Diliau Meirion Cyf I/Talyllyn a Dolffanog

Lletyrhys, Brithdir Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Y Llwyn, ger Dolgellau

TALYLLYN A DOLFFANOG

TALYLLYN, tawel le llonydd—iachus,
I ochel ystormydd,
Cysgodawl freiniawl fronydd,
Gwempus oll, o gwmpas sydd.

Lle destlus hoenus hynod—lle nodwych,
Llawn adar a physgod;
Pob cysur eglur hyglod,
Anian bur, sydd yno'n bod.

Yn min y llyn, mewn lle enwog,—gwiwlwys,
Y gwelir Dolffanog;
Da odiaeth le godidog,
Meithringar i'r gerddgar gog.


Lle sywiawl yw llys Owen,—mewn hirddol,
Man harddaf tan wybren,
Ei ddawnus barchus berchen,
Heb wanhau, fo byw yn hen.

Dihalog bo ef a'i deulu—anwyl,
Yn uniawn fucheddu,
Gan addas fawr gynnyddu
Yn wastad mewn cariad cu.

Gwiwdeg fo'u hymddygiadau—a'u hurddas
A harddo'n gororau;
Gormeswyr hagr eu moesau
Is y rhod, na fo i'w sarhau.

Nodiadau

golygu