Diwrnod yn Nolgellau/Cader Idris

Llefydd o nod 3 Diwrnod yn Nolgellau

gan Robert Thomas Williams (Trebor Môn)

Diweddglo

CADAIR IDRIS.

Dyma hen arsyllfa nodedig Idris Gawr, o fewn rhyw oesau pell yn ol. Cyplysir ef â Gwyn ab Nudd a Gwydion ab Don yn "dri gwyn serenyddion Ynys Prydain." Gelwid y cyntaf yn "gawr," yr ail yn frenin y tylwyth teg," a "phenaeth Gwlad Hûd a Lledrith," a'r trydydd yn "Buelydd Gosgordd" a "Gwyn Serenydd." Saif coryn y Gadair uwchlaw Dolgellau 2850 troedfedd, ac nid oes namyn dau drum yn Arfon yn uwch na hon.


Dywed un hanes y gellir cychwyn i'w phen oddiar lan y môr, gerllaw lle yr ymarllwysa'r afon Dysyni, oddeutu milltir o Dowyn, a pharha'n ddidor, i ddechreu ar yr ochr ogleddol am dair milltir, ac wedi hynny, am tua deng milltir, at y dwyrain-ogledd, gyda thröad am yn agos i dair milltir, gan ymestyn yn dde-orllewinol, yn gyfochrog â'r brif grib.

Y mae'r esgyniad o Ddolgellau yr hyn a gymer yn gyffredin tua thair awr yn dechreu tua milltir a haner o'r dref, ar ffordd Tywyn; ond trwy ymholiad gall y teithydd ddewis y llwybr canlynol: Eler i Perth-y-bryn, Bryn-y-gâd, heibio Tai Newyddion, Rhyd Wen, a'r Gilfach, gan basio Gwernan Villa, Llyn Gwernan, Ty Nant, Tyddyn Wnion, a'r Ffriddoedd, a dyna y tourist wrth droed y Gadair hyglodus.

Y mae'r Gadair yn gyfansoddedig o graig basaltig, ac ar gyfrif ei neillduolrwydd yn ffurf ei sefyllfa, y mae'n rhwym o fod yn fwyaf arluniol brydferth o'r holl fynyddau Prydeinig.

"Its most imposing aspect is on the south-east side, and it is seen to greatest advantage under gloomy lights. A pool, called Llyn y Gader, about a mile and a half on the high road to Towyn, may be taken as the commencement of the ascent, and after gradually winding up the steps of the mountain, passing several lakes by the way, an immense wreck of stones, is at last gained, presenting in many places so regular an appearance that they might be mistaken for Druidical remains; some of them stand erect like Meini Hirion, and one is dignified with the title Llech Idris. These basaltic formations vary in size, being usually from three to six or ten feet in length, some, however, are considerably larger, and measure sixteen or twenty feet. The peaks of this mountain consist of siliceous porphory, quartz, and felspar, enclosed in a green paste, with siliceous schistosa porphyry, intersected with veins of quartz and argillaceous porphyry in a mass, and a dark green paste. Several rocks contain component parts of granite and porphyry with a great proportion of white saponaceous quartz."

O ben y Gadair y mae golygfa ardderchog yn cyflwyno ei hun ger bron mewn amrywiaeth swynol, a phellder hirfaith, gydag ëangder o, yn y man lleiaf, tua 500 milltir, ac o fawreddigrwydd annychymygol. Ar y gogledd y mae'r drem yn cael ei therfynu gan y Wyddfa a'i chadwyni; ar y gorllewin y mae bau Aberteifi, yn cael ei ymylu gan fryniau Arfon; ar y ddehau y mae bryniau Maesyfed, a mynydd Plumlumon, gyda lled-olwg rhyngddynt, a bau Abertawe a Chaerodor, gyda phenau eglur Bannau Brycheiniog; ac ar yr ochr ddwyreiniol i Lyn Tegid, y ddau Arenig, a'r ddau Aran, a chadwyn hirfaith mynyddau y Berwyn, gyda bryniau Breiddin, a Wrecin, a hyd yn nod y Black Stone Edge ar ymylon swydd Lancaster. Ar ambell waith, pan y byddo y tywydd yn ffafriol, ceir golwg ar fryniau'r Iwerddon. O fewn cylch yr olygfa hon y mae amrywiaeth diderfyn o gyferbyniadau yn dilyn. eu gilydd, i ddifyru y llygaid ac i swyno y dychymyg, mewn cribau, pegynau, dyffrynau, llynau, porthladdoedd, trefi a phentrefi, yn uno i wneyd y darlun mwyaf tarawiadol i'r golwg.

Y mae y mynydd yn serth a chribog, ac yn llawn grug ar bob ochr, ac yn enwedig tua'r dê, hyd ymylon Tal-y-llyn, lle y mae y disgyniad o'r braidd yn unionsyth. Nid yw ei lêd yn dal cydmariaeth â'i hyd; pe tynid llinell o'i odreu dros y grib, prin y mesurai dros bedair milltir a haner; ac mewn rhai manau nid yw lled ei sail nemawr dros filltir.

Y mae y rhaiadrau sydd yn y gymydogaeth yn hynod a mawreddog, o'r rhai hyn y mwyaf yw y "Rhaiadr Du" (Rhaiadr Dolmelynllyn), yn gyfagos i'r bumed garreg filltir ar ffordd Traws- fynydd; cyrchir ato trwy lwybr yn arwain ar y chwith i'r brifffordd, i fyny hyd lwybr coediog, lle y gwelir yr afon Camlan yn bwrw ei dyfroedd dros glogwyn o tua 40 tr. o godwm, mewn dwy brif len, a thrwy gilfachau culion, i wely tywyll yn y graig, lle y rhuthra allan yn ewyn berwawg, digllawn, ac a gollir o'r golwg yn fuan yn nghoedydd cauadfrig y gymydogaeth. Y mae golwg eilwaith i'w gael arno wrth ddilyn trwy lwybr dyrus, nes dyfod i odreu y ceunant, lle yr egyr golygfa darawiadol iawn, gyda rhaiadr arall o tua 30 tr. o godwm gerbron; ar y chwith, gwelir y rhaiadr blaenorol yn ymluchio dros y clogwyni, yn cuddio y cyfan á gwisg o ewyn canaid rhwng creigiau wedi cael eu coroni ag addurniadau o goed tyfadwy. O fewn tua dwy filltir i'r rhai hyn, ar y gogleddddwyrain, mewn dyffryn cul, dwfn, llawn o goed, y mae ceunentydd Pistyll Cain," a "Phistyll Mawddach," o fewn ychydig o bellter oddiwrth eu gilydd; cyrhaeddir y cyntaf drwy groesi pont wledig, wedi ei llunio drwy gorph derwen wedi ei gogwydd o'r naill graig ar y llall, uwchlaw agen ddofn, gul, drwy yr hon y mae y "Cain" yn ymwthio gyda thrwst mawr, ac ymosodiad bygythiol; wedi disgyn i'r gwaelod, y mae'r afon i'w gweled yn ymyru rhagddi hyd estyll o'r graig, oddeutu 200 tr. o uchder, agos yn unionsyth, yn disgyn ar gerrig wedi eu treulio i ffurfiau cywrain a rhyfedd iawn.

