Dringo'r Andes/Croesi'r Hirdaith

Y Cychwyn Dringo'r Andes

gan Eluned Morgan

Lle'r Beddau

PENNOD 111.

Y CYCHWYN

 AE llawer yn son am yr Andes fel y byddai hen emynwyr Cymru yn son am "India ac aur Peru"—trwy ddychymyg. Dychmygais innau lawer er yn blentyn am fynyddoedd mawr Deheudir America, a hiraeth lond fy nghalon am gael syllu â'm llygaid fy hun ar eu holl fawredd a'u gogoniant. Llawer mae calon dyn yn ddymuno mewn oes, onide? Ac O, mor ychydig o'r dymuniadau hynny sydd yn cael eu sylweddoli! Ond fe geir ambell un yn ei holl felusder a'i wynfyd, a theimlwn fod yr un hwnnw yn gwneud i fyny am lu o siomedigaethau. Felly finnau gyda'r daith i'r Andes: breuddwyd wedi ei sylweddoli yn ei berffeithrwydd fu y darn yma o'm hanes.

Ond pan yn meddwl am y testyn sy genryf i draethu arno, fel y dyhea fy enaid am iaith a thalent wneud cyfiawnder âg ef! Eithr hyd nes y daw rhyw freuddwydiwr i gerdded yr un llwybrau a mi ac i ddanfon ei weledigaethau fel cenhadon y wawr, rhaid i Gymry ieuainc Gwalia geisio ymfoddloni ar ddarlun carbwl a thruenus o amherffaith.

Ond ofni yr oeddwn y buasai'r Andes wedi ymwareiddio llawer cyn y delai'r Gweledydd, ac yna collasid am byth hanes yr hen fynyddoedd godidog fel yr oeddynt yn y dechreuad. Y syniad yna yn unig a'm synbylodd i gychwyn ar orchwyl mor anhraethol uwchlaw'm galluoedd, y dyhead angherddol am i Gymru gael rhan, pe ond gronyn eiddil, o'r gwynfyd deimlais i wrth deithio'r anialdiroedd distaw, glân, a gwylio'r haul yn gwisgo'r peithdir â mantell o dân, a'r lloer yn ei goroni âg arian; a chael syllu ar fynyddoedd a rhaeadrau a llynnoedd a choedwigoedd na fu nemawr i lygad dynol yn gorffwys arnynt erioed.

Mi debygaf fod mannau fel hyn yn brin yn ein byd erbyn heddyw. Mae cenhedloedd y ddaear yn cyniwair ac yn dylifo i bob mangre ddistaw, gysegredig, gan k chwalu'r tlysni a'r swyn â dwylaw halog y byd; mae'r blodyn gwyllt fu'n gwasgar ei berarogl ar allor ei Luniwr, yn colli ei wenau ac yn marw o dor calon am ei lu anwyliaid sy'n sathría dan draed; mae'r ednod amryliw eu plu fu'n ymbincio yng nglesni'r dwr, ac yn hyfforddi eu rhai

bychain yn ddiofn, a'r côr asgellog fu'n llanw'r coedwigoedd â'u mawl—maent oll yn ffoi mewn dychryn pan

ddelo'r hwn a luniwyd ar ddelw'r nef i feddiannu eu hetifeddiaeth!

Nid wyf fi elyn i wareiddiad, ond O! y trueni fod yn rhaid aberthu cymaint er ei fwyn, eithr a yw y rheidiau hyn i gyd yn gyfiawn? Ymddengys i mi weithiau ein bod yn colli pethau gwell wrth geisio am yr ymwareiddiad yma. Pan oedd Cymru'n wledig, syml a thawel, y gwnaeth ei gwaith goreu; nid yw tyrru i'r dinasoedd a'r pentrefydd wedi gwella dim ar hen wlad ein tadau yn ystyr goreu'r gair. Mae'n rhaid i bob enaid cryf wrth dawelwch ac unigedd i wynebu ei fywyd a dewis ei frenin.

Mae yna gyfnod unig ymhob bywyd arwrol, nid unig- edd yr anial a'r mynydd bob amser hwyrach: gall fod yn unigedd rhwng muriau'r carchardy, neu eiddo'r alltud ymhell o'i fro, ond mae yno dawelwch i ddwysfyfyrio ac i gasglu nerth ysbrydol, ac ennill buddugoliaethau a'u galluoga i adael y byd yn well ac yn burach nag y cafwyd ef. Oni bydd hyn yn amcan a nôd pob bywyd, yn ofer ac am ddim y llafurir.

