Diliau Meirion Cyf I/Priodas Mr. Robert Pugh, a Miss Anne Jones

Anerchiad i Meurig Ebrill, gan Gutyn Ebrill Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Cofgolofn Dafydd Ionawr yn mynwent Dolgellau

PRIODAS
MR. ROBERT PUGH, A MISS ANNE JONES
Gwesty'r Alarch, Dolgellau

HAWDDAMOR heddyw yma—i Robert,
Y gwir hybarch wrda;
Ag Anne ddoeth, ei gu iawn dda
Rywiog weddaidd wraig wiwdda.

Dylid dyrchafu dolef—aruthrfawr,
Yr wythfed o Hydref;
Boed byd hawdd dan nawdd Duw nef,
A heddwch yn eu haddef.

Gan mai hwn, d'wedwn, yw'r dydd—yr unwyd,
Yr anwyl bar dedwydd,
Hir goffâd iawn fâd a fydd
Am dano'n ngrym dywenydd.

Robert sydd fab arabwych—Ieuan Awst,
Hwn oedd yn ŵr callwych,
Gyfreithydd ac ieithydd gwych,
Diwyro, a bardd dewrwych.


Hefyd, ei briod hafarch—mae'n weddus,
Ei mwyneiddiawl gyfarch,
Sydd ferch Ieuan, burlan barch,
Rheolwr Gwesty'r Alarch.

Puwiaid, ac Io'niaid, cannoedd—o'u llinach,
Fo'n llenwi'n hardaloedd;
Cenedl gref, ddigyfref, g'oedd,
Eresawl, f'ont drwy'r oesoedd.


Nodiadau

golygu