Y mae Pistyll Mawddach" yn cynwys tri chodwm, y cyntaf yn ffurfio llen o ddwfr tua 20 tr. o lêd, ac yn agos i hyny o uchder, yr hwn sydd yn cael ei dderbyn i gelwrn naturiol, tua 30 tr. o draws-fesur, yna rhêd yr afon dros yr ail glogwyn, gyda chwymp o tua 30 tr. i ail gelwrn, mwy na'r cyntaf: ac oddiyno drachefn, gan ymgulhau, dros drydedd astell, gyda chodwm o 20 tr., i lyn eang, o'r hwn y rhéd yn ffyrnigwyllt nes ymuno â'r "Cain."

Y mae afon fechan "Clywedog," sydd yn codi ar lechwedd Cader Idris, o fewn y plwyf hwn, ac yn ei llwybr o tua dwy filltir, yn ffurfio amryw fân raiadrau, ond rhai ohonynt yn ffurfio cwympiadau o 50 tr., ac yn wrthddrychau o gryn ddyddordeb i bob ymdeithydd ymofyngar. Y mae'r afon yn rhedeg drwy diroedd amryw foneddion yn y gymydogaeth, gydag ymylon yr hon y mae Ilwybrau hyfryd i rodio, er cael mantais i weled y rhaiadrau; ac ar ol gwlawogydd trymion y mae eu trwst yn hynod drwy eu disgyniad,

Rhaiadr ar raiadr a rydd
Dwrw gwyllt drwy y gelltydd,"

nes adsain yr holl ardal, a difyru'r ymdeithydd. Y ffordd i'r llwybr rhamantus sydd gerllaw Caerynwch ydyw trwy y ffordd a aiff am Machynllaith tua milltir; dilyn y llwybr ar y chwith sydd
yn arwain at felin Clywedog, ac yno, heb groesi y bont, troi ar y ddé drwy y llidiart, a chyfeirio gyda'r llwybr ar fin afon y mynydd; y mae'r esgyniad yn dra syth am tua milltir neu ychwaneg, gydag ochr yr afon, ac yn ngolwg ei chwympiadau, sydd yn ferw gwyn dros y gwely lle y rhêd.

Rhaid i'r day's trip tourist gael arweinydd cyfarwydd o Ddolgellau, neu le arall, hyd goryn y Gadair, gan na fydd ddiogel fel dyn dyeithr ar lwybrau dyeithr, rhag digwyddo'r hyn a fyddo gwaeth y mae aml un wedi colli ei fywyd trwy fympwy a chrintachrwydd, yn ymddiried gormod iddo ei hun, ac ofn y draul o ychydig sylltau am arweinydd da a gofalus, i'w gymeryd i esgynlawr y rhyfeddodau oll, lle y caiff ei dalu mewn modd triphlyg yn nheml fawr natur, yn arddangosfa odidog celfau cain y greadigaeth ddigoll.

Y diweddar Mr. John Parry, Caerlleon, yn ei Cambrian Mirror, p. 138—9, a ddyry ddarluniad dyddorol o arweinydd hên a hynod yn Nolgellau, a arferai dywys dyeithriaid i ben Cader Idris, yn ei ddyddiau ef fel hyn:"Here formally lived an eccentric old man, not unknown to many of those who have visited this place: he filled the office of guide to Cader Idris with so much credit to himself as pleasure to the stranger whom he conveyed. Mr. Pugh in his Cambria Deptica,' has given a portrait of him from life, seated upon his pony, conducting a party up the mountain. The following ludicrous description conveys a pretty accurate idea of the little fellow:— Robert Edwards, second son of the celebrated tanner, William Edwards, ap Gryffydd ap Morgan ap David ap Owen ap Llewelyn ap Cadwaladr, great, great, great grandson of an illegitimate daughter of an illustrious hero (no less famed for his irresistible prowess when mildly approaching under the velvet standard of the lovely Venus, than when sternly advancing with the terrible banners of the bloody Mars) Sir Rice ap Thomas!!! by Anne, alias Catherine, daughter of Howel ap Jenkyn, of Ynys-y-Maengwyn; who was the thirtieth in descent from Cadwgan, a lineal descendant of Bleddyn ap Cynfyn, Prince of Powys. Since the day of his nativity, full two and eighty times hath the sun rolled to his summer solstice! (He was 82 in March, 1805). Fifty years was he the host of the Hen and Chickens ale house, Penybont, twenty of which he was apparitor to the late Right Rev. Father in God, John, Lord Bishop of Bangor, and his predecessors; by chance made a glover; by genius a fly dresser and angler. He is now, by the all divine assistance, conductor to and over the most tremendous mountain Cader Idris to the stupendous cataracts of Caen and Mawddach; and to the enchanting cascades of Dolymelynllyn, with all their beautiful romantic scenery; guide-general and magnificent expounder of all the natural and artificial curiosities of North Wales; professor of grand and bombastic lexicographical words; knight of the most anomalous, whimsical (yet perhaps happy). order of hair—brained inexplicables.

Mark, traveller, what rarely meets thy view,
Thy guide, a giddy boy of eighty-two."

As this celebrated character, with all his titles of honour and appointments, is gone to his long home, we will endeavour to furnish the tourist with a sort of substitute; but as we do not possess the twentieth part of his abilities, the tourist, of course, will excuse all imperfections, and take the will for the deed." As this celebrated character, with all his titles of honour and appointments, is gone to his long home, we will endeavour to furnish the tourist with a sort of substitute; but as we do not possess the twentieth part of his abilities, the tourist, of course, will excuse all imperfections, and take the will for the deed."

HAFDY CADER IDRIS.