Maddeued y mwyn ddarllenydd i mi am grwydro -oddiwrth fy ngwers. 'Rwy'n addaw mynd yn syth at fy ngwaith yn awr, a chychwyn i'r Andes ar fy union ar gefn fy march gwyn, a theithio cyn dod adre'n ol ryw 2500 o filltiroedd, a gweled rhai o olygfeydd mwyaf godidog y byd.

'Rwyf wedi bod yn ceisio dweyd wrthych o'r blaen y fath le yw'r Wladfa Gymreig. Ond pe bawn yn dweyd. ar hyd fy oes, fyddech chwi fawr doethach, gan ei fod yn berffaith amhosibl i chwi ddychmygu am le mor anhebyg i ddim welsoch erioed. Ond fe gymeraf yn ganiataol eich bod yn cofio prif ffeithiau sefydliad y Wladfa ar y Gamwy, canys y mae'n rhaid i ni'n awr adael y dyffryn. hwnnw o'n hol, a theithio 400 milltir drwy anialdiroedd difrifol cyn cael cip ar gyrrau'r Andes.

Y mae man uchaf y dyffryn yn wersyllfa gyffredinol gan y rhai sydd yn cychwyn tua'r Andes; bydd yno lawer o wagenni gyda'u gilydd weithiau. Felly y bu pan oedd— ym ninnau yn cychwyn—yr oedd yno ddeg o wagenni, a chwe' cheffyl ymhob un.

Deuparth gwaith yw dechreu"—a deuparth taith yw cychwyn hefyd. Mae pob peth yn mynd yn hwyliog ar ol cychwyn iawn. Gelwir y wersyllfa gyntaf yn Ffos. Halen," a bydd yno gynhulliad mawr yn ystod misoedd yr haf; yno y mae pawb yn taclu ei wagen yn gryno, ac yn diosg ei wisg glasurol, wareiddiedig, ac yn gwisgo am. dano yn wreiddiol Batagonaidd, neu, mewn geiriau ereill, yn ei addasu ei hun i'r daith. Mae ambell i gyfnewidiad yn chwerthinllyd i'r eithaf—adgofiai fi am lawer hysbysiad Saesneg welswn mewn newydduron a misolion—" Before and after." Er fod yn y Ffos Halen lawer o wagenni, nid oedd yn ein cwmmi arbennig ni ond un wagen a phump— o bersonau,—y Bonwr Rhys Tomos yn gofalu am y wagen, Caradog yn gyrru'r ceffylau, a Mair (merch Rhys Tomos) a ninnau ar bob i geffyl.

Wrth edrych dros fy nyddlyfr gwelaf y nodiad canlynol am y Ffos Halen:"Tachwedd 25ain. Cyrraedd hyd yma tua 2 o'r gloch, y marchogwyr ar newynnu, a'r wagenni a'r bwyd mor hir yn dod, ond wedi iddynt gyrraedd, hei ati i wneud tân a hel y gêr coginio o bob cyfeiriad.—Cael cwpaned o de ardderchog a thafelli o fara ymenyn teilwng o unrhyw was ffarm, a welsoch chi erioed mor felus oeddynt."

Llawer gwigwyl (neu picnic ys dywed Dic Shon Dafydd) gynhelir yng Nghymru yn ystod misoedd yr haf, a hwyrach fod rhai o'm darllenwyr yn meddwl mai rhywbeth felly oedd y pryd bwyd hwnnw yn y Ffos Halen,—y llian claerwyn a'r llestri tsheni a phob danteithion, a'r boneddigesau yn ymgystadlu â'r blodau yn eu gwisgoedd amryliw, a'r goedwig yn moesgrymu'n wylaidd, gan daenu ei chysgod gwyrddlas dros y cyfan. Na, nid fel yna y teithir anialdiroedd Patagonia. 'Doedd dim coeden yn cysgodi rhag gwres haul canol haf, pridd llwyd y Wladfa yn cymeryd lle y llian claerwyn, a phawb a'i gwpan dun yn mwynhau ei de wedi ei wneud yn y tegell.

