Dros y Gamfa/Colli'r Cadwyni

Colli'r Ffordd Dros y Gamfa

gan Fanny Winifred Edwards

Penbleth Hywel

II. Colli'r Cadwyni

Yn ddioed fel pe'n falch o'r cyfle i ddweyd ei helynt, y mae Caradog yn dechreu adrodd yn fanwl wrtho ei neges yn y coed. Gynted y tewodd, dywed Hywel ei helynt yntau, a'r ddau fel ei gilydd yn erfyn am gynorthwy i gael eu dymuniad gan Dylwyth y Coed. Caradog yn dymuno cael ei arwain yn ddioed at y coed helyg, a Hywel yr un mor daer am gael mynd dros y gamfa.

Bu'r Tylwyth am ysbaid heb eu hateb gan sefyll o'u blaen, ac edrych i lawr fel pe mewn dwfn fyfyrdod. Yna cododd ei ben yn sydyn, ac meddai,—

"Mae'n amhosibl i mi eich cynorthwyo fy hunan. 'Rwyf ar fy ffordd i gyfarfod fy mrawd. Mae'n aros am danaf mewn coeden onen ymhell oddi yma. Mae ganddo gyfrinach bwysig i'w hysbysu i mi, ac y mae wedi fy rhybuddio i fynd ato ar frys. Ond ar fy nhaith ato byddaf yn siwr o gyfarfod rhai o'r Tylwyth Teg, a gofynnaf iddynt ddod i'ch helpu. Arhoswch yn y fan hyn, a pheidiwch symud oddi yma. Ond y mae'n rhaid i chwi gysgu,—ni ddaw y Tylwyth Teg atoch os byddwch yn effro."

"Os byddwn ni yn cysgu," ebai Caradog, "sut y caiff y Tylwyth Teg wybod beth sydd arnom eisiau?"

"Gwnaf fi eu hysbysu o hynny. Dwedaf wrthynt fod un bachgen eisiau ei ddwyn at y coed helyg, a'r llall eisiau mynd dros y gamfa."

Ac ebai Hywel,—

"Ie, ond pwy fydd yma i ddweyd wrth y Tylwyth Teg mai Caradog sydd yn chwilio am wiail a finnau yn chwilio am y gamfa?"

"Gofalaf am hynny hefyd," ebai Tylwyth y Coed. A thynnodd o'i fynwes ddwy gadwen hir o rawn cochion, ac meddai,—

"Plygwch eich pennau."

Ac wedi iddynt ufuddhau, rhoddodd un gadwen am wddf Hywel, a'r gadwen arall am wddf Caradog, gan ddweyd wrth Hywel,—

"Dyma i chwi gadwen o rawn crwn."

Ac wrth Caradog,—

"Dyma i chwithau gadwen o rawn hir-grwn. Yna bydd y Tylwyth Teg yn gwybod fod y bachgen sydd yn gwisgo y grawn crwn eisiau mynd dros y gamfa, a'r bachgen sydd yn gwisgo y grawn hir-grwn yn dymuno cael mynd at y coed helyg."

Diolchodd y bachgen iddo am y ddwy gadwen ac am ei barod-rwydd i'w helpu. Ac ebai yntau gan ostwng ei lais,—

"Mae'n dda gen i gael eich helpu. Ond wedi i mi fynd, cymerwch ofal na wnewch chwi ddeyd yr un gair o'ch hanes wrth y Tylwyth Chwim, os daw un neu ragor ohonynt atoch cyn i chwi gysgu a chymell eich helpu. Peidiwch a gwrando arnynt na'u dilyn, dyma fi yn eich rhybuddio mewn pryd. Os gwnewch, maent yn siwr o'ch camarwain, dyna eu gwaith."

"Y Tylwyth Chwim," ebai y bechgyn yn syn gyda'i gilydd, "pwy yw y rheiny?"