Fel y canlyn yr englynodd y diweddar Feurig Ebrill i'r Hafdy uchod:—

Gwnaethpwyd plâs addas dan sêr—i fawrion
Ddifyru eu hamser;
Hwyliwyd coed, a heliwyd cêr,
I'w godi'n mhen y Gader.

Tŷ clodwych, mawrwych, mirain,—tŷ iachus,
Tŷ ucha' yn Mhrydain :
Caerog adeilad cywrain,
Nerthawl, o anferthawl fain.[1]


Ei fuddiawl, ethawl dylathau—gwiwrwydd,
Sy' gerrig difylchau;
Byrddau trwchus, clodus, clau,
Odderwydd yw ei ddorau.

Ei gelloedd heb ddim gwallau,—dda hinon,
Sydd hynod o olau;
Lle braf tra bo i'r haf barhau,
Draw i edrych drwy wydrau.

Drychwydrau'n ddiau a ddwg—der hirfaith
Dir Arfon i'r amlwg;
Gwelir ar yr un golwg
Dir Môn, pan 'madawo'r mwg.

Gwelir golygiad gwiwlon—oddiyno
Hyd ddinas Caerlleon,
Ac o'r un lle ceir yn llon
Gweled mawredd gwlad Meirion.

Gwelir, pan dremir drwy'r drych—o'r celloedd,
Dir Callestr[2] a Dinbych,
A swydd Maldwyn werddlwyn wych,
Trwy wiwdrefn, ond troi i edrych.

Gwiwlwys oddiyno gwelir—yr un fath,
Ran fawr o'r Deheudir;
Mae'n werth (nid rhaid amheu'n wir)
Myn'd yno, y man adwaenir.

At yr hyn a ysgrifenwyd am Idris a'i Arsyllfa, gellid dyweyd yn ychwaneg fod y "Trioedd" a'r "Mabinogion " yn cynwys wmbredd o draddodiadau rhamantus a chwedlau ofergoelus parthed hynt y genedl Gymreig. Ymddengys cymeriadau hynod y dydd, ag sy'n dal perthynas hanesiol â'r gwahanol ddaroganiadau a dirgeledigaethau, yn nhrafodaeth aml eu gwlad, pa un bynag ai sylweddol ai dychmygol a fyddant. Dygir gerbron Feli ap Manhogan, penteyrn y Prydeiniaid, rhyw ddau canrif cyn Crist: Math ab Mathonwy, Gwydion ab Don, Menaw ab Teirgwaedd, Uthr Bendragon, Rhuddlwm Gawr, Eiddilic Gor, Cilfaethwy a'i feibion—

Bleiddwn Hydwn a Hychdwn,—
"Tri meib Gilfaethwy enwir,
Tri o ryfelwyr synir,
Sef Bleiddun, Hydwn a Hychdwn hir."


Llew Llaw Gyffes, Gronw Pebyr; ac ar lan afon Cynfael, yn Ardudwy, y mae llech a thwll ynddi, a gelwid hyhi'n "Llech Gronw," Mabon ab Modron, &c., &c. Ystyrir Math, Menaw, a Rhuddlwm yn "Driwyr Hud a Lledrith Ynys Prydain ;" yna daw Daronwy yn dwyn ymgiprys å'r cyntaf ar bren sy'n rhagori ar eiddo Daronwy, pan atebir ef fod ffon ddewiniol Mathornwy yn dwyn pereiddiach ffrwyth ar lan afon y Gwyllion. Wedi hyn ymddengys Gwydion ab Don yn swyno Math, ac yn gwneyd campau fel serydd, yn ogystal ag Idris Gawr, a Gwyn ab Nudd: a chan faint eu gwybodau am y sêr, a'u hanianau, a'u hansoddau, y daroganynt a chwenychid ei wybod hyd yn nydd brawd.- Tri O. G.

Pa un ai cymeriad gwirioneddol ai dychymygol oedd Gwyn fab Nudd nis gellid penderfynu, modd bynag, edrychid arno'n gymeriad tra nodedig gan y Derwyddon, a bu iddynt ar gyfrif gorchestion dihafal Gwyn ei wneyd yn Frenin y Tylwyth Teg. Am Idris, yr oedd ef yn serydd celfyddgar, a'i swyddfa i wylied y bodau. wybrenol ydoedd Cader Idris-coryn y mynydd uchaf yn ngwlad Meirion, 976 o latheni o lan y môr, is na'r Wyddfa o 352 of latheni i efrydu cylchdeithiau y sêr afrifed, a dysgu ganddo ef a Gwydion a Don, a Gwyn ab Nudd, dynged a damwain dyn, medd. y Trioedd. Golyga'r enw Cader sefyllfa amddiffynol neu filwraidd, ac felly o'r un ystyr â "gwerthyr," "dinas," a "gwarchle," medd y diweddar Owain Williams, o'r Waenfawr; a'r ystyr cyffelyb a ddyry'r diweddar Cynddelw yw "diffynle," "dinas," "eisteddfa," "sedd," "gorsedd," a "gorsedd bardd," yn ei "Eiriadur Cymraeg Cymreig." Y mae cafniad yn y graig ar ffurf cadair, man yr eisteddai yr hen ddewin, ys dywed traddodiad, i fyfyrio ac i olrheinio i helynt a hynt y lleuad newydd, ar hon y dibynai'r holl wyliau Derwyddol; a phwy bynag, meddid, a dreuliai noson yn yr eisteddfa hon, a geid yn y boreu, naill ai yn fardd, yn wallgof, neu yn farw. Rhoes y Parch. E. Evans (leuan Brydydd Hir) brawf ar hyn trwy gysgu noson ynddi, ond nis gwyddom a ragoriaethodd hyny ar ei ddoniau. Ystyrid Idris yn gawr mewn corph a meddwl, fel nad oedd Hector neu Goliath ond corachod yn ei ymyl, a beth a wneir son am gewri fel Adda, oedd yn 123 tr. a 9 m. daldra; Noah, 103 tr. 6% m.; Abraham, 28 tr. 38 m.; Moses, 13 tr.; dyn yn nyddiau Romulus, 8 tr.; dyn yn amser genedigaeth Crist, 7 tr. 2 m., medd y Mem del Academy Belles Lettres, gan yr enwog M. Henrien, nid oedd y rhai hyn namyn eiddilod i'w cydmaru âg Idris, wrth i ni feddwl am y "Tri Graienyn" cerrig yn amryw dunelli o bwysau yn ein hoes ni, ond yn nyddiau y cawr a ystyrid ddim ond graian yn ei esgidiau, pa rai a daflodd Idris ymaith i gyfeiriad y llyn pan gerddai i'w observatory ar y mynydd, medd traddodiad. Y mae gan yr Arabiaid Idris, serydd medrus, yr hwn a elwid ganddynt yn Enoch, un o drigolion cynddylifaidd ; ac y mae hanes a gweithredoedd Idris y Cymry ac Idris y Dwyrain mor debyg gan. draddodiad fel y tybia ambell un a ddarlleno eu hanes a'u hynt mai'r un ydynt. Diau fod y naill a'r llall yn hanfodi ar yr un adeg, a bod eu cyflawniadau synfawr ar gerdded o fewn yr un oes, oblegid dygant y dylif a'i ddinystr yn Nghymru ac yn y Dwyrain mor eglur a thebyg yr un pryd, a dichon fod enw Cader Idris cyn hyned a'r oes ddylifaidd, ond rhy anhawdd yw penderfynu ar ddyddiad dechreuol y pethau hyn, llawer llai ar dreigliadau hanesiol a rhyfeddol y cyfryw; eithr amlwg yw iddynt gael eu dechreuad rywbryd, a hyny ar wahan hollol i unrhyw fynegiad Ysgrythyrol am foddiad y byd. Sonir am gewri bodau annaearol o'r enwau "Gwyllion," a drigant mewn llynoedd, a'u daroganiadau a'u dirgeledigaethau hynod o'r eiddynt yn mrig yr hwyr ac yn nyfnder y nos. Am gåd waedlyd fu cydrhwng Gwydion ab Don a rhyw fodau erchyll ac annaearol un boreuddydd yn mynyddau'r Eryri, yn Nant Ffrancon.