Yr oedd Mair a minnau wedi ein breintio â chysgod pabell i lechu'r nos, a mawr yr helynt y noson gyntaf yn gosod honno i fyny, a ninnau'n dysgu sut i droi ynddi heb ddod i wrthdarawiad. Erbyn i ni gael trefn ar bethau, a cherdded o gwmpas i ystwytho tipyn ar ein cymalau blinedig, yr oedd yr haul ar fynd i lawr, a ninnau'n barod i'n swper. Yr oedd y cawl wedi bod yn berwi'n soup ddyíal, a dyna bawb i 'mofyn ei blat tun a'i lwy haearn, ac eistedd yn gylch, a gosod y crochon cawl yn y canol, a phawb i'w helpu ei hun. "How vulgar!" meddai ambell fonhesig fursenaidd.

Ond—gwelwch draw yng nghyfeiriad y Dwyrain. Beth sydd yn gwneud i bawb dewi'n sydyn, gan syllu mewn edmygedd mud? Mae'r haul wedi ffarwelio hyd doriad gwawr yfory; ond wedi gadael ei gysgod megys yn ernes o'i ail ddyfodiad. Mae'r wlad fawr wastad yn ymagor o'n blaenau, a'r hen afon Camwy yn ymdroelli ac yn ho too ymddolennu ar ei thaith tua'r môr, ac wele'n codi megys o eigion y môr hwnnw yr hyn ymddengys fel pelen o dan ysol; mae'n symud yn raddol, raddol, ond mor ofnadwy ddistaw yw ei holl symudiadau, mae'n gwneud i'r rhai sy'n syllu ddal eu hanadl nid mewn braw, ond mewn rhyw barch a chysegredigrwydd nas esbonir mewn geiriau.

Ond wele frenhines y nos wedi esgyn i'w gorsedd, ac mae'n edrych yn ogoneddus, a holl lu'r wybren yn brysio i dalu teyrnged iddi; a ninnau, y cwmni bychan ar ganol y paith mawr unig, yn methu peidio codi ein llef mewn cân o fawl i Grewr y cyfan.

Gorffwys yn gynnar yw y rheol ar y paith, a buan yr oedd pawb wedi taclu ei orffwysfan, y dynion yn nghysgod y llwyni drain, a ninnau ein dwy yn y babell. Nid oes eisieu goleuni trydanol ar beithdiroedd Patagonia; mae yna oleudy mawr i fyny fry, ac mae'r gwyliwr ar y tŵr wedi trimio ei lamp a gloewi ei wydr mor dda fel na buasai goleu trydanol (y darganfyddiad mawr diweddaraf) ond megys cannwyll frwyn wrth ei ochr.

Distawrwydd y paith yn y nos,—pwy all fynegi am. dano na'i egluro? Peth i'w deimlo ydyw, ac nid i ysgrifennu na siarad am dano. Anawdd peidio breuddwydio aml i freuddwyd tlws wrth syllu ar y wybren serliog uwch ben, a theimlo ei bod mor ddistaw fel os gwrandawn yn astud y daw i ni ryw genadwri o arall fyd.

Llawer ddychmygais wrth syllu a gwrando felly—fath le oedd "tuhwnt i'r llen" ddisglaer yna? Beth oedd fy hen gyfeillion aethent adre o'm blaen yn wneud? Hoffwn gredu fod yr ysgol welsai Jacob gynt wedi ei gosod yn ein gwersyll bychan ninnau, ac fod yna wylwyr tyner yn esgyn ac yn disgyn ar hyd-ddi rhag digwydd i ni niwaid.

Yn swn murmur yr hen afon a chyfarthiad ambell lwynog ddaethai o'i ffau i geisio ysglyfaeth, a chwhwfan dolefus ambell golomen, buan y taena cwsg ei fantell dros y teithiwr blin; a chwsg melus, iachus, yw; mae'n rhoi ynni ac ysbrydiaeth newydd i bawb a'i mwynhao.

Ond daw terfyn, rhy fuan gan rai o honom, i'r cyntun hyfryd hwn pan fydd y cantwr llwyd yn dechreu trimio ei edyn a chymeryd ei gyweirnod, a'r hwyaid gwylltion yn cael eu trochfa foreuol, daw gwaedd o gysgod y llwyn—"All hands on deck, mae'r tegell wedi berwi a'r ceffylau yn dod i mewn." Nid gwiw oedd anufuddhau i'r waedd, canys gwyddem mai'r gosb am anufudd-dod fyddai dymchwel y babell. Deg munud fan bellaf yw'r amser ganiateir i ymwisgo, a rhaid gofalu fod y cwrlid wedi ei raffu'n gryno yn barod i'w roi yn y wagen. Gwiriem yr hen air bob bore,—"Cyfod i fyny dy wely a rhodia."

