Dringo'r Andes/Wedi'r Diluw
← Cyn Y Diluw | Dringo'r Andes gan Eluned Morgan |
Y Cychwyn → |
PENNOD II.
WEDI'R DILUW
WYRACH nad anyddorol i'r darllenwyr fyddai cael clywed sut yr ysgrifennwyd yr hyn sy'n dilyn, ac o dan ba amgylchiadau. Hanes pleserdaith i wlad y mynyddoedd ydyw, myfi yn ieuanc a hoew, ac heb wybod fawr ond am ochr euraidd bywyd, yn cychwyn fy nhaith i'r Andes mewn gwynfyd, gan freuddwydio a dychmygu am y rhyfeddodau oedd o fy mlaen; yn treulio fy noson olaf dan gronglwyd roof yr hen gartref urddasol wnaed mor gain a thlws drwy lafur cariad tad a mam,-rhu'r mor yn dod gyda'r el awel gan gasglu miwsig rhwng aflonydd ddail yr aethnen, oplar, murmur yr hen afon a'm suodd i gysgu er yn blentyn, heno eto'n dweyd yr un stori felus.
Canu'n iach fore trannoeth a "chwifio'r cadach gwyn" yn nhro ola'r ffordd. Teithio am fisoedd, crwydro miloedd o filltiroedd ol a blaen,—gweled rhai o olygfeydd godidocaf y byd, cael cip ar fywyd gwell a dyheadau uwch,—a dod 'nol i'r hen gartref i geisio sylweddoli rhai o'r breuddwydion, a hwyrach, wedi gorffwyso ac ymdawelu o flinderon y daith, ddanfon gair tros y don at fy nghydieuenctyd yng Nghymru i ddweyd wrthynt beth. welais yn yr Andes.
Eithr dyn sy'n cynllunio, ond Duw sy'n trefnu." ustafe Cyn rhoi pin ar bapur, cyn dadebru o gyfaredd swynion. yr Andes wen, cyn cydio mewn bywyd fel y darllenaswn ef yng nghysgod y mynyddoedd,—yr oedd cartref fy mebyd yn garnedd o adfeilion, a minnau yn ffoadur di-gysgod a digartref ar lethrau'r bryniau, tra dyffryn tawel y Gamwy, gyda'i ffermdai clyd a'i fân bentrefydd yn orchuddiedig â dwfr, a dim i'w weled ond brig y coed fel mân ynysoedd ynghanol y môr,—y nef fel pe wedi troi cefn ar y fangre fuasai gynt mor llewyrchus; y ffurfafen yn gwgu'n guchiog ac yn dal i dywallt y gwlaw yn ddidrugaredd; tair mil o Gymry digartref yn byw mewn pebyll ar fryniau graeanog y dyffryn, a phopeth oedd anwyl ganddynt wedi ei ysgubo ymaith tua'r môr.
Ychydig iawn o eiriau fyddai'n ddigon i ddesgrifio fy mywyd yn ystod y misoedd dilynol,—mewn cychod, mewn dwfr, mewn llaid, mewn malurion yn chwilota am weddillion; weithiau mewn dillad sychion, yn amlach mewn dillad gwlybion. Gweld y dwr yn cilio, o'r alanas he yn dod i'r golwg, murddyn ar ol murddyn yn ymgodi fel ysbrydion y dyfnder, a'r celfi fuasai gynt yn drysorau teuluaidd yn sglodion ar hyd y dyffryn; y caeau destlus lle gynt yr ymborthai'r dacedd mewn llawnder yn rhychau ac agennau hyllig, a'r brasdir du dyfasai wenith goreu'r byd yn gwreud mân fynyddoedd yng ngwaelod y Werydd, a dim ond y clai melynwyn, gyda gweddillion gwreiddiau y tyfiant rhonc fuasai gynt yn glasu'r dyffryn.
Wedi misoedd o ddisgwyl am ddaear sych a gwenau haul Gwanwyn, daeth yn amser i bawb ymysgwyd o'r tristyd a'r dychryn, a cheisio codi bwthyn unos o'r gweddillion adawyd gan y dyfroedd; minnau fel un o'r llu, aethum gyda'r gweithwyr i'w cynorthwyo yn ol fy rgellu, a chan rad cedd wiw colli amser i deithio ol a blaen bob nos tua'r bryniau, codwyd caban coed i Eluned gael llechu yno dros nos, a gweini ar y gweithwyr liw dydd. Byddant hwy yn flinedig ar fachlud haul wedi bod mor ddiwyd drwy wres y dydd, a thaena cwsg ei martell yn dyner trostynt hyd doriad gwawr drannoeth.
Llechwn i yn fy nghaban coed, a chwibianai'r gwynt ei leddf hwiangerdd drwy'r tyllau a'r rhigolau oedd yn yr estyll. Yn y gongl fwyaf cysgodol yr oedd gennyf ford gron a channwyll wêr mewn canhwyllbren welsai ddyddiau gwell. Yr oedd hen foncyff helyg yn gwneud eisteddle burion; fy unig ofid oedd fod y gwynt braidd yn hyf ar fy nhipyn cannwyll, ac yn fy ngorfodi i wastraffu matches, a rheiny'n brin ac yn anawdd eu cael.
Nid yw'r darlun yn ddeniadol iawn, a yw, i oes sydd
yn glythu mewn moethau? Ond treuliais rai o oriau dedwyddaf fy mywyd yn y gell gyfyng honno-oriau euraidd
wnaeth i mi anghofio'r tristyd a'r trueni, y tlodi a'r caledi
oedd o fy mlaen. Diolch nad oes gell all gadw enaid,— -tra'm pabell bridd rhwng muriau coed, chedai fy enaid
mewn gorfoledd ar frigau gwyn yr Andes, a drachtiai yn
helaeth o ysbryd y mynyddoedd, heb gofio dim am flinder
corff ra'r dyfodol tywyll oedd yn hylldremu o ganol cors
arobaith fy nghartref adfeiliedig. Sugnwn nerth a gobaith
wrth syllu ar Orsedd y Cwmwl; mae'r Orsedd yn ddigon
gwyn i gymylau'r nef ddisgyn yn esmwyth arni i orffwys
ennyd cyn tywallt eu bendithion ar ddaear sychedig.
Ac fel yna, o nos i nos, yng ngoleu gwan fy nghannwyll
wêr, a rhwng bregus furiau fy mwthyn coed, yn nistaw-
rwydd nos y paith, y cefais fy nghip, mewn adgof, ar
Gopa'r Andes.
PENNOD 111.
Y CYCHWYN
AE llawer yn son am yr Andes fel y byddai hen emynwyr Cymru yn son am "India ac aur Peru"—trwy ddychymyg. Dychmygais innau lawer er yn blentyn am fynyddoedd mawr Deheudir America, a hiraeth lond fy nghalon am gael syllu â'm llygaid fy hun ar eu holl fawredd a'u gogoniant. Llawer mae calon dyn yn ddymuno mewn oes, onide? Ac O, mor ychydig o'r dymuniadau hynny sydd yn cael eu sylweddoli! Ond fe geir ambell un yn ei holl felusder a'i wynfyd, a theimlwn fod yr un hwnnw yn gwneud i fyny am lu o siomedigaethau. Felly finnau gyda'r daith i'r Andes: breuddwyd wedi ei sylweddoli yn ei berffeithrwydd fu y darn yma o'm hanes.