Y mae genym filoedd o greaduriaid dychymygol a dychrynllyd ar glawr hanesiaeth fel "Ellyll Ciwdawl," "Ellyll Llyr Merini," ac Ellyll Gwrthmawl Wledig," a gyfrifid mal Tri Tharw Ellyll Ynys Prydain,"-Tri. 94. Hefyd, brithir dalenau llyfr hanes gwlad y Brython à chymeriadau hynodfawr fel Ceridwen (duwies awen), Afagddu ei mhab, o derfynau uffern yr hanai'r gwr hwn: Drych ail Cibddar, Dos ab Deigr, Gliniau ail Taran, Olwen (codai blodeu gwynion yn ôl traed hon), Grathach, Duach, a Nerthach (gwŷr o uffern ydoedd y rhai hyn), Henbedestyr a Henwas Adeiniog, nid allai dyn ar geffyl ganlyn y ddeuddyn hyn. Sgilti Ysgawndroed a äi i neges tros ei arglwydd, ac a gerddai ar frigau'r coed; Drem ab Dremidydd a welai o'r Gelli Wig yn Nghernyw (Cornwall) wybedyn yn codi efo'r haul yn Blathaon, yn Ngogledd Prydain. Gilla Coes Hydd, yr hwn a allai neidio tri chan' erw ar un naid. Gwadyn Osol, gan faint ei bwysau, a suddai y mynydd uwchaf: Sol a allai sefyll ar ei untroed am ddiwrnod cyfan: Henfydd Hen, Ellylw ach Niwl Cyngrog, Gair ab Geirion, Clust ab Clustfeiniat (pe claddesid ef naw cufydd yn y ddaear, gallai glywed gwybedyn ddeng milltir o ffordd yn codi o'i lwth yn y boreu), Gwrhir Gwastawd leithoedd (yr hwn a wyddai bob iaith), Medyr ab Methredydd o'r Gelliwig (gallai ef saethu y dryw rhwng ei ddwygoes hyd ar Esgair Oerfel yn Iwerddon), Gwiawn Lygad Cath (yr hwn allai dori pilen oddiar lygad gwybedyn yn ddiarwybod iddo), Ol ab Olwydd (saith mlynedd cyn ei eni lladratäwyd moch ei dad, ac ar ol iddo dyfu'n ddyn efe a'u holrheinies, ac a'u dygodd yn ol yn saith genfaint), Belwini Esgob (yr hwn a fendigai fwyd a diod Arthur Frenin), Gwenllian Dég (y forwyn fawrfrydig), Morfudd ferch Urien Rheged, Creiddylad ferch Lludd Llaw Eraint (y fenyw ardderchocaf yn nhair Ynys y cedyrn a'u tair rhagynys; ac am hono y mae Gwythyr ab Greidiawl a Gwyn ab Nudd yn ymladd bob dydd Calanmai hyd ddydd brawd), Ellylw ferch Neol Cyn-Crog (yr hwn a fu byw am dair oes); Olwen, cariadferch Cilhwch ab Cilydd (gwisg o sidan fflamgoch oedd am dani, a chad- wen o ruddaur a pherlau emerald oedd am ei gwddf; melynach oedd ei phen na blodau y danadl, a gwynach ei chroen nag ewyn y don. Tecach oedd ei dwylaw a'i bysedd na blodau'r anemoni yn ewyn ffynon gweirglodd dysglaeriach oedd ei llygaid na golwg y gwalch a'r hebog: gwynach oedd ei dwy fron na bron yr alarch gwyn, cochach ei dwyrudd na'r claret cochaf: pedair o feillion a dyfent yn ol ei throed, pa ffordd bynag y cerddai: ac am hyny y gelwid hi Olwen, a hi oedd ferch Yspaddeden Pencawr: Cai (gallai ef ddal ei anadl dan ddwfr am naw niwrnod a naw nos a byw am naw niwrnod a. naw nos heb gysgu). Sandde Bryd Angel (ni chyffyrddwyd ef yn mrwydr Camlan oherwydd ei brydferthwch pawb a dybient mai angel o'r nef ydoedd). Huarwas ab Aflawn, yr hwn ni cheid gwên ar ei wyneb ond pan fyddai wedi ymddigoni). Sugyn ab Sugnedydd (sugnai hwn fôr a thri chan long arno, hyd oni fyddai'n draeth sych). Rhagymwri, gwas Arthur (dangosid yr ysgubor a fynid iddo ef, os byddai cynyrch deg aradr ar ugain o'i mewn, efe a'i tarawai â ffust haiarn nes byddai'r trawstiau a'r tylathau mor fân a'r mân-geirch ar y llawr). Gwefyl ab Gwastad (y dydd y byddai efe drist, gollyngai ei wefus isaf i lawr hyd at ei fogail, a'r wefus uchaf a fyddai fel penguwch am ei ben). Uchtryd Faryf Draws (yr hwn a ledai ei farf goch annhrefnus tros wyth trawst a deugain llys Arthur), &c., &c. Bu'r cymeriadau hynod hyn yn ddolenau euraidd yn nghadwen werthfawr hanesiaeth ein gwlad, ac yn rhwymau o gadernid am helynt a hanes ein cenedl, y rhai a ddaliodd gymundeb cymdeithasol Cymru'n gyfan a digryn am ganrifau lawer, yn nadguddiad nerth pa rai y blodeuai gwladgarwch a ffyniant cenedlaethol bywiog, ymlyniad gwresog calonau y bobl â'u gilydd mewn unoliaeth. teimladau, a chwbl hunanymwadiad i reddf ac anian gorddewr yn mhlaid yr anianawd Gymreig, er gwaethaf holl ymosodiadau pob estron genedl.

