Diliau Meirion Cyf I/Y Bardd yn ei Gystudd
← Telyn Egryn | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Dechreu y Gwanwyn → |
Y BARDD YN EI GYSTUDD
Duw Sant, dy foliant a fydd—i'm genau,
Mi ganaf dy glodydd,
Olynol drwy lawenydd,
Pa well gwaith, deirgwaith yn dydd.
Ac eilwaith ar Dduw y galwaf—liw nos,
O'i flaen ef ymbiliaf;
Myfyrio tra'n effro wnaf
Yn ei air, ac ni ŵyraf.
Iôr anwyl, pan yr hunwyf,—di wyddost,
Mai d'eiddo di ydwyf;
Duw byw, dan dy nawdd di b'wyf,
Da hyny, nes dihunwyf.
'Rol deffro, pyncio mawl pêr—yn ddilys,
A ddylwn bob amser,
I'r Iesu, anwylgu Nêr;—mal diliau
Mel i'm genau fydd moli'm Gwiwner.
Dan y baich mae dyn heb iechyd—beunydd,
Mae'n boenus ei fywyd,
Rhoi'i aur a phrif berlau'r byd,
Cêd fawr, pe cai'i adferyd.
Llidiawg a blin drallodau—a gofid,
A gefais i'm dyddiau;
Fy nghorff clwyfus, bregus, brau,
Ddaw i lawr dan ddoluriau.
Blaenodd y dyddiau blinion—'rwy'n ysig,
'Rwy'n isel fy nghalon;
Dan gystudd, mor brudd yw'm bron,
Cofia fi, Arglwydd cyfion.
Ciliaf at borth Duw Celi,—'n bur isel,
A brysiaf heb oedi;
Iôr myg, 'does tebyg i ti,
Gwyddom, am wrando gweddi,