Diliau Meirion Cyf I/Gwallt gwyn hen gyfaill
← Cofgolofn Dafydd Ionawr yn mynwent Dolgellau | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Mynediad y Bardd mewn cwch i Abermaw → |
GWALLT GWYN.
A gyfansoddwyd wrth edrych ar hen gyfaill.
Yn ben coch y bu'n cychwyn—ac eilwaith
Fe'i gwelwyd yn felyn,
Gwyddys fod gwallt y gwiwddyn,
Hawdd i ni weld, heddyw'n wyn.
E rydd hyn arwydd hynod—tra eglur,
Mai trigle y beddrod
Yw'r fan cei'n bur fuan fod,
Dy yrfa sydd bron darfod.