,
Boddlonrwydd yn mhob swyddi
Ddaw a nawdd bob dydd i ni.

Tangnefedd a phob rhinweddau—eraill,
Yw ei araul ffrwythau,

Mewn hedd boed pawb yn mwynhau
Mwy o'i naws i'w mynwesau.


Nodiadau

golygu