Diliau Meirion Cyf I/Fflangell i'r Absenwr

Cabledd Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Arwyrain Boddlonrwydd

FFLANGELL I'R ABSENWR
Ar ystyr Araith Brodor o Fôn, yn
NYSGEDYDD Ionawr, 1826, tudalen 6ed.

Dyn gwag, lle bynag mae'n bod,—heb synwyr,
Abseno â'i dafod;
Dyn yw'n bucheddu dan nôd
Ffwrn ysawl uffern isod.


Absenwr, bradwr ein bro—ar unwaith,
Yw'r enw ro'ir arno;
Mab anghall y fall yw fo,
Bawddyn yn mhob lle byddo.


Absenwr, beius anian,—maleisgar,
Ymlusga i bobman
Lle gallo, er gwthio'r gwan,
Drais goleu, dros y geulan.


Sarph dorchog, fradog, anfrawdol,—ydyw,
Adyn gelyniaethol,
'Rol brathu, mae'n nesu'n ol,
Dan warthu dyn o'i wrthol.


Rhydd w'radwydd blin mewn casineb—yn gerth,
Pan ga absenoldeb;
Ni ddwg yn amlwg i neb
Un anair yn ei wyneb.


Dan ddedfryd mae'n bryd i'r bradwr—newid
Ei annuwiol gyflwr;
Boed y byd i gyd o'i gwr
Heb swn yr un absenwr.


Nodiadau

golygu