Diliau Meirion Cyf I/Fflangell i Genfigen
← Ahab a Jezebel | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Y "V Fawr," a "Fo Fo" → |
FFLANGELL I GENFIGEN
Ah! 'r hen ffyrnig genfigen—llawforwyn
Hyll fariaeth a chynhen;
Yn erch hi ladd ei pherchen—fel gwiber,
Gwae'r rhai a huder dan gŵr ei haden.
Nôd ei hymgais, nid amgen—yw drygu,
Hi wna drafaelu fel neidr felen.
Garw yw'r peth, ond gwir i'r pen—am dani,
Draw gwnai nodi ei drwg yn Eden.
Drygioni ei si a'i sen—a'i dirdra,
Hyll ddeora drwy'r holl ddaearen.
Ffei! 'r hen sarffes, eres wyn,
Furgunaidd, fawr ei gwenwyn,
Archollodd, a'i herchyllwaith,
Do, gannoedd a miloedd maith;
Mewn bâr a chroch gynddaredd,
Mae etto'n clwyfo fel cledd.
Hen ddraig deryll erchyll yw,
Offer nwyd uffern ydyw;
Ennynawl chwa wenwynig,
Nos a dydd yw ei naws dig;
Pob siriol heddychol ddyn,
Gocheled rhag ei cholyn.
Brysied y dydd, ddedwydd awr,
Y derfydd ei rhwysg dirfawr;
Syrthied i'r pwll, mygdwll main,
O'r golwg yn farw gelain;
Yn llidiog ni all wed'yn
Ddrygu na llindagu dyn.
Mynych gwnaed pawb ddymuno
Allais cryf, mai felly fo;
A gyrer pob drwg arall
O'r ddaear i fygfa'r fall;
Brawdol gariad mad, Amen,
Fager yn lle cenfigen.