Diwrnod yn Nolgellau/Llefydd o nod 2

Y fynwent a'r eglwys Diwrnod yn Nolgellau

gan Robert Thomas Williams (Trebor Môn)

Abaty'r Cymer

"TWLL Y FLEIDDAST"

sydd yn nghlawdd terfyn Cefn yr Ywen Isa' a'r Uchaf. Ysglyfid defaid ac wyn i rif mawr yn y gymydogaeth hon, gan fleiddiaid, tua 150 mlynedd yn ol, fel y penderfynwyd gan y colledwyr wneyd ymchwil, a gwneyd dinystr cyflawn a llawn ar y giwed lofruddiog hono, a letyai mewn ogof gerllaw. Y canlyniad a fu, lladd yr oll -yn benau-teuluoedd a chenawon. Bu bleiddiaid mor luosog ar fynyddau Meirion fel ag y bu i Edgar, y brenin, dalu teyrnged o 300 o grwyn bleiddiaid ar dywysogion Gwynedd, am dri thro, ac i Iorwerth I. anfon Peter Corbet yn ddinystrydd arnynt.

"LLYN Y FFRIDD FAWR."

Dyma "Lyn yr Hwylfa" gan y werin, a nodedig am ei hesg a'i babwyr y naill i wneyd cefn-dresi (back-bands) a choleri i geffylau, ac o'r llall y gwneid canwyllau. Dygid y pethau hyn i'r farchnad mor ddiweddar a 1844, a'u pris (y gêr gyntaf) ydoedd 18 ceiniog. Meddai llethr y llyn hwn amddiffynfa led ëang, gynt.

"RHOS TY'N LLIDIART"

sydd ddarn o fferm, yn mha un, yn y flwyddyn 1832, y cafwyd delw hynod mewn math o ysgrîn. Tebygai i berson dynol, a dygai argraff annealladwy. Tybir mai eilun-dduw oedd, feallai o'r un cymeriad a'r un a gloddiwyd yn Llanfihangel Din Sylwy, Môn, yn 1831. Bu i grefyddwr penboeth, o'r enw Shion Gruffydd, gipio hon o ddwylaw ei blant, a'i thaflu i'r tân, "rhag (meddai) iddynt ei haddoli"!

"CAE CARREG Y BIG."

sydd ger Pont Dyffrydau a'r Afon Gôch. Safai dau faen hir ar y maes hwn gynt, ond yn y flwyddyn 1822, breuddwydiodd rhywun am grochan aur oddidanynt, fel ag y bu i Vandaliaid ddiorseddu'r talaf o'r ddau er d'od o hyd i'r trysor breuddwydiedig; eithr tebyg fu y cyfoeth hwn i gostrel y Gwyddel gynt, pan ddeffrodd nid oedd na chostrel na chwisgi ger bron, am yr hyn yr edifarai Paddy, na buasai'n gallach gyda'i hyfed cyn deffro! Modd bynag, cafwyd bedd rhwng y "meini," ac esgyrn ynddo—gweddillion Derwyddol yn ddiau.

"CRAIG Y CASTELL"

a welir ar dir "Tyddyn-islaw'r-dre," a ger troed Cader Idris. Bu caerfa salw yma'n foreu, wedi ei gweithio heb galch, gan y dengys y gweddillion na fu cymrwd yn cuddio asenau'r cyfryw erioed. Meddianai'r gaer goryn y bryn, ond y mae y gwarchglawdd wedi diflanu agos oll. Ceid dwy fynedfa yn perthyn iddi, a'r rhai hyn yn ymgolli yn eu gilydd. Ger llethr y mynydd hwn gwelir olion Sarn Rufeinig yn gyfeiriedig igam-ogam ei llwybr anhygyrch, a dyma a rydd gyfrif am ei galw gan y werin yn Llwybr Cam Rhedynen." Gerllaw ca'r teithydd dyddyn o'r enw "Erw'r Gwyddy!" (Gwyddelod), yr hwn a wna i mi feddwl mai y genedl hon a luniodd y ffordd hirgul dan sylw.

"BRYN MAWR."

Enwid yr amaethdy hwn i sylw'r ymwelwr am y caed bedd ynddo, esgyrn maluriedig, a darn o bren yn dwyn hoelion pres ceuol, rai ohonynt ar ffurf calon, ac ereill yn cario cynllun o rif. nodau. Gorchuddid y bedd â llechfaen yn dwyn y prif lythyrenau A. H.," ond y darganfyddwr, yn ei frys am arian a gredai a gaffai yma, a dorodd y garreg yn ddeuddarn, ac felly a golledodd rif ein creiriau henafiaethol.

"LLYN Y GADER GOCH."

Gorwedda hwn yn yr Wnion, ger y Bont Fawr, a defnyddid ef yn yr hen amserau i drochi troseddwyr y gym'dogaeth. Delid y pechadur a rhoddid ef mewn math o gadair goch er ei hwyluso i'r dyfroedd islaw, trochid ef yn ei wrthol gan amryw mwyaf hylaw o'r dorf ymgynulledig. Pan ddelid troseddwyr ar odineb, neu bechod arall, codai tyrfa allan, ac elai ereill, nid llai eu trosedd, feallai, ar eu holau mal gwaedgwn: delid un neu ddau o'r ffoaduriaid hyn, a dygid hwy yn ddiymdroi i'r drochfa dan floedd a chrechwen yr erlidwyr. Eu cario ar "ystol" a wnelid yn Môn ac Arfon yn yr oes o'r blaen, ond eu bedyddio "tros ben a chlustiau" a wneid yma, a byddai'r trochedig wedi haner ei foddi cyn y cai allan o ddwylaw ei farnwyr! A'r englyn canlynol bygythid y gêr gleplyd â'r gadair, gan y bardd,—

Y gwragedd rhyfedd eu rhôch—ysgeler,
Ysgowliwch pan fynoch:
Eich bwrir a'ch bai arnoch,
Gwedi'r gair, i'r "Gadair Goch."

Bu y Bedyddwyr yn trochi eu deiliaid yma wedi hyn.

YR YSGOL GANOLRADDOL.

Saif hon ger Tylotty'r Undeb (Hugh Roberts), a'r Ysgol Frutanaidd (O. O. Roberts), ac ar lethr iach a dymunol. Gwariwyd. £2,500 arni, a rhif ei hysgoleigion yw oddeutu 90. Ei hathraw yw H. Clendon, M.A.

Nodiadau

golygu