Diliau Meirion Cyf I/Harlech a'i Chastell
← Bugeiliaid Eppynt | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Dau Of yn gweithio → |
HARLECH A'I CHASTELL
HARLECH sy bentref hirlwm—oer hefyd,
A rhyfedd o noethlwm,
Lle creigiog, ochrog, a chrwm,
Rheng o dai gwael rhwng dau gwm.
Er hyny mae'n wir enwog—o achos
Mawrwychedd godidog
Y cywrain Gastell caerog,
Binacl claer, sydd ar ben clog.
Ac hefyd, dylid cofio—y gwesty
Hardd gwastad sydd yno,
Plas-yn-Harlech, drwy'r frech fro,
Gwyddys, 'does tebyg iddo.
I deithwyr mae'n lle odiaethol—anwyl,
Am luniaeth iachusol,
A rhyw swm pur resymol
A raid ei dalu ar ol.
Dirwystrus, heb drahaustra,—yn llonwych,
A llawn o fwyneidd-dra,
Heb omedd, caiff pawb yma
Fwydydd a diodydd da.