Diwrnod yn Nolgellau/Llefydd o nod 3

Abaty'r Cymer Diwrnod yn Nolgellau

gan Robert Thomas Williams (Trebor Môn)

Cader Idris

HENGWRT.

Gwledd i feddwl a golwg a gaiff yr ymwelydd pan edy y dref, ar ddydd hirddydd haf, am filltir o daith yn nghyfeiriad Llanilltyd. Gwel Lys Mynach ar y dde iddo; yna ar y chwith, Dr. Williams' Endowment High School for Girls, a ddyga'r geiriau:—

"This Stone of the Dolgelley Girls' School was laid Sept. 21st, 1876, by Mrs. Holland, Caerdeon."

Wedi hyn denir ei sylw at y "Dolydd" (Wynne), a'r fron brydferth draw yn cynyg i'w sylw balasau heirdd o bob llun a maint. Swynir ei deimladau â cherddi digyffelyb a chyngherddau corau cymysg pob aderyn gwyllt yn rhoi ei salmau yn rhad ac am ddim. Wedi hyn, ar dröad y ffordd, wele Hengwrt, sydd yn hen bryseddfod olygus, a fu unwaith yn sedd i'r hynafiaethydd nodedig, Mr. Robert Fychan, ond sydd yn awr yn eiddo i Miss F. Cobbe. Ceir yma rif enfawr o Lawysgrifau Cymreig, a henafiaethau a hanesiaeth damlygol oreu'r Dywysogaeth. Ond heddyw ni chaiff henafiaethydd a'i drysorau fyned gam pellach na'r drws! Caed Miss F. P. Cobbe yn farw'n ei gwely Ebrill 5, 1904, yn 81 mlwydd oed. Undodiad oedd, a hanai o deulu Gwyddelig, ac yr oedd yn awdures y "Philosophy of the Poor Laws," "The Sick in Workhouses," a'r "The Workhouse as a Hospital." Yr oedd siars yn yr ewyllys ar i'r meddyg dori corn y gwddf cyn claddu'r corph er gochel perygl claddu'n fyw; yr oedd ei harch i fod o'r pren salaf, heb enw nac oed, ac na neb i wisgo du yn ei hangladd, a thrwy hyn gwelir mai dynes od ydoedd hon yn ei bywyd, yn ei marwolaeth, a'i chladdedigaeth. Claddwyd hi yn. Llanilltyd.

NANNAU

yw preswylfa harddwych Syr Robert Williams-Vaughan (Fychan), ac a saif oddeutu dwy filltir o Ddolgellau. Gorwedda ar fryn serth, uwch, meddir, na'r un palas boneddwr arall yn Mhrydain—702 tr. uwchlaw lyfel y môr, ac fe'i hadeiladwyd gan Syr R. Fychan, yn lle hen balas Hywel Sele, cefnder ffals a diegwyddor Owain Glyndwr. Mae parc Nannau yn un ëang, rheda am filltiroedd gyda ffordd y Bala, a hyd at odreu "Moel Offrwm," ac ynddo, cyn y flwyddyn 1813, ceid hen dderwen 27 tr. o gylchfesur, yr hon sy'n cario hanes hynod am ddiwedd H. Sele. Dywed Pennant iddo weled y dderwen hon, ar ei ymweliad â Syr R. V., yn y flwyddyn a enwyd, a phan oedd ar gymeryd ardeb ohoni, boreu y dyddiad hwnw, iddi-wedi noson tra phoeth-syrthio yn gruglwyth i'r llawr. Pan deyrnasai Harri IV., perthynai etifeddiaeth Nannau i Howel Sele, cyfaill calon a phleidiwr gwresog i deulu Lancaster, a gelyn anghymodlawn i Owain Glyndwr. Dyfeisiodd pen-mynach Abbatty'r Cymer gynllun i heddychu'r ddau hyn, ar iddynt, trwy ryw deler neu gilydd, gydgyfarfod yma; ac ymddangosai pobpeth fel wedi llwyddo. Ond tra yr oeddynt allan yn cydgerdded gwelai Glyndwr garw yn pori, a chan ei nodi yn nod i saeth Sele, yr hwn a ystyriai yn well saethydd. Ar eiliad plygodd Howel y bwa, gan gymeryd arno gyfeirio at y creadur: ond trodd oddiamgylch yn sydyn, ac a ollyngodd y saeth at Owain, ond ef a amddiffynwyd gan arfogaeth guddiedig, fel na dderbyn. iodd ddim niwed. Neidiodd Owain ato, gan gydio ynddo; rhoes ei balas yn dân ac yn lludw, ac ni welwyd H. Sele yn fyw fyth wedi hyn. O gylch 40 mlynedd ar ol hyn, darganfyddwyd esgyrneg (skeleton) dyn, a dybid mai y bradwr ydoedd, o fewn i geuedd y goeden enfawr a nodwyd uchod, yn môn pa un y dodasid ef gan ddwylaw digllawn O. Glyndwr. Adnabyddid y dderwen hon yn mhell ac agos, gan Gymry a Saeson, â'r enw ysgymun "Ceubren yr Ellyll." Ffurfiodd Glasynys chwedloneg ddifyrus o'r trychineb hwn, a ddyga y dynodiant "Ceubren yr Ellyll," cyhoeddedig yn "Cymru Fu," tud. 48.

