Diliau Meirion Cyf I/Cofgolofn Dafydd Ionawr yn mynwent Dolgellau
← Priodas Mr. Robert Pugh, a Miss Anne Jones | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Gwallt gwyn hen gyfaill → |
COFGOLOFN DAFYDD IONAWR,
YN MYNWENT DOLGELLAU.
A wnaed ar draul y Parch. J. Jones, M.A. Borthwnog.
EURFYG gofgolofn erfawr—gre' foddawg,
Ar fedd Dafydd Ionawr,
Gywrain wych, a geir yn awr,
O galedfain gwiw glodfawr.
Cofgolofn bardd, hardd yw hon—llawn addurn,
Lle noddir gweddillion
Corff mawr arwr craff Meirion—lladmerydd,
Mwyn dêr awenydd yn min dw'r Wnion.
Gwir enwog bur gywreinwaith—neud ydyw
Nodedig o berffaith;
Ni welir un manylwaith
Cadarnach na choethach chwaith.
Diodid, er mor glodadwy,—gwelir
Y golofn safadwy,
Mydrau'r bardd mâd profadwy
Sydd ganmil a milfil mwy.
Ei chweg gain wiwdeg ganiadon—gorwych,
A gerir gan Frython
Tra rhed dw'r, tra rhua tòn,
A'r môr wrth odre Meirion.
Mewn bri, fel meini mynawr,—hyd foreu
Adferiad o'r dulawr,
Y gu lefn ferth golofn fawr,
Bydd yna uwch bedd Ionawr.