Dros y Gamfa/Penbleth Hywel
← Colli'r Cadwyni | Dros y Gamfa gan Fanny Winifred Edwards |
Y Chwibanogl → |
III. Penbleth Hywel
Nid aeth y Tylwyth Chwim foment yn rhy fuan o'r golwg; nid oedd ond prin wedi diflannu nad oedd y Tylwyth Teg yn cyrraedd o gyfeiriad arall. Fel y sylwodd Hywell yr oedd yn resyn na chawsant gymaint ag un olwg arnynt, oblegid yr oeddynt tuhwnt i ddisgrifiad o brydferth, yn eu mentyll arian, a chwifiwyd yn yr awel ysgafn, nes dangos eu gwisgoedd gwynion, oeddynt fel plygion lili cyn gorffen agor am dani. Am eu traed bychain yr oedd esgidiau arian, ac am eu pen yr oedd ganddynt sidan esmwyth o liwiau'r enfys wedi ei blethu yn gylch ac ambell i wlithyn yn disgleirio arno. Yr oedd eu llais yn llawn miwsig, a hawdd fuasai credu fod pob gair ddywedent yn suo y bechgyn i felysach cwsg. Ac ebai un ohonynt gan wenu ar Hywel a Charadog,—
"Dyma gyfle eto i wneud cymwynas. Onid ydych yn llawen?"
Ac ebai'r gweddill gyda'i gilydd,—
"Yr ydym wrth ein bodd."
"Rhaid i ni ddiolch i Dylwyth y Coed am ein cyfarwyddo atynt."
"Rhaid ar unwaith."
"Cymerwch chwi eich pump ofal yr un sydd yn mynd dros y gamfa; awn ninnau a'r llall at y coed helyg." Ac felly y bu. Yn sicr ddigon, yr oedd y Tylwyth Chwim wedi llwyddo i dwyllo y Tylwyth Teg i'r eithaf, a'u harwain i ymddwyn at y bechgyn yn hollol groes i'r hyn fwriadent. Cafodd Caradog ei gario dros y gamfa, a phan ddeffrodd Hywel, yr oedd ynghanol coed helyg. A gwaith pur anodd iddo oedd perswadio ei hunan nad breuddwydio yr oedd. A dyna lle 'roedd yn rhwbio ei lygaid ac yn craffu i bob cyfeiriad, a phob edrychiad yn sicrhau ei fod ynghanol coed helyg, ac nad oedd hanes o gamfa yn unman! Ac meddai,—
"Wel, dyma beth rhyfedd. Dyma fi ynghanol coed helyg, ond lle mae Caradog? Ai tybed ei fod ef wedi ei gario dros y gamfa? Tybed fod y Tylwyth Teg, neu Dylwyth y Coed, wedi chware tric â ni? Beth bynnag am hynny, y peth goreu i mi ydyw mynd oddiyma gynted y gallaf. Ond cyn mynd mi dorraf faich o'r gwiail yma i Garadog; feallai y deuaf ar ei draws yn rhywle, mae gen i ddigon o linyn yn fy mhoced i'w cylymu."
"Y TYLWYTH TEG YN CYRRAEDD O GYFEIRIAD ARALL."
Ac fel y gorffennai ddweyd hyn wrtho ei hun, y mae'n codi i fyny, ac yn cychwyn cerdded at y goeden nesaf ato, ond cyn ei fod wedi rhoi eithaf tri cham y mae'n teimlo ei draed yn glynu yn y ddaear, ac nis gallai mewn modd yn y byd fynd yn ol nac ymlaen. Ni fu erioed yn y fath benbleth; er troi a chroesi a gwingo nes peri poen iddo ei hunan, nid oedd ronyn nes i symud modfedd. Gan nad oedd hyn yn tycio, penderfynodd sefyll yn llonydd a galw'n uchel ar Garadog, a galw y bu ar uchaf ei lais, ond nid oedd neb yn ei ateb. Yr oedd distawrwydd y lle yn llethol. Pan ar dorri i wylo gan y braw a'r unigrwydd, tybiodd ei fod yn clywed rhyw sŵn o'r tu ol. Trodd ei ben, ac er llawenydd digymysg iddo, gwelai Dylwyth y ddwy gadwen yn ymwthio i'r golwg heibio bôn un o'r coed. Nid yw dweyd ei fod wedi edrych yn syn pan welodd Hywel ond ffordd eiddil iawn o'i ddisgrifio. Mewn gwirionedd yr oedd am foment yn rhy syn i dorri gair, nac i symud. A Hywel yn erfyn arno am iddo ei helpu i ddod yn rhydd ac i ddefnyddio ei draed fel cynt. O'r diwedd y mae y teimlad o syndod yn ei adael a ffwrdd ag ef yn ol i rywle gan ddychwelyd ymhen eiliad neu ddau gyda llond ei ddwylaw o rywbeth tebig i fwsog, ond ei fod yn fwy sidanaidd, a chyda brys ac egni eithriadol y mae yn dechreu rhwbio traed Hywel, ac yn fuan iawn yr oedd yn gallu symud mor ysgafndroed ag erioed, a chynnes iawn oedd ei ddiolch am y fath waredigaeth. Ond nid oedd Tylwyth y ddwy gadwen fel pe'n gwrando ar ei eiriau, gymaint ei frys ydoedd am gael gofyn,—"Paham yr ydych chwi yn y fan hyn? Lle mae Caradog?"
