Dringo'r Andes/Lle'r Beddau

Croesi'r Hirdaith Dringo'r Andes

gan Eluned Morgan

Y Ffrwd Gyntaf

PENNOD V.

LLE'R BEDDAU

 NGHANOL dwndwr a helynt y croesi, cefais egwyl fechan i orffwys a syllu o'm cwmpas. Yr oeddym wedi croesi i'r ochr ddeheuol am na allem ddilyn yr afon ymhellach ar yr ochr ogleddol, ac wrth edrych ar y clogwyni ysgythrog a'r hafnau dyfnion, cofiais yn sydyn fod yna un o hanesion pruddaf y Wladfa yn gysylltiedig â'r fangre unig honno.

Nid oeddwn i ond ieuanc iawn pan ddigwyddodd y gyflafan yn Lle'r Beddau, ond mae'r cyfan yn boenus o fyw yn fy nghalon o hyd.

Aethai pedwar o Wladfawyr ieuainc am wib i weld y wlad. Yr oeddynt yn llawn o ysbryd anturiaethus, ac awydd angherddol am gael gwybod beth oedd yn yr eangderau mawr, distaw, a'u cylchynnent ar bob llaw. Yr oeddynt wedi clywed am yr Andes o bell, a breuddwydient fod yno aur ac arian a rhyfeddodau anhygoel. A rhyw fore o wanwyn, pan oedd natur yn gwenu ar drothwy ei bywyd newydd, wele'r pedwar llanc yn cychwyn ar eu taith ymchwiliadol. Yr oedd un yn blentyn y paith, a dyrus lwybrau'r hen frodorion yn gyfarwydd iddo: y lleill yn feibion Cymru fynyddig, wedi arfer dilyn mân lwybrau'r praidd ar hyd glâs lethrau a dolydd Gwalia.

Teithiasant fel hyn yn ddiddig-ddiddan o ddydd i ddydd ac o wythnos i wythnos, gan weled rhyfeddodau di-ben-draw, a gwneud llu o gestyll gwych,—sut yr oedd i fod yn y dyfodol. Weithiau dilynent yr afon dros greigiau serth, danheddog, dringent fel geifr, gan beryglu eu bywyd bob munud, ond gwynfydert yn yr ymdeimlad o fod yn ddarganfyddwyr. Bryd arall ffarwelient â'r hen afon, a thorrent allan i'r peithdir diderfyn gyda'i for o ddrain amryliw, a'r miloedd anifeiliaid gwylltion—unig ddeiliaid y deyrnas enfawr hon.

Pa ryfedd fod y pedwar llanc wedi eu llyncu i fyny yn gyfangwbl gan gyfaredd y cylchynion, nad oes eu tebyg ar y ddaear yn ol tystiolaeth rhai o deithwyr enwocaf y byd Pa ryfedd iddynt ymgolli nes anghofio yn llwyr mor unig oeddynt, ac mor bell o bob ymwared dynol, ac fod. milwyr Hispeinig wrth y cannoedd yn cyniwair drwy'r anialdiroedd hyn, nid i hela'r anifeiliaid gwylltion oedd yn anrhaith gyfreithlon iddynt: O na, hela'r Indiaid yr oeddynt hwy, etifeddion y paith er's canrifoedd cyn bod son am Hispaenwr.

Barnai seneddwyr dysgedig yr Argentine mai'r unig ffordd i ddadblygu a gwareiddio Patagonia oedd drwy ddifa'r hen frodorion yn llwyr o'r wlad; a dyna oedd yr ymgyrch fawr hon yn amser y pedwar llanc. Yr oedd yr helfa wedi bod yn ofnadwy, a thriniaeth y milwyr o'r carcharorion mor anhraethol greulon nes y taflai'r hen Indiaid eu hunain wrth y cannoedd o bennau'r mynyddoedd i'r llynnoedd a'r afonydd islaw yn hytrach na syrthio i ddwylaw gelynion mor arswydus. Yr oedd yr ychydig gannoedd lwyddasent i osgoi'r milwyr yn llochesau'r mynyddoedd wedi ymwallgofi gan ofn, a phob cynneddf yn eiddo llwyr i Satan, a dim ond un dyhead yn llanw pob calon, sef dial gwaed eu hanwyliaid. A pha Gymro all eu beio?