Arweddau yn hanes cenedl yw y pethau uchod, ond os y'u cyfrifir yn ffolineb gan rywun, gallwn ninau hyf-ddywedyd eu bod yn ddoethineb o'u cydmaru âg hanesion dychymygol y Groegiaid, a chenhedloedd ereill, a dweyd y lleiaf. Yn oes Derwyddiaeth, wrth gwrs, yr oedd y cymeriadau hyn yn hanfodi, ac yn eu dydd- iau hwy hefyd y teflir pelydrau o oleuni ar y manau hynny o'n gwlad y claddwyd aml ŵr enwog, gydag Englynion Triban y Milwr. Rhwng Cader Idris ag Oerddrws y mae ardal o'r enw Gwanas, lle'r oedd plwyf ac eglwys o'r enw gynt, ond yn awr yn gysylltiedig a phlwyf Dolgellau. Ymddengys fod y lle mewn cyfrif mawr oddeutu y flwyddyn 1460 O.C., canys o fewn cylch yr amser a nodwyd crybwyllir am y lle gan Lewis Glyn Cothi yn ei awdl ardderchog i Gruffydd ap Nicholas o'r Dre'newydd, sef o Ddinefwr. Medd ef,—

Gwin llawn gwir a iawn, llyna'r gras—a gawn
Y gan fab Nicolas,
Ei darogan hyd Wanas
Ydd wyf ar ol Adda Fras.

Medd Owain Williams o'r Waenfawr yn "Ngheninen" Gor., 1892. Credir i'r Gader fod yn llosgfynydd rhyw oesau pell yn ol. Oddeutu y fl. 1861, ymddangosodd yr hanes canlynol (beth bynag am y ffaith ohono) mewn cyhoeddiad cyfrifol, pa un a ddifynwyd y flwyddyn ganlynol gan ddetholydd cynyrchion dyddorol "Cymru Fu," o dan y penawd "Cader Idris," pa un a ddyfynwn air am air, gan hyderu y bydd o fantais i'r ymwelydd â Dolgellau yn rhyw ystyr neu gilydd

"Gerllaw godreu Cader Idris y safai palasdy bychan y Talglyn, a breswylid gan ddarn o wr bonheddig o'r enw Gruffydd, yr hwn oedd wr gweddw ar y pryd, a chanddo ddau fab a thair o ferched. Yr oedd y merched hyn yn meddu cryn lawer o swynion personol, yn enwedig yr ieuengaf, yr hon, er mwyn hwylusdod a alwn yn Gwenlliw. Anfynych y cyfarfyddodd cynifer o ragorolion yn yr un person. Gwenlliw ydoedd canwyll llygad ei thad, gan mor debyg ydoedd i'w diweddar fam, a'i brodyr a'i chwiorydd a dybient nad oedd ei bath o fewn y byd. Nid oedd yn debygol chwaith y diangasai y ddau lygad gleision dysglaer hyny, a'r gwallt sidanog, arianaidd, a'r ffurf luniaidd, wisgi, ysgafndroed, rhag edmygwyr yn mysg cenedl sydd mor hoff o lendid a thegwch gwedd. Ond nid oedd Gwenlliw chwaith yn ddifai mwy na rhyw dlws daearol arall: ac os gweddus adrodd. ffaeledd delw mor bur o brydferthwch, bai y wyryf hawddgar hon oedd ei bod braidd yn rhy on a phenderfynol. Un haf daeth câr i'r teulu ar ymweliad â'r Talglyn o Loegr, gwr ieuanc o gyfreithiwr, a swynwyd ef gymaint gan degwch Gwenlliw fel y syrthiodd i gariad â hi tros ei ben. Trwy gydsyniad y rhieni o'r ddwy ochr dyweddïwyd y pâr ieuanc y pryd hwnw; eithr oherwydd ieuenctid y wyryf, gohiriwyd y briodas am flwyddyn neu ddwy yn mhellach. Dychwelodd Griffin (y boneddwr ieuanc) i Loegr i efrydu a thrin y gyfraith, ac a welodd flwyddyn cyhyd ag oes un o'r tadau cynddiluwaidd ; ac er fod amser fel pe wedi sefyll, daeth yr adeg hir ddisgwyliedig i ben, ac ail gyfeiriodd yntau ei gamrau tua Chymru i syllu ar ardduniant ei golygfeydd digymhar, ond yn benaf oll i weled ei anwylyd, i gynwys pa un, yn ol ei dyb orphwyllog ef, yr oedd Cymru wedi ei chreu, fel blwch ardderchog i gynwys y deimwnt gwerthfawr. Nid oedd absenoldeb o flwyddyn wedi oeri dim ar serch y naill at y llall; eithr i'r gwrthwyneb, yr oedd yn fwy angherddol, a phrofai yn ddiymwad fod eu dedwyddwch yn gorwedd yn nghwmni eu gilydd. Daeth y gwr ieuanc yn fuan i adnabod neillduolion cymeriadol ei gariadferch; a dyrchafodd hyny ei syniadau am dani-ystyriai ei beiddgarwch yn fath o rinwedd newydd yn ei nodweddiad. Treuliwyd yr wythnos gyntaf o ymweliad Griffin mewn rhodiana hyd fryniau a llechweddau yr ardal, a dawnsiai Gwenlliw ar grib clogwyn ag na buasai gafr yn meiddio sangu arno; hi chwareuai ar geulan rhaiadr ag y buasai llithriad ei throed bychan yn ei hyrddio ddegau o latheni i'r aig trochionog islaw. Yr oedd gwaed ei chyfeillion yn sefyll yn oer wrth sylwi ar ei heondra; ond pe ceisiasent ei darbwyllo o'r perygl ni buasai hyny ond ychwanegu ei beiddgarwch. Ar ol treulio diwrnod yn un o'r ymgyrchiadau hyn, yn yr hwyr cyd-eisteddai y cwmni oddeutu y tân, a throdd yr ymddiddan ar draddodiadau Cymreig. Yn mhlith ereill, dygodd Gwenllian y traddodiad am Gader Idris gerbron, sef, fod i bwy bynag a dreuliai noson yn y Gader fod naill ai "yn wallgof, yn fardd, neu yn farw " erbyn tranoeth. Dywedodd ddarfod i Taliesin a Myrddin fyned trwy y prawf llymdost, a dyfod i lawr o'r mynydd yn y boreu yn feirdd godidog. Dygodd Gwenlliw hefyd gerbron hanes Pendefiges y Gader' yn y 13eg ganrif, yr hon a benderfynasai brofi gwiredd y traddodiad yn y gobaith o gael eneiniad corn olew yr awen. Ymdrechodd ei chyffesydd a'i chyfeillion ei pherswadio o annoethineb ei phenderfyniad; ond nid oedd dim yn tycio: yn unig hi esgynodd y mynydd ar y noson appwyntiedig gan wynebu cynddaredd yr ystorm, ac aneirif ysbrydion y tywyllwch a ddawnsient yn yr oes hygoelus honno ar bob twmpath a bryn. Pan aed i ymofyn am dani boreu dranoeth, cafwyd hi yn welw a marw, a'r gwynt dideimlad yn siglo torchau ei gwallt du, sidanaidd, yn erbyn cerrig llwydion. y Gader; a'r difrifoldeb argraffedig ar ei gwynebpryd tirion yn profi yn ddiymwad mor galed fu angau wrthi. Gwrthodwyd iddi gladdedigaeth Gristionogol yn meddrod y teulu oherwydd ei hanufudd-dod i gynghorion ei hoffeiriad; ac o ganlyniad, ychydig o'i chyfeillion a'i pherthynasau galarus a'i claddasant hi yn ddistaw ac wylofus o dan domen o gerrig ar lechwedd y mynydd. Wedi adrodd y prudd—hanes uchod, cymerth Gwenlliw ei thelyn, a chwareuodd arni un o'r hen alawon syml a chynhyrfus Cymreig. a wefreiddiant yr enaid, ac a barant i Gymro anghofio ei ddyndod. Dylynai y fanon ieuanc y delyn mewn llais lleddf a thyner, yn gyntaf gyda geiriau gwladgarol rhyw hen fardd Cymreig; ac wed'yn mewn dernyn coeth teimladol o waith y farddones ddiguro honno, Mrs. Hemans. Yr oedd Gwenlliw wedi ei llyncu i fyny gan Hanes Pendefiges y Gader,'—ystyriai hi yn siampl i fenywod y byd, ac yn arwres deilwng i'w hefelychu.

