Diliau Meirion Cyf I/Lletyrhys, Brithdir
← Oedran Meurig Ebrill ac Isaac Jones o'r Llwyn yn y flwyddyn 1850 | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Talyllyn a Dolffanog → |
LLETYRHYS, BRITHDIR
LLETYRHYS, harddlys urddlon,—ger annedd
Caerynwch yn Meirion,
Saif ar ddeiliog, frigog fron,
Ban enwog, uwchben Wnion.
Lle mae pren derwen cadeiriawl—gododd
Yn gadarn aruthrawl,
Fel t'wysog gwyrddglog mewn gwawl,
A brenin y derw breiniawl.
Pren brigawg, osglawg, teg wedd—cwmpasog,
Campuswych ei agwedd,
Cywreiniawl blethgar annedd
Yr adar seingar, a'u sedd.
Teraidd chwareudy tirion—y doniawl
Adeiniog gantorion,
Nawddle i'r côr mwyneiddlon
Gydbyncio a lleisio'n llon.
Mae'n achles gynhes i'r gog—a'r eos,
Gre' awen ddihalog,
A'r fwyalch gerddgar fywiog—a'r fronfraith
Berffaith ei haraith, lwysiaith berleisiog.
Eu cyson goethlon gathlau—sain eglur,
Sy'n hyglyw i glustiau;
A thôn lafar, glodgar glau,
Telynant alawonau.
Swynant, hwy ddenant ddynion,—i wrando'u.
Cywreindeg alawon;
Sylwir ar fydrau sywlon—yr hyddestl
Bur foesawg wiwddestl ber fiwsigyddion.
Perchenawg enwawg a gwyl—y deglan
Odidoglwys breswyl,
Tan nen, fu'r Capten Anwyl,
Gŵr digardd a hardd ei hwyl.
Weithian ei ben perchenawg—da hyawdl,
Yw Owens, Dolffanawg;
Gwiw rinwedd y gŵr enwawg,
Pur a rhwydd, fo'n para rhawg.