Ar un o'u teithiau cwrddodd y Gwladfawyr ieuainc â masnachwr Eidalaidd, yr hwn, heblaw gwerthu iddynt ychydig ddillad (milwrol) a'u perswadiodd i droi'n ol gynted y gallent, gan eu sicrhau nad oedd eu bywydau yn ddiogel funud awr: fod yr hen frodorion wedi eu herlid i wallgofrwydd, ac wedi ymdynghedu i ladd pob dyn gwyn a gyfarfyddent.

Dyrysodd y newydd yma holl gynlluniau a breuddwydion y llanciau; siomedigaeth chwerw oedd gorfod troi tuag adref ar gyrrau gwlad yr addewid fel pe tae; onde gwyddent hwy beth oedd effaith diod y dyn gwyn ar yr hen frodorion syml, ac y byddai eu meddwi ar waed yn filwaith mwy trychinebus. Felly nid gwiw oedd diystyrru rhybudd y masnachwr. Teithiasant yn ddiogel ddydd a nos, gan osgoi a thorri llwybrau fel na ellid eu dilyn. Daethant felly, yn dra blinedig, a'u harfau yn glwm ar y pynnau, hyd at y dyffryn y syllwn arno oddi tros yr afon—y diwrnod yn wyntog a llychwinog iawn; ond wele! fel corwynt, clywent waedd anaearol mintai o frodorion ar eu gwarthaf, llwch ceffylau y rhai gymylai am danynt, gwaewffyn yn ymwibio o'u deutu, rhuthriadau, codymau ac ysgrechau. Yr oedd ceffyl y llanc gwladfaol yn gryf a bywiog, a phan glywodd y waedd ac y teimlodd flaen picell, llamodd yn ei flaen hyd at ffos ddofn, lydan, yr hon a gymerodd âg un naid,—a naid ofnadwy oedd honno. Pan edrychodd y marchogwr drach ei gefn gwelai ddau frodor yn dilyn gan oernadu fel gwylliaid annwn, a thorf wedi ymgronni tua'r fan y goddiweddasai hwynt.

Nid oedd gan y ffoadur bellach ddim i'w wneud ond ceisio dilyn ymlaen i'r Wladfa am ymwared—fwy na 100 milltir o ffordd—heb fod ganddo damaid o fwyd. I mi, a glywodd yr hanes oddiar wefus y ffoadur, mae fel darn o stori o wlad hud, mor amhosibl ac ofnadwy yr ymddengys: ond diau mai'r dychryn a'i cynhaliodd ar y daith fythgofiadwy honno. Mae'r paith o Ddyffryn y Beddau i'r Wladfa y mwyaf anial a diffrwyth yn yr holl wlad, a darnau helaeth o hono yn ddiddwr. Eithr dilynwn y ffoadur unig am ennyd; ond, ys dywedai, ni theimlai'n unig: dychmygai fod holl ellyllon y fall wrth ei sawdl bob cam o'r ffordd, a chred yn ddiysgog, a chredaf finnau hefyd, fod yr hen geffyl ffyddlon achubodd ei fywyd drwy ei naid erchyll, yn teimlo yr un fath yn union.

Am oriau ni thorrwyd carlam, ond daeth natur a llenni'r nos i alw'n groch am orffwys, a phan gafwyd ychydig ddwfr llwyd-leidiog mewn pantle, bu fel dracht o fywyd newydd i ddyn ac anifail. Ond yr oedd cysgu neu orffwys yn amhosibl; yr oedd pob twmpath yn troi'n Indiad, ac yn nesu tuag ato: ysgrechiadau'r ddyllhuan a chyfarthiad cecrus y llwynog yn troi'n rhyfelwaedd frodorol. Ac yr oedd y cof am ei gymdeithion diamddiffyn yn ei symbylu a'i nerthu i wneud pethau anhygoel yn ei ddyhead am gael ymwared iddynt.