"Ond nid felly am y gweddill o'r cwmni: un a'i beiai am ei rhyfyg, y llall a gondemniai ei hanufudd-dod i'w chynghorydd crefyddol, ac arall a wawdiai ei hofergoeledd yn y fath dyb wirionffol ond Griffin, oherwydd hynodrwydd yr hanes, ac yn unol âg arfer ei gydwladwyr call am bobpeth Cymreig, a wadai fodolaeth y Bendefiges o gwbl.

"Nid effeithiodd gwrthwynebiad ei brodyr a'i chwiorydd ond ychydig ar dymer Gwenlliw; ond chwerwodd geiriau diystyrllyd Griffin holl felusion ei henaid, a chan daflu golwg ddirmygus arno, hi a'i hanerchodd:—

"Nid ydych yn gwybod eto beth ydyw nerth penderfyniad merch; ond diamheu y cewch wybod cyn hir.' Ac er fod y geiriau yn cael eu llefaru gyda phwyslais dwys, a gwefr yn neidio o lygaid y ferch ieuanc wrth eu traethu, ni thybiodd neb o'r cwmni fod ystyr pellach iddynt nag arddangosiad o deimlad brwdfrydig ar y pryd.

"O hynny allan ni addurnodd gwên wyneb hawddgar Gwenlliw: hi edrychai yn synedig, fel pe buasai ei meddyliau wedi ymgladdu mewn rhyw gynlluniau pwysig. Yna daeth adeg y Nos da'wch,' ac Am y cyntaf i lawr yn y bore,' ac mewn prudd-der dyeithr yr ymadawodd Gwenlliw am ei hystafell-wely.

"Nid oedd meddwl Griffin chwaith yn gwbl dawel oherwydd ei amryfusedd yn gwadu un o hoff dybiau ei anwylyd. Y peth cyntaf a dynodd ei sylw wedi cyrhaedd o honno i'w ystafell, ydoedd chwiban cwynfanus y gwynt oddiallan; ac wedi codi llen y ffenestr, efe a welai yr awyr yn llawn cymylau duon mawrion bygythiol, a holl natur fel pe buasai yn y weithred o ddarllaw rhyw ystorm ddychrynllyd. Tynodd ei hunan yn ol mewn arswyd o ŵydd y fath olygfa gyffrous, a diolchai mai yn ystafell-wely gysurus y Talglyn yr oedd i dreulio y noson, ac nid ar fôr, neu ar un o lethrau digysgod y mynydd; ac, er i sŵn pruddaidd y gwynt ei süo yn fuan i gysgu, yr oedd ei feddwl yn llawn bywiogrwydd, yn crwydro o'r naill fangre i'r llall, a chreu mil myrdd o ddychymygion gwylltion a rhamantus.

