Diwrnod yn Nolgellau/Abaty'r Cymer

Llefydd o nod 2 Diwrnod yn Nolgellau

gan Robert Thomas Williams (Trebor Môn)

Llefydd o nod 3

ABBATTY'R CYMER,

ond a elwid gan y werin yn "Abbey'r Faner." Eir i hon trwy ffordd Llanilltyd[1] yn hylaw a hwylus gan ddyn dyeithr, ond i fyrhau y daith, pe äi'r ymwelydd heibio'r Ysgol Genedlaethol (J. James, Ysgolfeistr), y Periglordy, Penarlag, a chymeryd y llwybr ar y chwith iddo ar uchaf yr allt elai i lawr hyd ati, gan dori milltir, agos, ymaith o'i siwrnai. Saif y Fonachlog oddeutu milltir a thri chwarter trwy'r brif—ffordd o Ddolgellau, a haner milltir o Lanilltyd. Sylfaenwyd hon yn y flwyddyn 1200, gan Llewelyn ab Iorwerth Drwyndwn, medd Tanner yn ei Notictia Monastica, tra y dywed eraill mai yn O.C. 1198, y bu hynny, gan Meredydd a Gruffydd, meibion Owain Gwynedd. Perthynai i'r

dosparth o fynachod a enwid "Cisterciaid," ac yr oedd yn gyf- Iwynedig i St. Mair. Ymwelais à llanerch lle saif gweddillion yr. hen Fynachlog hyglodus, Medi 10fed, 1901, a chefais fod ei godid- owgrwydd cyntefig wedi cwbl gilio ymaith. O flaen ei ffenestri darniog a chysegredig gwelais foneddiges ieuanc a theg o Seis'nes yn paentio y gweddill fawrwychder a arosai o'r deml henafol, ac yn gwerthu cynyrchion ei thalent i ymwelwyr am elw mawr. Yna arweiniwyd fi gan gyfaill i weled yr adfeilion haeddbarch a safai o'm blaen. Sylwais ar lawer o gysylltiadau o'i heiddo'n gymysgedig âg adeiladau ffermdy'r Faner; eithr cedwid yr eglwys, fel ei golygid, gyda gofal parchus yn lled gyfan. Saif y pen dwyreiniol i fyny'n dalgryf er gwaethaf ystormydd, yn nhalcen pa un y ceir tair ffenestr bigfain, agos yn llawn o eiddew, tra'r mur deheuol a ddengys fwäau meini Gothaidd a philerau, yn aros er ymosodiadau oesau; a cheir yn agos ardeb o ben dyn wedi ei weithio'n gelfydd mewn maen. Dywed Hanes a Thraddodiad i Fynachod Abatty y Cwm Hir ddyfod i breswylio yma. Fel hyn y mynegir y peth:— "Hysbysir i gynulleidfa y Cwm Hir ddyfod i bresswylaw y y Cymer y Nannav y Meirionydd." Wrth hyn y golygir i nifer o aelodau ymadaw o'r gyntaf ac ymunaw â'r olaf, canlyniad, feallai, i ymosodiad Owain Glyndwr ar Abatty y Cwm, byddin yr hwn a'i hanrheithiodd.