"MOEL ORTHRWM."

Dyma fynydd cribawg sydd yn rhagfur oesawl ar fodrwy Parc Nannau, ar ba un y gosododd y diweddar Arglwydd Lytton beth hynodrwydd yn ei Ramant odidog ar "Arthur." Saif y Foel 2½ milltir o Ddolgellau, a 5 o Gadair Idris. Ei huchder yw 1200 tr., a phan ddaw teithydd i'r fro, awyddus am wel'd ceinion a rhyfeddodau rhamantus gwlad Meirion, ni wna'n well-pan fyddo'r Gadair a'i phen yn y niwl-na dringo yr uchelfa odidog hon, a fydd yn nes ato, a chaiff yn ad-daliad am ei dipyn blinder yr holl leoedd o werth a sylw ar a gofnodir yn y Traethawd hwn, yn un panorama fendithlawn yn cydgyfarfod o'i flaen. Dyga'r Foel gedyrn ragfuriau o'r oesau gynt, oddifewn i ba rai y ceir "cytiau," ac feallai'n wir mai "Cyttiau'r Gwyddelod" ydynt, gan eu bod yn dra thebyg i'r mathau hynny o adeiladau. Enwid y lle yn Foel Offrwm gan rai, ond nid oes un arwydd ar ei lloriau heddyw am na bwrdd nac aberth: eithr dyga ei henw ddyddiau blinion ein cyndadau atom, pan geid beunydd rhyw elyn o nod yn diweinio ei gledd yn ngwyneb y Cymro.

RHYD WEN.

Saif y lle hwn oddeutu milltir o'r dref ar ffordd Pen-y-bryn, yn mha le, Mawrth 31ain, 1881, y cyflawnwyd ysgelerwaith gan un Evan Jones, gynt argraphydd cyfrifol yn y dref, a diacon a ystyrid yn barchus gyda'r Annibynwyr. Bywiai Jones a'i wraig yn y lle a nodwyd ar eu moddion annibynol; collasant eu hunig blentyn, merch ieuanc dêg ac addawol, a byth wedi hyn ni chaid ei thad yr un dyn, ac aeth i gario syniad isel am ei wraig, ac wedi dychwelyd adref o bleser-rodio ac ymweled â chyfeillion ar brydnawngwaith, ymosododd ar ei wraig mewn modd llofruddiog, tra yr eisteddai hyhi o flaen y tân yn darllen papyr newydd. Holltwyd ei phen yn ddau â bwyell fechan, a rhedodd y llofrudd ymaith i ystafell uwchlaw, a diweddodd ei hun trwy dori ei wddf âg ellyn!

Nodiadau

golygu