"Ond y lle yr ymsefydlai arno yn fwyaf neillduol oedd Cader Idris. Breuddwydiai ei fod yn crwydro hyd ei chopa yn mhlith y cerrig mwsoglyd, gerllaw y gadair doredig yn y graig, a'r aphwys dychrynllyd islaw iddo. Ac nid oedd y Gader yn wâg. Eisteddai ynddi un o ymddangosiad fenywaidd. Efe a welai ei gwisg wen yn siglo trwy dywyllwch y nos; a'i gwallt rhydd yn ymdóni o flaen yr awelon, ac un llaw iddi fel pe yn gorchuddio ei llygaid rhag rhyw olygfeydd annymunol, tra yr ymgydiai y llall yn mraich yr orsedd. Rhuai y taranau yn y clogwyni fel pe buusent yn eu malurio yn deilchion, a fflachiai y mellt yn ffyrch flamllyd, gan amgylchu pen y foel â thalaith o dân, âc wed'yn disgynent yn is, gan daflu eu gwawl brwmstanaidd ar y druanes a eisteddai ei hunan yn nghanol cynddaredd yr elfenau. Yna ymdywalltai yr ystorm yn ei holl nerth ar ben y mynydd-yn gesair hyrddiedig gan wynt, a'r ffurf welw yn y Gader gyfareddol a oddefai y cyfan. Clywai y breuddwydiwr leisiau annaearol yn gymysgedig â gruddfanau y corwynt, a gwelai glytiau mawrion o iâ yn llithro heibio yn nghanol luwchfeydd, gwlaw a chenllusg; ac yn ngoleuni y fellten ddiweddaf, gwelai y ddrychiolaeth yn tynu ei llaw oddiar ei llygaid, ac yn datguddio gwynebpryd geneth ieuanc-gwyneb Gwenlliw-mor angeuol ei thremyn, mor llawn o drallod chwerw, fel y deffrodd y breuddwydiwr yn grynedig, a dafnau mawrion of chwys yn crogi ar ei ddwy ael.

"Bu yn myfyrio am enyd beth allasai fod ystyr y weledigaeth ryfedd, ond meistrolodd cwsg ef eilwaith; a deffrodd mewn bore brâf yr awyr yn lâs, yr adar yn llawen ganu, a'r coed a'r maesydd wedi adfywio ar ol y dymhestl. Aeth i lawr i'r ystafell foreufwyd gyda chalon ysgafn, lle yr oedd Gruffydd a'i ddau fab a'i ddwy ferch henaf, ac wedi cyfnewid moesgyfarchiadau, gwelwyd fod Gwen yn absenol.

"Anfynych y mae hi yn olaf,' ebe ei thad, anfonwch ei llaw- forwyn i'w hysbysu ein bod oll yn disgwyl am dani." "Daeth y forwynig yn ol, gan ddyweyd fod drws ei hystafell yn glöedig, ac iddi guro amryw weithiau, heb gael un ateb. Synasant at yr hysbysiad hwn: aethant oll i fyny ar frys, yn cael eu blaen- ori gan y penteulu; yr hwn a alwodd wrth ddrws yr ystafell, mewn llais crynedig:-

"Gwen! Gwenlliw, fy anwylyd.'

Dim ateb. Torwyd y ddôr, ac yr oedd yr ystafell yn wag, y ffenestr yn agored, a darn o riban ar yr astalch oddiallan wedi ei fwydo a'i ddrygliwio gan y gwlaw. Adwaenid ef fel eiddo Gwen- lliw; a chasglwyd oddiwrth hyn fod y ffoadures allan cyn i'r ystorm ddechreu, ac i hwn syrthio oddiwrthi ar ei hymdaith. Yr oedd pob mynwes erbyn hyn yn faes ymryson gwahanol opiniynau, a chrebwyll pob un ohonynt ar lawn waith; ymddangosai Gruffydd wedi ymgolli mewn syndod-nid ynganai air am enyd wrth neb.

"Rhaid ei bod wedi myned cyn yr ystorm,' ebai y ferch henaf.

"Neithiwr yn yr ystorm!' ebai ei thad o'r diwedd, rhaid fod fy anwyl, anwyl eneth yn wallgof; neu ai tric ydyw y cwbl? Na, ni feddai hi galon allai gellwair yn y dull yma.'

"Tra yr oedd y syfrdandod a'r penbleth hwn yn parhau, ym- saethodd drychfeddwl ofnadwy trwy enaid Griffin, gyda nerth a chyflymdra un o'r mellt a welsai yn nghwsg-ei freuddwyd-yn ymryson yn nghylch Pendefiges y Gader,' a'r penderfyniad diysgog hwnw yn argraffedig ar ei hwynebpryd pan ymadawodd efe à hi y noson flaenorol.

"Mi wn i yn mh'le y mae hi,' meddai, ar y mynydd ar Gader Idris yn wallgof, neu yn farw cyn hyn! a minau hurtyn, fu'r prif achos i'w hanfon yno!'

Fy anwyl gyfaill ieuanc, y mae eich pryder yn peri i chwi siarad yn ynfyd. Cader Idris! pa fodd y dichon iddi fod yno? Anmhosibl!' ebai y tad.

'Y mae hi yno,' ebai Griffin, ac argyhoeddiad dwfn o wirionedd yr hyn a ddywedai yn glywedig yn ei lais. Hi soniodd neithiwr am fyned trwy y prawf llymdost o dreulio noson yn y Gader; a ninau yn cysgu tra yr oedd hi yn marw yn y dymhestl. Dilynwch fi yn ddioed; a dygwch gyda chwi ryw gordial adfywiol, os nad yw o drugaredd yn rhy hwyr.'

"Llefarai gyda'r fath awdurdod fel y lladdodd bob gwrthwynebiad yn y fan, a chyn pen pum' munyd yr oeddynt yn prysuro at odreu y mynydd. Efe a'u blaenorai hwynt oll: yr oedd ei galon ar dân; a theimlai mor ysgafndroed a'r ewig buan. I fyny hyd y cerrig rhyddion, heibio i'r twmpathau eithin a'r llwyni grug, heibio i'r ffrydiau sidellog a'r creigiau brawychus, ar hyd llwybrau geifr a mân ddefaid y mynyddoedd, ac efe a safai gan ddyheu ychydig latheni islaw y Gader.

Sylweddolwyd ei freuddwyd. Yno yn ei gwisg o fuslin a'i mantell fraith, wedi ei llygru gan y gwlaw a'r pridd, yr eisteddai Gwenlliw mor oer a'r Gader ei hunan. Ei gwallt hir didrefn yn gorchuddio ei gwyneb prydferth; a'i dwylaw bychain wedi eu tyn-blethu yn eu gilydd. Gwasgodd hi i'w fynwes mewn dull haner. gwallgofus, galwodd arni wrth ei henw, gwahanodd y gwallt gwlyb oddiar ei hwyneb, a gwelai yno yr un ddelw o drueni-yr un argraff o gyfyngder ac arswyd ag a bortreadwyd iddi gan ei ddychymyg mewn breuddwyd.

