Diliau Meirion Cyf I/Debora a Barac
← Awdl Ioseph | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Cân Debora a Barac → |
DEBORA A BARAC
Gwedi Ehwd frwd ei fron—eiddigus,[1]
Roi'i ddager drwy Eglon,
A gwneuthur ger disbur don
Trylanastr o'i elynion,
Ar ol hyn ca'dd Israel hedd—dirwygiad
Bedwar ugain mlynedd,
Heb un dremyg boen dromwedd,
Na chlwyf gan saethau na chledd.
Tra'r oeddynt ar hynt yn rhwydd—yn ethawl
Wasanaethu'r Arglwydd,
Gan Iôr hwy gaen' yn wiwrwydd,
Ddieisawr, helaethfawr lwydd.
Ond och! eilwaith dacw hwy'n dychwelyd
Yn ffrawdd anferth idd eu hen ffyrdd ynfyd,
Gan wneud drygioni mewn anfri'n unfryd
Yn erbyn Dofydd, drwy efrydd aufryd,
A chroes orfeiddiawg echrys arfeddyd
Gwallau a rhyfyg, gan gellwair hefyd,
A'u hegr hyll feiau'n bagru’u holl fywyd,
Y delwau meirwon wnaent ddylion ddilyd,
Ymroi i audduwiaeth â mawr ddyhewyd ,
Heb un ter rinwedd, buont hir enyd,
Duw Abram mewn modd dybryd—ddigiasant,
Ow! gerwin gilient a'u gwarau'n gelyd.
Yna Duw Ton cyfion cu
Yn eu gwarth wnai eu gwerthu
I law Jabin, erwin ŵr,
A Sisera, draws arwr,
Yn gaethion gwaelion eu gweddi'r—ffyrnig
Gwn mileinig, lawn ugain mlynedd.
Codi'u llef i'r nef yn awr,
Ceir y dorf mewn cur dirfawr,
Dan deimlad fel brathiad bron
O'u tramawr feiau trymion.
Duw y duwiau wrandawodd—eu llefau,
A'i fyg wiw radau fe a'u gwaredodd.
Duw Iôr gododd Debora
Ffodus, ddoeth brophwydes dda;
A Barac, ŵr 'pybyrwych,
Ar y gâd yn flaenor gwych.
"Barac," ebai Debora,
"Diorn hyf-ymgadarnha,
"Dos mewn parch ar arch yr Iôr,
"Bwynt diball, i ben Tabor,
"A dethol filwyr doethion,
"Ddeng mil o'r hil yr awr hon;
"Iôr hedd sy'n addo rhoddi — dy alon,
Hyll abwydon, i'th llaw heb oedi;
"Sisera, d’wysog suraidd,
"Hen ymffrostgar floeddgar flaidd,
"A Jabin a'i fyddin fawr,
"Groes anfwyn gawri swnfawr;
"Chwai eu naw can cerbyd haiarn
“Ddinystri, a sethri fel sarn."
Ebai Barac, "Mae'm bwriad,
"Yn awr, gwel, flaenori'r gâd
"Yn astud iawn, os doi di,
"Mam wiwfad, gyda myfi;
"Didwyll wrthyt y d'wedaf,
"Oni ddoi di, 'n ddiau nid âf.”
Yna Debora burwedd,
Mwyn iawn atebai mewn hedd,
"Rhwydd ddyfod, rhydd addefaf,
“Barac, yn ddinac a wnaf;
"Fy sel yn ddihefelydd
"Dros ffyddlon blant Sion sydd;
"Mawreddog yr ymroddaf,
"Gyda'r llu wynebu wnaf;
"Dy gyfnerth, paid ag ofni,
"Yn llaw Naf a fyddaf fi:
"Ond tebyg dylit wybod
"Na chei'n awr ryglyddfawr glod,
"Neu fawl gorwych fel gwron
"Doeth a hyf, yn y daith hon;
"Arwyddion in' a roddwyd
"Mai llwfrhau i raddau'r wyd;
"Er yr atteg ro'ir iti,
"Coelia, frawd, cei lai o fri.
