Dros y Gamfa/Colli'r Ffordd
← Cynnwys | Dros y Gamfa gan Fanny Winifred Edwards |
Colli'r Cadwyni → |
"Y FI YDYW TYLWYTH Y COED."
I. Colli'r Ffordd
Yr oedd Hywel, am y tro cyntaf erioed, wedi cael myned ei hunan i edrych am ei nain. Hyd yn hyn, byddai y daith bleserus yn cael ei gwneud yng nghwmni ei dad neu ei fam, am na ystyrrid Hywel yn ddigon mawr i fyned ei hunan y pellter o ddwy filltir o'r pentref bychan, lle 'roedd ei gartref, i dŷ ei nain, oedd mewn llecyn unig yng nghanol y wlad. Ac er y byddai "mynd am dro i dŷ nain" bob amser yn bleser digyffelyb, yn enwedig pan y caniatai gŵyl i'w dad a'i fam ac yntau gael mynd gyda'i gilydd, eto, yr oedd yna ryw swyn newydd mewn cael mynd ei hunan, ac ni fu erioed mewn cymaint brys am gael cychwyn. Prin y cymerai hamdden i fwyta ei frecwast, ac i wrando ar ei fam yn ei rybuddio i gychwyn yn ôl yn gynnar,—"Cofia di," meddai, "fod yna dros ddwy filltir o ffordd i dŷ nain. Os gwnei di beidio ymdroi heddyw, mi gei fynd yno eto'n reit fuan." Ond wedi cyrraedd tŷ ei nain, yr oedd y croeso cynnes, a'r cyfleusterau i chwarae mor amrywiol a difyr, megis dal pysgod bach yn y ffrwd redai heibio talcen y berllan, gwneud mîn ar gerrig gleision ar y maen llifo, dringo y coed afalau, chwilio y gwyrychoedd am nythod, cario dŵr yn y piser bach o'r pistyll a'i dywallt i bwll oedd yng ngwaelod yr ardd, a llu o bethau eraill nad oedd yn bosibl cael gwneud yr un ohonynt gartref, fel nad rhyfedd i Hywel anghofio popeth am gloc ac am amser, nes i'w nain ei atgofio o'u bodolaeth, a'i gymell i gychwyn yn ôl. "Gwell i ti fynd," meddai, "rhag i dy fam fynd yn anesmwyth, ac i dy dad fod rhyw lawer iawn yn y tŷ o dy flaen," ac ebai Hywel,—"fedra i ddim cyrraedd o flaen tada, a mynd i'w gyfarfod fel arfer, nain?"
"Na fedri heno, dos adre ar dy union."
Ac ymaith a Hywel yn ddioed, a'i nain yn galw ar ei ol,—"Cofia frysio yma eto."
Wedi cerdded rhyw hanner milltir, arweiniai y ffordd heibio cwr coedwig fawr, ac yn y fan honno daeth i gof Hywel fel yr oedd wedi clywed ei dad yn dweyd fod llwybr cul yn rhedeg drwy y goedwig, oedd yn arwain i'r gamfa oedd o fewn ychydig lathenni i'w gartref, ac yn arbed cerdded gryn filltir o ffordd. Ac meddai Hywel wrtho ei hunan,—
"Mi af drosodd i'r goedwig i chwilio am y llwybr, ac yna mi fyddaf gartref yn ddigon buan i fynd i gyfarfod tada."
Ac felly y gwnaeth, gan ddringo y wal yn fedrus, a neidio oddi arni yn hwylus ar y llawr gwyrdd, esmwyth, yr ochr arall iddi. Ond cyn cerdded eithaf hanner dwsin o lathenni yn y goedwig, gwelodd fod y llwybrau bron mor liosog a'r coed, ac yn arwain i bob cyfeiriad, a bu am foment yn petruso a elai ymlaen ai peidio, ond gan ei fod mor awyddus i gyrraedd ei gartref mewn pryd, penderfynodd barhau i chwilio am lwybr y gamfa, a daliodd i gerdded a cherdded nes cael ei hunan mewn llecyn a amgylchynwyd â gwrychoedd, ac nis gwyddai yn y byd sut i fynd oddi yno, yn ol nac ymlaen. Yn y fan honno y mae'n eistedd i orffwys ychydig ac i edrych ar y coed mawr oedd yn tyfu o gwmpas y gwrychoedd, ac fel yr oedd yn edrych, y mae'n sylwi fod cangen un o'r coed yn dechre ysgwyd. Nid ysgwyd fel y bydd cangen pan yn cael ei siglo gan yr awel, ond edrychai fel pe'n cael ei symud gan ryw law. Ar unwaith, ymwthiodd Hywel drwy y gwrych i'r ochr arall. Yn y fan honno gwelai fachgen, ychydig yn fwy nag ef, yn siglo ei hunan ôl a blaen wrth y gangen. Tra yr oedd syndod a llawenydd yng ngolwg Hywel wrth ei weled, edrychai y bachgen yn hollol ddidaro, ac fel pe bai cyfarfod Hywel yn y lle hwnnw yn un o'r pethau mwyaf naturiol, a gofynnodd, gan ddisgyn i lawr oddiar y gangen,—
"Wyddoch chwi lle mae coed helyg yn tyfu? 'Rydw i 'n crwydro yn y goedwig yma ers oriau, yn chwilio am wiail helyg i nhad wneud basgedi, a fedra i yn 'y myw ddod o hyd i'r coed."
