Diliau Meirion Cyf I/Dau Of yn gweithio
← Harlech a'i Chastell | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Anerch i Lenorion y Brithdir → |
DAU OF YN GWEITHIO
GWELAF ddianaf ddau o'_tra dawnus
Yn trydanawl weithio;
Daliant i droi a dulio
Haiarn noeth tra'n boeth y bo.
Terwynwyllt bob tu'r einion—y pwniant,
A'a penau yn noethion,
Labiant nes chwysu'n wlybion,
A'u dwylaw yn brydiaw bron.
Gwed'yn ei lunio'n gudeg—a wneddynt,
Yn addas i'w gofeg
Bwriadol, yn bur wiwdeg,
Heb grychni, brychni, na breg.
Dau ŵr odiaeth dewr ydych—dau ddigon
Diddiogi'n edrych;
Dau ôf doethgar, gweithgar, gwych,
A dewrion, fel dau eurych.