"Duw Ner a werth Sisera
"Yn llaw gwraig hardd ddigardd dda,
"Sef gwraig lân eirian arab—llawn pryder
"Y duwiol Heber, o deulu Hobab.
"Er hyny'n awr, o'n rhan ni—llywia'r gâd,
"Mae mawr alwad am iť ymwroli. "
Yn fyddin arfog enwog hwy unwyd,
Ac i'r hynt orwech draw acw'r anturiwyd,
Yn llawn o obaith y llu wynebwyd,
Cerbydau Jabin a'i fyddin faeddwyd,
Deng mil o bybyr filwyr a falwyd,
At afon Cison hyson hwy neswyd,
Y lluaws gwibiawg i'r lle ysgubwyd;
Sisera fradawg, feiddiawg, orfyddwyd,
Ond meibion Israel fu wael, fe welwyd,
Heddyw'n wyrthiawl gan Dduw hwy a nerthwyd,
A chyfiawn eu dyrchafwyd—y pryd hyn,
O law yr adyn hwy lwyr waredwyd.
Sisera'n llawn o soriant,
Mewn llidiawg a chwyddawg chwant,
Ffoi a wnaeth, gyda ffun wan,
Warth hynod, wrtho'i hunan,
At babell Jael yn wael ei wedd,
Ag egwan grynedig agwedd.
Gwiwfwyn gwnai hithau'i gyfarch
Wrth ei bodd, dan rith o barch;
Di oed wrtho y d'wedai
Yn bwyllgar, foesgar ddifai,
"Bydd gefnog, hardd d'wysog da,
"Chwai anmharch ni chei yma;
"O dwrf y cadau dirfawr
"Tro i mewn, rhag y taro mawr;
"Tyred, cei, f'arglwydd tirion,
"Bob lles yn y babell hon."
I mewn y daeth mewn mynyd awr
Yn llonfwyn i'r babell wenfawr:
Mewn serchlon ufuddlon fodd,
Da odiaeth, wrthi d'wedodd,
"Wraig dda, dioda fi â dw'r——tòr syched
"Hen elyn caled sy'n wael enciliwr."
Yn lle dw'r, heb un llid oriog—na gwg,
Nac agwedd afrywiog,
Rhoes hithau'n fwyn i'r llwynog—i'w foddio,
'N helaethwych yno laeth o'i chynog.
Wed'yn ar ffrwst, ni oedodd,
Tan wrthban, druan, ymdrodd,
A gwareiddiawg orweddodd—mewn cornel,
Tremyg osgel, nes y trwm gysgodd.
Ar ol i'r blaidd delffaidd du—ystyfnig,
Milain, eiddig, lwyr ymlonyddu,
Hithau'n ddisorth mewn morthwyl
Gydiai'n hawdd, gyda iawn hwyl,
A hoel hir, meddir, mewn modd
Gwir hyddestl a gyrhaeddodd;
Pur hylaw pwyai'r hoelen
Yn bost drwy esgyrn ei ben!
Treidddiai i mewn trwyddo 'mhell
I bybyr lawr y babell;
Syrthiai'r gelyn, dremyn drwg,
Yn gelain yn ei golwg:
Felly Jael i'r Israeliaid
Wrth gefn yn gynhorthwy gaid.
Yn llon rwydd allan yr aeth—i roddi
Gwireddawl hysbysiaeth
Didwyll i'r llyw da odiaeth,
A rhin wech o'r hyn a wnaeth.
"Dyred," ebe Jael dirion—wrth Barac,
Araith bur heddychlon,
"Gwel, rhoes i, fe glywir son,—lem driniaeth,
Hyd farwolaeth, i lyw dy frau alon. "
Dyna y dydd dedwydd, da,
Siriol, gwnaed bråd Sisera;
A'r hen Jabin, flin ei floedd,
Faedd annwfn, a'i fyddinoedd,
Lurguniwyd, luchiwyd i lawr
Darfu eu rhyfyg dirfawr.
Nodiadau
golygu- ↑ Dechreua yr Awdl uchod yn Barn . iii. 21, a dybena yn niwedd y v, sef " Cân Debora a Barac."