"Ond yr oedd ei thafod hi yn rhy gaeth i ddyferu gair o gysur iddo yn ei adfyd, y llygad gloew bywiog megis wedi sefyll, gan hylldremu ar bethau dychrynadwy, a'r galon oedd ddoe yn chwyddo gan serch wedi oeri am byth. Claddwyd hi wedi machlud haul tu cefn i eglwys y plwyf,-lle beddrod estroniaid, a'r dosparth hwnw o ddynolryw a aberthant fywyd ar allor drychfeddwl. "Oherwydd amgylchiadau ei marwolaeth, ni ddarllenwyd y Gwasanaeth Claddu. Yr ochenaid yn unig a dorai ar ddistawrwydd y seremoni, hyd oni ddiangodd y geiriau hyn o enau y tad: "Gwyn ei fyd y puro galon;" ac yr atebwyd ei ddymuniad gan "Amen" pawb oedd yn bresenol.

"Teimlai Griffin ei galon yn hollti yn ysgyrion, a phob peth anwyl ganddo ar wyneb daear yn cael eu claddu gyda'i anwylyd. Aeth yn ol o Gymru, byth i ddychwelyd mwy; a seriwyd delw Cader Idris, a Gwenlliw brydferth farw yn eistedd ynddi, ar lechres ei galon nad all amser a'i amgylchiadau byth eu dileu."

Yn awr, rhoddaf y pleser o ymchwiliad i bob ymwelwr â Dolgellau a'i Chader, i gael allan y safleoedd a awgrymir yn yr hanes hwn, sef, yn gyntaf, Arsyllfa Seryddol Idris Gawr: yn ail, y llwybr oddiar ba un y taflai'r cawr y "graian" o'i esgidiau: yn drydydd, y mangrëoedd bu "Pendefiges y Gader," Gwenlliw a'r Prydydd Hir mewn cwsg ac ymchwil am wybodau yn bedwerydd, man y safai Eglwys Gwanas: ac yn bumed, safle etifeddiaeth Talglyn— cartref gwych Gwenlliw, cariadferch y Sais-gyfreithydd. Dygir Gwanas i sylw o'r cyfnod Derwyddol, gydag "Englynion y Beddau," neu gof-englynion Beddau Milwyr Ynys Prydain, megys,—

"Y beddau hir yn Ngwanas,
Ni chafas ac dioes
Pwy fynt hwy, pwy eu neges."

Hynny yw, "Pwy a'u myn, neu pwy a'u nacâ." Eto,—

"Bedd Gwrgi Gwychydd, a Gwyndodydd Ler,
A bedd llawr Lluofydd,
Yn ngwarthaf gwanas gwir y sydd."

Eto,—

"Teulu oeth ac anoeth a dyn y noeth,
Yeu gwr yeu guas,
Ae keissio uy calet guanas."

Credai Carnhuanawc fod y cyntaf mor hen fel nad oes son am dano hyd yn nod yn yr oesoedd cynar, ond fod y llall yn ddiweddarach. Mae'r beddau hir" wedi cau am ryw Dderwyddon o nod yn llosgedig, neu heb waith tân, canys cafwyd cynwysiad aml fedd yn y naill ffordd neu'r llall. Camp a fyddai cael deongliad cywir o'r trydydd uchod.

Eto, beddau ereill ar lan y mor,—

"Yn Abergenoli y mae bedd Pryderi,
Yn y tereu tonau tir
Yn Carrawe bedd Gwallawc Hir."

Wrth Abergenoli deallir Abergynolwyn. Pryderi ab Pwyll Pen. Annwn, penaeth Dyfed, a chymeriad hynod yr hen ramantau Cymreig. Lladdwyd ef gan Gwydion ab Don mewn brwydr law-law a gymerth le gerllaw Rhyd Melenydd ar yr afon Cynfael, yn Ardudwy. Un awdurdod a esyd ei fedd yn Maen Tyriawg, ger Ffestiniog. Geilw Lewis Glyn Cothi Dyfed yn "wlad Pryderi," a Dafydd ab Gwilym a'i geilw yn "Pryderi dir." Gwallawg ab Lleenawg oedd benaeth ar ran o Bowys, tua'r Amwythig, yn y 6ed ganrif. Rhestrir ef gyda Dunawd Fflur a Chynfelyn Drwsgl fel "tri phost câd Ynys Prydain." Dywed y Brutiau Cymreig ei fod yn un o'r marchogion oedd yn bresenol yn nghoroniad y brenin Arthur. Cwympodd yn nghâd olaf y teyrn hwnw â'r Rhufeiniaid. Ar lan afon Carrog, yn Arfon, yr huna.

Eto,—

"Bed Guydion ap Don yn Morva Dinllen,
Dan fain dyfeillion,
Garanawe y geiffyl Meinon."

Nis gall Carnhuanawc ddeongli namyn y llinell gyntaf. Gwna ymgais fel hyn:—"Dan y meillion man," medd rhai; "Dan feini a meillion," medd ereill; ac am y gair Garanawe, ni wyddys pa un ai enw priodol yw, ai nad e." Amryw flynyddau yn ol, arosai gweddillion nodedig a elwid Carneddi Hengwm, yn Ardudwy, a berthynent i'r Derwyddon, y rhai a amgauent am esgyrn rhai o ddewrion yr ardal honno, pan oedd yr hen genedl yn ei thrafferthion mwyaf gyda'i chrefydd a'i châdau âg estroniaid. Ond galarus yw adrodd ddarfod i ryw Vandaliaid o Gymry gario meini a wnai i fyny'r beddau uchod, i godi gwahan—furiau tyddyn gerllaw iddynt!!

"Gwanas pob urddas eurddull Padrig,"

a olyga gynhalydd, gan Fadawg fardd i esgob Bangor.

"Marchwiail bedw briglas,
A dyn vyn troed a wanas,
Nac addef dy rin y was,"

sy'n driban Derwyddol, yn golygu cyffion, neu sefyllfa o gaethiwed.

"Ac eur coeth ar ddiwanas."

A cheir ei ystyr yn foglam, ag ymddiddan rhwng Ugnach ab Mydno a Thaliesin,―

"Afallen peren pren hyduf glas,
Pywaur y chagev hy ae chein wanas."

Gwedd neu ffurf a olygir gan y diweddar Hybarch D. Sylvan Evans. Safai eglwys a chorphlan Gwanas gynt am yr afon a Thy Bach y Llan, a choffheir y naill âg ywen yn y blynyddau hyn, ac y mae'r penill canlynol a "Dol y Ddelw" yn coffhau'r un pethau,—

"Mae yno ynn ac ywen drefnus,
Mae yno ywen lân gariadus;
Mae yno gapel mawr ei rinwedd,
Lle mae'r ddelw lwyd yn gorwedd."


Nodiadau

golygu
  1. Meini.
  2. Fflint