"Na wn, wir. Mae'r lle'n ddiarth iawn i mi. Wyddoch chwi p'run ydyw'r llwybr sy'n arwain at y gamfa sydd yn y ffordd bost? 'Rwyf ers meityn yn chwilio am dano."
"Mae arnaf ofn y bydd raid i chwi chwilio'n hir eto. Cyn y dowch i'r llwybr sy'n arwain iddo, rhaid i chwi droi ar y chwith ddwy waith ac i'r dde deirgwaith."
"Ddowch chwi i ddangos y ffordd i mi? Mae'n tŷ ni wrth ymyl y gamfa, ac mae mam yn siwr o dalu'n dda i chwi."
"Buasai yn dda gennyf gael dod, ond mae'n rhaid i mi fynd i chwilio am helyg i nhad. Mae ganddo ddwy fasged i'w gorffen erbyn nos yfory, ac nid oedd ganddo ond rhyw ddyrnaid o wïail pan oeddwn yn cychwyn. Ond croeso i chwi ddod hefo mi. Beth yw eich enw? Caradog yw fy enw i."
Fel yr oedd Hywel yn hysbysu iddo ei enw, y mae rhyw sŵn ar y dde iddynt yn peri i'r ddau droi i'r cyfeiriad hwnnw, a gwelent yn cerdded yn gyflym tuag atynt ddyn bychan, mor fychan yn wir, fel mewn ambell i le yr oedd y gwellt uched a'i ysgwydd. Os nad oedd Caradog yn edrych yn syn pan welodd Hywel, yr oedd gymaint o syndod yn wyneb y ddau a'i gilydd pan yn edrych ar y dyn bychan yn nesu atynt. Ac nid rhyfedd. Yr oedd ei faint a'i wisg mor wahanol i ddim welsant erioed o'r blaen. Yr oedd ei wisg fel pe wedi tyfu amdano, nid oedd fymryn rhy fawr na mymryn rhy fach, ac nid oedd ond ei ddwylaw a'i wyneb nad oedd wedi ei guddio ganddi. Yr oedd o'r un lliw a gwellt a dail y coed, a phan yn sefyll yn llonydd, gellid tybio mai rhyw fath o welltyn neu goeden fychan ydoedd. Pan welodd y bechgyn ef, aethant i sefyll yn dynn at ei gilydd, a hawdd canfod ar eu hwynebau eu bod yn teimlo yn grynedig ac ofnus. Ond nid oedd iâs o ofn i'w weled yn wyneb y dyn bychan gwyrdd. Edrychai mor dalog a phe bai yn gawr. A chyn dweyd yr un gair wrth y bechgyn, na phrin edrych arnynt, aeth i fyny at y goeden, lle'r bu Caradog yn hongian, ac edrychodd hi i fyny ac i lawr yn ofalus, gan deimlo amryw o'r dail oedd yn ei gyrraedd a'u harogli. Ac meddai Caradog yn ddistaw yng nghlust Hywel,—
"Peidiwch a deyd mod i wedi cael singlan ar y goeden yna."
"Wna i ddim. Gobeithio na fedr o ddim ffeindio."
Ar hynny y mae y dyn bychan yn neidio i'r gangen y bu Caradog yn siglo arni, ac yn myned ar ei hyd gerfydd ei ddwylaw i'w bôn, ac wedi boddloni ei hunan, mae'n debig nad oedd ronyn gwaeth, y mae'n neidio i lawr ac yn dod i ymyl y bechgyn, ac yn gofyn mewn llais clir, fel cloch yn tincian,—
"Beth ydyw eich neges? Y mae gennyf hawl i'w gwybod. Y fi ydyw Tylwyth y Coed."