Carnhuanawc, yn ei "Hanes Cymru," tud. 656, a edrydd yr ymgyrch canlynol, ar awdurdod Math. Paris: Pan ddeallodd Harri'r III. fod y Cymry o dan eu Tywysogion yn anrheithio'r ardaloedd Seisonig gyda llwyddiant parhaus, ac ddarfod i De Burgh dori penau rhai o'r gorchfygwyr Cymreig, a'u danfon i'w frenin i'w dangos: i Llewelyn, pan glywodd hyn, ffromi'n aruthr, ac ymosod ar diroedd yr Arglwyddi Seisnig, gan wneyd galanastra dirfawr. Pan glywodd Harri hyn digiodd yn enbydus: cynullodd fyddin fawr yn Rhydychain, wedi ysgymuno ohono Llewelyn, câd- deithiodd rhyngddo ag Henffordd, gan brysuro'n mlaen am gastell Trefaldwyn, lle gwersyllai'r Tywysog, mewn mangre isel gerllaw cors. Ac yma, medd M. Paris, y dichellodd faglau i filwyr y castell; ond Llewelyn a anfonodd fonach o fonachlog Cymer i daflu trem ar helyntion y câd-gyrchiad; a'r castellwyr pan welsant ef a aethant allan gyda brys i ymddiddan âg ef parthed tynged y Tywysog Llewelyn, yntau a'u hatebodd hwynt iddo weled Llewelyn mewn diffynle islaw, yn galonog, ac yn disgwyl am nifer ychwan- egol o filwyr ac adnoddau rhyfel. Gofynodd y milwyr drachefn a allai y marchogion fyned i'r gors ddywededig gyda diogelwch, pan yr atebodd y monach fod Llewelyn wedi tori'r bont, rhag eu rhuthriad hwy a'i ddiogelwch yntau; ond eto y gallent yn hawdd groesi y gors â'u ceffylau, ac ag ychydig farchogion orthrechu y Cymry, neu eu gyru ar ffo. Ar dderbyniad y genadwri archodd Wallter de Godarville, ceidwad y castell, i'w wŷr godi eu harfau, a chan esgyn eu meirch daethant gyda brys i'r lle. Ond y Cymry, mewn modd cyfrwys, a gymerasant arnynt ofni eu dyfodiad, gan ffug-ddianc i'r coed, a'r marchogion yn falch o hyn a yspardun- asant rhagddynt; ond nid cynt hynny nag y suddasant oll hyd at dòrau eu hanifeiliaid yn y llaid a'r anhrefn: a'r Cymry yn gwylied hyn a ddychwelasant yn eu holau, gan ladd y marchogion a'u meirch â'u gwaewffyn. "Os drwg cynt, gwaeth wed'yn." Dywed M. Paris i'r dialedd hwn o eiddo'r Cymry ffyrnigo'r Saeson fel ag y bu iddynt, mewn ysgarmesoedd tra mynych wedi hyn, fwrw eu llid ar yr hen genedl mewn moddau tra blinderus; ond y Cymry, fel y mae'n rhaid iddo gyfaddef, oeddynt drechaf gan amlaf. Wedi hyn bu iddynt gymeryd gedicis mab Rhichard de Argenton, câdwr galluog, ac ereill o lai nôd. Oddiwrth fynegiad yr awdwr Seisnig, ymddengys fod holl allu eu brenin yn ymgynulledig ar y maes, a'i holl fwriadau at ddarostwng y Cymry a'u gwlad; ond y brenin wrth weled anhyblygrwydd gwarau deiliaid Llewelyn i ymostwng i estroniaid, a chan gofio dichell yr abbad a bender- fynodd losgi'r Fonachlog: ond yr abbad a ddaeth i heddwch âg ef, gydag addewid y talai ef iddo dri chant marc o arian, ac mewn canlyniad ca'dd yr abbad-ty heddwch y tro hwn, trwy ddichell ac addewid.

Yn y flwyddyn 1244, bu ysgarmesoedd blinion a gwaedlyd cyd- rhwng y Saeson a'r Cymry o dan eu tywysog Dafydd ab Llewelyn, pryd y daeth Mynachlog ac Abbad y Cymer i'r wyneb yn dra amlwg. Pan oedd arfau yn methu darostwng yr hen genedl, ceisiodd brenin Lloegr, Harri'r I., gan Esgob Caerwrangon (Worcester) esgymuno Dafydd, a hynny a wneid "oddiar sail cytundeb ei ymostyngiad iddo fel ei uchdeyrn, a chadarnhad yr unrhyw trwy fygythiad o gerydd eglwysig, os byddai iddo ei dori." Credai Dafydd yn gryf yn nylanwadau'r Eglwys yn neillduol yn ngwedd. ïau'r mynachod, a rhag digwydd aflwydd iddo, anfonodd at y Pab am ei amddiffyniad yn erbyn Harri, gan geisio ganddo ei ryddhau oddiwrth ei lŵ o fod yn ymostyngol i frenin Lloegr. Tyngai mai ei orfodi a gafodd i wneyd y llw, ac addawai ddal a chadw ei Dywysogaeth yn ymostyngol i'r "Esgobaeth Sanctaidd," a thalu i'r Pab bob blwyddyn 500 o farciau (pob marc, neu morch yn 13s. 4c.) fel teyrnged. Ond ei Sancteiddrwydd y Pab, yn gyfrwys, er yn awyddus i'r cynygiad arianol, a betrusai benderfynu heb chwilio'n gyntaf am gyfiawnder ar wahan i honiad a deisyfiad Dafydd, a daflai ryddid i ddwylaw Abadau Cymer ac Aberconwy, trwy ysgrifenu, Gorphenaf 26ain, 1244, i chwilio'n fanol drwy'r holl achos apeliedig. A dywed Rapin, yn ei "History of England," i'r Pab awdurdodi Penau'r Abbattai hyn ddirymu'r llw, os ymddangosai'r ymchwiliadau iddo gael ei ddwyn oddiamgylch drwy ddirwasgiad. Gohebodd yr Abbadau hyn â'r brenin,—ar iddo eu cyfarfod yn Ngheri[2], ger y Drefnewydd, ar noswyl Agnus Sant, Ionawr 20fed, 1245, os gwelai ef yn angenrheidiol, i ateb i'r cyhuddiad a ddygid yn ei erbyn. Gweler yma mor fawr oedd dylanwad y mynachod mewn cymdeithas y pryd hwnw, yr oedd yn llaw y Tad o Rufain yn peri i orsedd y teyrn grynu! Ond methodd y myneich y tro hwn: gwelai rhaib Harri gynysgaeth braf o'i flaen, ac i'w henill, ond medru ohono blygu Dafydd i'w ufudd—dod. Cynlluniodd a chasglodd fyddin fawr i ddarostwng y tywysog Cymreig. Dygodd trwy gyfrwystra cyfranu arian i'r gyfrwystra—cyfranu arian i'r Pab—foddion arall i ategu ei ymgyrch ryfelgar yn Nghymru, enill ei Sancteiddrwydd o Ddinas y Tiber o'i blaid, ac yn llwydd ar ei arfau; a'r canlyniad a fu, ciliodd gwenau a bendith yr "Hen. Lanco Rufain oddiwrth Dafydd, trwy ei gyhuddo a'i gollfarnu, a difuddio pob bendith a gweddi ar ei ran yn y mynedol, a galw'n ol yr amodau rhyddhäol hynny o du Dafydd yn ei ymostyngiad i'r brenin; ond ni chafodd y teyrn Cymreig mo'i arian na'i fuddiant fyth.

