Diliau Meirion Cyf I/Dechreu y Gwanwyn
← Y Bardd yn ei Gystudd | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Y Mormoniaid → |
Y MORMONIAID
MAE "Seintiau'r dyddiau diweddaf,"—dallaidd,
Yn dwyllwyr i'r eithaf;
Gelynion eon Duw Naf
Yw'r rhithweilch, o'r rhyw waethaf.
Proffesant, gawriant mewn geiriau—madraidd,
Y medrant wneud gwyrthiau;
Ond bleiddiaid yw'r gwylliaid gau,
Coleddant ddweyd celwyddau.
Didanc ddewiniaid ydynt—a bwriad
Gwiberaidd sydd ganddynt;
Olyniaid Endoriaid ynt,
Dyna y gwir am danynt.