Diliau Meirion Cyf I/Pleserau'r byd
← Gwerthfawredd duwioldeb | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Crist, Bara y Bywyd → |
PLESERAU'R BYD
PE caem bleserau pena'r byd,
A'i holl brif olud euraid,
Ni wnaent weinyddu un llesâd
Na dim gwellâd i'r enaid.
Y pethau gorau fedd y byd,
Nid ynt i gyd ond gwagedd;
Ond cyfoeth gras trwy ddwyfol Iawn
Sydd oll yn llawn o sylwedd.
Gan hyny, na adawed neb
Yr enaid heb wirionedd;
Ond mynwn drysor pur dilyth,
A bery byth heb ddiwedd.