Mwynheir y boreufwyd yn wastad ar y paith; nid oes yno neb a'i lygaid yn bwl, ac yn pigo ei fwyd fel aderyn; mae mor hyfryd ar doriad gwawr hefyd, cyn gwres a lludded y dydd, pawb yn llawen ac yn prysur gynllunio taith y dydd. Os bydd pethau'n dod yn hwylus, byddys yn barod i gychwyn ar godiad haul.

Mae clywed cyfarthiad y llwyrog o bell yn burion, ac yn atodi at swn y paith yn y nos, ond os daw yn ymwelydd agos, bydd yno wagder mawr yn y gwersyll fore trannoeth. Caem gyfle ar hwyaden neu wydd wyllt weithiau yn ystod y daith, ac wedi noswylio a thorri newyn, byddem yn prysur bluo'r ysbail yng ngoleu siriol tân y gwersyll, gan ganu a dweyd straeon, a phenderfynu drwy dugel pwy gai rostio'r wydd ar doriad gwawr drannoeth; ond Ow'r siomiant chwerw am! fore! er pob dyfais i guddio'r trysor, byddai greddi y cadno wedi ein rhagflaenu, a Madyn wedi cael swper wrth fodd ei galon. Yr oedd colli brecwast flasus yn beth digon diflas, ond cofio am y dyfal bluo wnae'r golled mor chwerw.

Wel, dyma ni'n cychwyn o'r wersyllfa gyntaf, gan adael y dyffryn o'n holau, ac wynebu ar y paith anial a sych. Bydd llawer tro ar fyd cyn y delom yn ol i olwg hen ddyffryn ein mabwysiad: bydd yna bennod newydd wedi ei hysgrifennu yn llyfr ein bywyd. Rhyw deimlad o hiraeth ddaeth trosom er gwaethaf pob cywreinrwydd beth fyddai ein hanes ymlaen yna yn y diffeithdiroedd dieithr; beth fyddai hanes cartref pan ddychwelem—a fyddai pawb yno?—a gollem ni ambell i wyneb oedd yn blethedig â dyddiau ein plentyndod?

Codwn o'r dyffryndir i'r peithdir dreiniog, gan droi yn ol yn ddistaw—ddirgel i gael un gipdrem ar yr hen afon sydd yn pasio drws ein cartref. Yr oedd yr hen afon wedi bod yn ymblethedig â'm holl fywyd; yr oeddwn wedi'm suo i gysgu bob nos ym miwsig ei dyfroedd; gwelais y wawr yn troi ei dwr llwydaidd fel enfys brynhawn, a'r "lloer yn ariannu'r lli" nes gwneud drych gogoneddus i'r wybren serliog uwchben; gwelais eira'r Andes wedi rhewi ar ei bron, a gwres haul canol dydd yn datod y cwlwm rhewllyd, a'r mân fynyddoedd yn mynd fel llynges fuddugoliaethus tua'r Werydd. Wrth yr hen afon y dywedwn fy holl gwynion 'a'm cyfrinion: ar ei glan y cefais rai o freuddwydion melusaf fy mywyd, ac wrth wylio'r pysgod yn ymbrancio ar fachlud haul y dechreuais holi am ryfeddodau'r dyfrder, ac wrth wrando ar iaith natur yn y nos y deuthum i edrych ar bob deilen gain a phob blodeuyn pèr fel hen gyfeillion. Daeth tymhorau'r flwyddyn yn fil mwy dyddorol na'r un llyfr a ysgrifennwyd erioed.

Felly, nid rhyfedd ein bod yn tristâu—canys plant Gamwy oeddym i gyd—wrth fferwelio à hen gyfeillion mor gu, a diau i aml saeth—weddi esgyn tua'r orsedd wen am nodded nef dros ein Gwladfa, ac arncm ninnau tra ar ein taith i estron fro. A thithau, fwyn ddarllenydd, os teithiaist gyda ni i gwr y daith, tyred bellach i gydsyllu ar bigynnau gwynion yr Andes bell, a'r iâ oesol tan belydrau llachar yr haul fel pe'n adlewyrchu gwlad yr haul tragwyddol.



Nodiadau

golygu