Ar ddadgorphoriad y mynachdai yn nheyrnasiad Harri VIII., yn 1536, cyfrifid ei chyllid (revenue) blynyddol yn £51 13s. 4c.; yn ol arall, £58 15s. 4c.: pryd nad oedd yn 1291, namyn £11 14s. 11c. Llewelyn Fawr, yn 1209, a roddodd Freinlen i'r Abatty hwn, ac yn 1231, bu i'r arfynach godi 300 o farciau er prynu ei gollyngdod oddiwrth Harri III., yr hwn a'i cymerodd trwy frwydro â Llewelyn ab Iorwerth, ac oddieithr am ofal a meddylgarwch y casglydd a'r talwr uchod buasai'r Abatty hwn yn cael ei roddi i'r fflamau gan frenin Lloegr. Wedi hyn bu y Fynachlog a'i thiroedd yn nwylaw y Goron, yn y gwahanol deyrnasiadau dilynol heb ei chwbl roddi ymaith hyd ddyddiau Elsbeth Tudur, yr hon deyrnes a anrhegodd Robert, Iarll Leicester, â hi; ond ni wyddis yn sicr sut y treiglodd drachefn, nac i ba ddwylaw y syrthiodd. Oddeutu 1895 darganfyddwyd yn ddamweiniol lestri cymuno (Chalice and Paten), o aur pur, yr Abbadty hwn, gan ddau fwnwr, yn guddiedig rhwng dwy garreg ar Fynydd y Garn, agos gogyfer â'r deml addoli henafol hon. Feallai mai y Penmynach a'u dygodd ymaith i'w cuddio yn adeg cythrwfl y Dadgorphoriad. Bu darlun a'u harnodau Lladinaidd yn yr Illustrated London News, a chlywais mai'r Gywreinfa Brydeinig a'u meddianodd.

Pa sawl gwaith ar wawr a gosper, seiniai'r gloch ar hyd y glyn?
Pa sawl Ave, crêd a phader, dd'wedwyd rhwng y muriau hyn?"

Y PENTRE'.

lle safai unwaith

CASTELL CYMER,

yr hwn oedd wneuthuredig o goed, fel ereill o hen gestyll y genedl Gymreig, yr hwn a daflwyd i ffwrdd mewn ymrysonfa benderfynol, oddeutu y flwyddyn 1113.

Nodiadau

golygu
  1. Yn ol Mr. Wynne, o Beniarth, yn ei History of the Parish of Llanegryn, perthynai perigloriaeth a buddianau y lle hwnw a Llanilltyd a Llanfachraith i Fynachlog y Cymer; a Browne Willis a Dugdale a ddywed fod degymau y plwyfi uchod yn daladwy i'r unrhyw.
  2. A enwid felly oddiwrth "Ceri Hir Lyngwyn," taid Caradog, medd y diweddar Barch. John Jenkins, M.A., Ficer y plwyf.