Diliau Meirion Cyf I/Bugeiliaid Eppynt

Vicar Conwy Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Harlech a'i Chastell


BUGEILIAID EPPYNT

DIHAP Fugeiliaid Eppynt—rhyw faeddod
Rhyfeddol iawn ydynt;
Gwehilion drwg eu helynt,
O chwaeth gas—go chwithig ynt.


Bugeiliaid, gwylliaid gwallus,—annoethion,
Eithaf cenfigenus;
Ow, gwŷr gwellt, sofl, gwair, ac ûs,
Yw'r bratiau—fe ŵyr Brutus.

Bugeiliaid yn bygylu—a lluchiaw
Eu llwch ar i fynu;
Lluddia'u cwmwl dwl a du,
Erchyll, i'r "Haul" lewyrchu.

Bugeiliaid yn labio'u gilydd—ydynt,
Dros ddaliadau crefydd;
Ond Ifor, yn enw Dafydd,
Cawr o'r De, sy'n cario'r dydd,

Llewelyn, ddwlyn, a ddulia—Ifor,
Myn e fod yn drecha;
Pwnia Sierlyn wed'yn, a
Yr hen Idwal ddyrnodia.

Pedwar llais, dyfais un dyn,—a'i wawdiaith,
Yw Idwal a Sierlyn,
Ac Ifor, gwelltor llawn gwŷn,
Hyll olwg, a Llewelyn.

Wel, yn awr, feddyliwn i,—mai anhawdd,
Er mynych ymholi,
Cael tan nen un i'w enwi,
Wrth ddadlu, yn trechu tri.

Ond gerwin nwyd engiriol—ennyna
Yn anian sel bleidiol,
Bydd fel tân yn syfrdan siol
Wenwynig dyn hunanol.


Yn awr, goddefwch i ni
Roi iachus gynghor ichwi.

Gwyliwch eich praidd, fugeiliaid,—rhag dinystr,
A rhwyg dannedd bleiddiaid;
Rho'wch heibio bwnio'n ddibaid,
Fel annoeth gerth fileiniaid.

Bwriwch, rhag tristwch, y trawstiau—hyllig,
Allan o'ch llygadau,
Hawdd wed'yn i bryfyn brau,
Heb roch, fydd gweld y brychau.

Di glod ar hyd y gwledydd—yw llafur
Rhai'n gwelleifio'u gilydd;
Pob diabsen ddarllenydd
Cosi'i ben a'u casâu bydd.

Byw'n ddiddig, bwyllig, bellach—a wneloch,
Mewn hylwydd gyfeillach,
Fel brodyr, a gwŷr teg iach,
Eirian llon, o'r un llinach.


Nodiadau

golygu