"Tylwyth sy'n byw ar derfyn y goedwig yma, a phob amser yn chwilio am gyfle i aflonyddu ar y Tylwyth Teg a fy nhylwyth innau. Maent o'r un maint a mi, ac y mae eu gwisg yn debig ond fod eu lliw yn goch. Os gwelwch hwy yn nesu cauwch eich llygaid a chymerwch arnoch eich bod yn cysgu yn drwm. Peidiwch a gadael i gywreinrwydd eich cadw'n effro a meddwl y gallwch eu troi draw pan y mynoch. Maent yn gyfrwys iawn ac anaml y gwelwch lai na phedwar ohonynt gyda'i gilydd. Os gwelwch un wrtho ei hunan, gallwch fod yn sicr ei fod wedi troseddu ac yn cael ei gosbi. Dyna eu cosb am drosedd bob amser. Rhaid i'r sawl fydd wedi troseddu grwydro wrtho ei hunan hyd nes y gall gyflawni rhyw weithred fydd yn ennill edmygedd a chymeradwyaeth y gweddill o'r Tylwyth. Ond mae'n rhaid i mi fynd, bydd fy mrawd yn blino aros am danaf."

A ffwrdd ag ef gyda'r fath gyflymder nes yr oedd yn llwyr o'r golwg cyn i'r bechgyn gael hamdden i ddweyd gymaint ag un gair ymhellach wrtho.

"Wel, dyna greadur bach rhyfedd," ebai Caradog, "y rhyfedda welais i erioed."

"A finna hefyd," ebai Hywel. "Onid oedd ganddo lais peraidd?"

"Oedd, a gwisg brydferth. Mae'n dda gen i mod i wedi methu dod o hyd i'r coed helyg, er mwyn cael ei gyfarfod."

"Mae'n dda gen inna mod i wedi colli y ffordd. Ond pwy fasa'n meddwl fod gan greadur bach fel yna elynion? Gobeithio na welwn ni mo'r Tylwyth Chwim."

"Ie'n wir. Mae'n rhaid eu bod yn dylwyth cas iawn i boeni y Tylwyth Teg."

"Onid yw yn resyn fod yn rhaid i ni gysgu ac na chawn weld y Tylwyth Teg?"

"Ydyw, ond gan na ddeuant atom yn effro, gwell i ni wneud hynny heb ymdroi, rhag ofn eu bod yn nes atom nag ydym yn feddwl. 'Rwyf fi am orwedd wrth fôn y goeden yma."

"Gwnaf finnau hefyd; bydd y mwsogl sydd yn y fan hyn yn esmwyth dan ein pen."

Gan ei bod yn ddiwrnod tesog, a'r bechgyn yn flinedig, ni fu raid i'r un o'r ddau geisio denu cwsg, yr oedd fel pe'n disgwyl am danynt yn y mwsogl, ac yn fuan iawn yr oeddynt yn cysgu yn drwm. Gyda hynny, dyna ddail y gwrych oedd tu ol i'r goeden yn dechreu symud, a dacw un o'r Tylwyth Chwim yn ymwthio drwyddynt, ac yn prysuro i sefyll uwchben y bechgyn, mor gyflym ei ysgogiadau a wiwer, ac wedi clustfeinio a chael sicrwydd eu bod yn cysgu, meddai, a'i lais yn llawn o hunan-foddhad,—

"Dyma i mi gyfle ardderchog i ennill ffafr fy nhylwyth. 'Rwyf wedi blino yn crwydro wrthyf fy hunan, ac yn wir yr oedd y gosb braidd yn drom a meddwl na wnes i ond colli un cyfle i roi drain yng nghylch y Tylwyth Teg. Ond beth waeth am hynny yn awr, mae y gosb ar ben. Ychydig feddyliai Tylwyth y Coed fy mod yn gwrando ar ei stori i gyd tu ol i'r gwrych yna. Druan ohono, cyn y daw ei gyfeillion y Tylwyth Teg yma, byddaf fi wedi newid y ddwy gadwen, a chaiff y bachgen sydd eisiau mynd dros y gamfa ei gludo at y coed helyg, a'r un sydd eisiau dod o hyd i'r coed helyg ei gario dros y gamfa. Pan glyw fy nhylwyth am fy ngwaith, byddant wrth eu bodd. Ha! Ha!! Ha!!! Ha!!!!"

Yna plygodd i lawr a chyda bysedd mor ysgafn a phlu, cwyd ben Hywel, a thynn y gadwen oddi am ei wddf, ac wedi ei osod i lawr yn esmwyth ar y mwsogl, yn gwneud yr un peth gyda Caradog. Yna, gyda'r un gofal fe rydd gadwen Caradog i Hywel, a chadwen Hywel i Garadog. Wedi hyn, tynnodd flwch bychan o'i fynwes, ac wedi iddo iro traed Hywel gyda'r hyn oedd ynddo, ymwthiodd yn ol drwy y gwrych.

Nodiadau

golygu