Teimlai weithiau na ddelai'r can milltir byth i ben, ac y byddai'n rhaid iddo ef a'i geffyl roi fyny'r ymdrech a gostwng pen i farw o newyn a syched ynghanol yr anialwch didrugaredd. Ni allai y ceffyl truan ond cerdded yn araf erbyn hyn, a'r teithiwr yn ei wendid a'i newyn yn gorfod glynu ar ei gefn fel ei obaith olaf am ymwared; ac fel yna, o gam i gam, a phob munud megys blwyddyn, y cyraeddasant ben uchaf Dyffryn y Gamwy, ac y medrasant, drwy boen a lludded anhraethol ry fawr i eiriau eiddil, droi eu camrau tua'r bwthyn cyntaf oedd yn llechu mor dawel ynghanol ei lwyni coed.

Ac yna, bu gwaedd ddolefus drwy ein Gwladfa fechan, —dychryn, galar, a dagrau, ar bob grudd; aeth ein dyffryn yn fro wylofain, ac ni allai glesni nef na llewyrch haul oleuo dim ar y tywyllwch dudew a'i gorchuddiai. Ond toc, daeth cri'r llanc lluddedig i adsain ymhob calon. Ymarfogwn i'r gâd! gwaredwn ein brodyr, a dialwn eu cam! A chyn pedair awr ar hugain yr oedd triugain o wyr a llanciau dewraf y Wladfa yn cychwyn yn llu arfog tua man y gyflafan. Pwy sy'n arwain? Pwy ond y ffoadur gipiwyd megys o safn angeu i gario'r newydd prudd dros gymaint paith; mae'n llesg a gwan wedi'r dioddef dwys, ond nid oes neb yn gwybod y ffordd ond efe, ac O! fel y dyhea ei enaid am adenydd y wawr i estyn i'w gyfoedion ymwared a nodded. Mae'r fyddin fechan yn cael gwaith ei ddilyn,—ymlaen, ymlaen y teithia ddydd a nos, gan warafun colli munud i gymeryd ychydig luniaeth i nerthu ei wendid.

Bu syllu hir, distaw, ar yr agen ddofn—lydan a lamesid er achub bywyd, ac onibae fod ol traed y march ffyddlon yn ir ar y ddaear yn dweyd y stori fud, buasai'r ffaith yn anghredadwy, ond erys hyd heddyw ynghalon pawb a'i gwelodd fel rhywbeth goruwchnaturiol.

Bu raid teithio amgylch ogylch er osgoi'r hafnau a'r creigiau, a phob calon yn crynnu erbyn hyn, a phob dryll yn barod, canys yr oeddynt ynghanol gwlad y gelyn, ac o fewn ychydig lathenni i faes y gwaed.

Nid oedd ond distawrwydd yn teyrnasu ymhob man—dim awel yn lleddf—ganu drwy'r glaswellt rhonc deithid mor esmwyth a distaw gan y meirch blinedig. Pwy all ddychmygu ing meddwl yr arweinydd fel y cyflymai ymlaen gan syllu i bob cilfach, a rhyw belydryn o obaith yn mynnu aros yn ei galon o hyd: ond ha! gwelwch!—dacw'r corff lluniaidd, talgryf, ddioddefasai bethau anhygoel yn rhinwedd y gronyn gobaith hwnnw, yn dechreu siglo fel corsen ysig: torrodd y llinyn euraidd fuasai iddo ef fel seren Bethlehem, ac aeth yn nos.

Yr oedd dwylaw tyner, tosturiol, gylch y bachgen dewr ar amrantiad; ei law egwan amneidiai tua'r dde, a daeth ystyr y cyfnewidiad yn chwerw-eglur i'r fagad fechan o filwyr Cymreig syllent yn y fath arswyd mud ar yr olygfa dorcalonnus oedd o'u blaenau.

Yr oedd amryw o'r fintai yn hen gewri o ganol stormydd bywyd ereill yn ieuainc a'u bywyd fel yr haul, ond i'w clod y byddo'r coffa, fod y ddaear a ruddesid â gwaed eu cyfoedion wedi ei gwlitho yn helaeth â'u dagrau hwythau.

