Diliau Meirion Cyf I/Gwerthfawredd duwioldeb
← Ymrysoniadau Ysbryd Duw | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Pleserau'r byd → |
GWERTHFAWREDD DUWIOLDEB
DUWIOLDEB sydd yn fuddiol iawn,
A chanddi'n gyflawn hefyd
Addewid sicr o'r bywyd sydd,
A'r hwn a fydd mewn eilfyd.
Duwioldeb sydd yn elw mawr,
Mae'n drysor gwerthfawr beunydd,
Boddlonrwydd a thangnefedd gwiw
A ddyry i'w meddiannydd.