Ac ebai Hywel,—
"Mae'n rhaid fod y Tylwyth Teg wedi camgymeryd, ac wedi mynd a Charadog dros y gamfa, a fy nghario innau i'r fan hyn."
"Dim o'r fath beth," ebai yntau, gan ysgwyd ei ben yn brudd, "dim o'r fath beth."
"Wel, os na wnaethant gamgymeriad," ebai Hywel, "feallai eu bod wedi gwneud hyn er mwyn cael tipyn o hwyl."
"Hywel, peidiwch byth a dweyd hynyna eto. Mynd o gwmpas i helpu rhai fel y chwi ydyw gwaith y Tylwyth Teg, ac nid i ychwanegu at eich rhwystrau."
"Rhaid, felly, mai chwi wnaeth gamgymeriad wrth ddweyd am y ddwy gadwen," ac fel y cofia Hywel am y cadwyni, gafaela yn ei gadwen, ac am y tro cyntaf er pan y rhoddai'r Tylwyth hi, ac y derbyniai Hywel hi, y mae y ddau yn edrych arni, a chyda'i gilydd bron y mae y dyn bychan gwyrdd yn dweyd,—"Dyma eglurhad ar y cwbl," a Hywel yn gofyn,—"Beth yw hyn? Cadwen Caradog yw hon; cadwen o rawn hirgrwn oedd gen i."
"Ie," ebai Tylwyth y ddwy gadwen, "ond y mae y Tylwyth Chwim wedi eu newid. Mae'n rhaid ei fod yn ymyl pan oeddwn yn eu rhoddi i chwi ac yn gwrando ar y cynllun. Ow! Ow! fel y bydd y Tylwyth Teg yn gofidio am hyn. A minnau wedi ymroddi gymaint i ennill eu ffafr, ac mor agos i gael fy ngwobrwyo ganddynt. Ond yn awr collaf y cwbl."
"Nis gallant eich beio chwi," ebai Hywel, "y Tylwyth Chwim sydd yn gyfrifol am hyn i gyd. Pe cawn i weld y Tylwyth Teg, buaswn yn eu sicrhau nad oes bai arnoch chwi. Ond gan nad yw hyn yn bosibl, deydwch wrthynt fod Hywel,—dyna fy enw,—yn barod i dystio o'ch plaid."
"O, Hywel, yr ydych yn garedig, ond nid ydych yn deall rheolau y Tylwyth Teg. Bydd yn rhaid i mi anfon rhai o'n Tylwyth ni atynt i ddweyd yr holl hanes, ac nis gallaf gelu nad wyf wedi bod yn ddiofal, ac wedi bod yn achos iddynt dorri un o arferion pennaf eu llys."
Edrychai Tylwyth y ddwy gadwen mor ofidus fel nad oedd yn syn gan Hywel ei weld yn syrthio i lawr a'i wyneb i'r gwellt fel pe wedi ei lethu gan dristwch. Ac ebai wrtho, gan ei gynorthwyo i godi i fyny,—
"Peidiwch a digaloni. Dowch, codwch ar eich traed. 'Rydach chwi wedi gwneud eich goreu. Mi ddof i'ch canlyn; 'rwyf yn sicr y gellwch fy helpu eto."
Cododd yntau gan edrych ychydig yn fwy siriol, ac meddai,—
"Mae'n dda gen i eich clywed yn deyd fy mod wedi gwneud fy ngoreu. Ond nis gallaf eich helpu fy hunan, ac felly af i chwilio am rai o fy nhylwyth. Rhyngom yr ydym yn sicr o fedru eich cynorthwyo. Ond gwell i chwi beidio dod gyda mi; gallaf gerdded gymaint yn gynt na chwi, ac ymwthio drwy leoedd bychain, a thrwy hynny arbed llawer o gerdded. Arhoswch yn y fan hyn am danaf, a chymerwch ofal rhag symud oddi yma, na chau eich llygaid am foment, rhag ofn i chwi gysgu ac i'r Tylwyth Chwim ddyrysu fy nghynllun eto. Dyma fi'n mynd; gwnewch bob ymdrech i gadw'n effro."
"Peidiwch pryderu," ebai Hywel, "mae cwsg ymhell iawn oddiwrthyf."
"Ymhell y byddo," ebai yntau, gan brysuro o'r golwg drwy y gwellt.