Yr oedd y gyflafan wedi bod yn ddychrynllyd, yn ellyllaidd yn ei barbareiddiwch a'i hanifeileiddiwch. Yr hen baganiaid syml, heddychol, wedi eu troi drwy greulonderau gwareiddiad yn wylliaid rheibus! a'u syched am waed yn brif nwyd eu bywyd!

Yr oedd y tri chorffyn truan wedi eu darnio a'u baeddu yn hollol tuhwnt i adnabyddiaeth; nid oeddynt ond megys gweddillion ysglyfaeth y llew a'r blaidd. Nid oedd gan y Gwladfawyr prudd, dychrynedig, ond gwneud eu goreu i gasglu'r gweddillion (a phwy all ddychmygu y gorchwyl hwnnw), a thorri bedd mewn cilfach gysgodol, a dodi'r tri brawd yn wylaidd-gysegredig i orffwys yn eu gwely pridd mor bell o dir eu gwlad.

Ffurfiodd y fintai yn gylch am y bedd; darllenodd fy nhad y gwasanaeth claddu o'r Llyfr Gweddi Gyffredin, o dan deimladau llethol, ac yna cafodd y calonnau Cymreig ollyngdod i'w teimladau hiraethus drwy gydganu yr hen emyn gogoneddus, "Bydd myrdd o ryfeddodau" Mae'n anawdd credu i'r hen emyn gael ei ganu yn well erioed; yr oedd yr amgylchiadau a'r cylchynion wedi codi'r cartorion mor agos i'r byd anwel- edig y canent am dano; diau i ambell un sylweddoli fel na wnaethai erioed o'r bleen eiddilwch a breuder y babell bridd ar wahan i'r enaid anfarwol a drig ynddi. Canwyd ac ail-ganwyd yr hen cryn nes adseinio'r creig- iau cylchynnol, ac yna taniodd pob un ei ddryll dros y gwely pridd mewn ffarwel filwrol.

Gwnaeth pawb ei oreu i wneud yr orffwysfan yn glyd a destlus, ac i gasglu unrhyw eiddo personol adawyd gan y llofruddion fel ag i'w cyflwyno i berthnasau galarus y tri llanc llofruddiedig. Dringodd aml i fachgen hoew i ben y clogwyni cychynnol mewn gobaith y ceid cip ar rai o'r gelynion, a chyfle i ddial cam eu cydwladwyr; ond urig a distaw fel y bedd newydd islaw ydoedd; dim arwydd fod yna yr un creadur byw o fewn can' milltir iddynt.

Ymhen misoedd lawer y gwybuwyd fod yr holl gilfachau cylchynnol yn heigio o frodorion, yn barod i ladd a llarpio fel o'r blaen, ond fod y canu rhyfedd hwnnw ynghanol yr eangderau mawr distaw wedi eu dofi a'u llareiddio. Dywedir hefyd mai dyna'r pryd y deallasant mai Cymry oeddynt wedi ladd, ac nid milwyr Hispeinig, canys dillad milwrol oedd gan y llanciau druain, a brynasent gan y masnachwr, a bu galar aml i hen frodor yn ddidwyll ddigon am iddo ladd ei frodyr Cymreig mewn camgymeriad.

Beth bynnag am wiredd yr eglurhad yna, nid oes amheuaeth am effaith y canu; llithrodd y llu brodorion yn llechwraidd a distaw yn ol i'w llochesau yn y mynyddoedd heb gynnyg anelu saeth at y fintai islaw oedd yn hollol at eu trugaredd.

Digon prin y bu gan unrhyw gantorion erioed wrandawyr mor astud a synedig. Beth yw'r cyfaredd sydd mewn canu, tybed, o ddyddiau Saul hyd yn awr? Pam y dofodd yr anifail ymhob calon, ac y trodd y tân digofus fflachiai o bob llygad yn ddagrau gloewon ar y gruddiau melynddu?

Mae Cymry'r Gamwy ac Indiaid Patagonia wedi cydfyw am yn agos i ddeugain mlynedd mewn tangnefedd a heddwch perffaith; dyma'r unig frycheuyn yn eu hanes, a hawdd iawn gennyf fi, a fagwyd yn eu mysg, gredu mai camgymeriad truenus fu'r gyflafan yn Lle'r Beddau.



Nodiadau

golygu