Dros y Gamfa/Llys y Tylwyth Chwim
← Y Wisg Ryfedd | Dros y Gamfa gan Fanny Winifred Edwards |
Colli'r Rhaffau → |
IX. Llys y Tylwyth Chwim
Fel yr oeddynt yn parhau i edmygu eu hunain, ac i dalu gwarogaeth i'w gilydd, a Hywel yn hiraethu am gael rhoddi ei fysedd yn ei glustiau rhag eu clywed, y mae sŵn utgorn peraidd yn torri ar eu clyw, ac ar amrantiad dacw'r Tylwyth Chwim yn un haid yn rhuthro â Hywel gyda hwy, ac yn mynd am ryw winllan fechan, oedd o fewn ychydig bellter i'r lle y safent, a chyda eu medrusrwydd arferol, yn dringo i fyny i'r coed ac yn ymguddio rhwng eu brigau deiliog.
"Mor ffôl y bum," meddyliai Hywel tra yn dilyn eu hesiampl, "eu dilyn i'r fan hyn. Gallaswn yn hawdd fod wedi rhedeg i gyfeiriad arall; gwell fuasai i mi fod ar goll yn y goedwig nac yng nghwmni y rhein." Ond yr oedd yn rhy hwyr iddo droi yn ôl pan y daeth y syniad i'w feddwl, ac nis gallai yn awr ond dal i ddringo a chwilio am le diogel rhwng brigau y coed. Ac yno y buont yn eistedd, a'r Tylwyth Chwim fel pe'n dal eu hanadl, ac yn eistedd mor llonydd a phe baent yn ddelwau, a'r dail mor luosog o'u cwmpas fel mai prin y gallent weled ei gilydd trwyddynt. A Hywel yn meddwl paham tybed y rhoddodd sŵn mor beraidd gymaint o fraw iddynt. Ac wrth ddisgyn i lawr wedi i'r sŵn ddistewi yn llwyr yn y pellter, gofynnodd i un ohonynt,—
"Pwy oedd yn canu yr utgorn yna?"
Atebodd yntau, "Nid yw o bwys i ti pwy oedd yn ei ganu. Oni bai fod ein gwisg ni am danat ni fuaset yn ei glywed."
"Na faset," ebe un arall, "ond o hyn allan gelli glywed nid yn unig yr utgorn yna ond clychau y Tylwyth Teg hefyd."
Ac ebe Hywel wrtho ei hunan,—"A fydd hyn o ryw fantais i mi, tybed? A fydd clywed yr utgorn a chlychau'r Tylwyth Teg o ryw help i mi ddianc?" Ond i'r Tylwyth gofynnodd,—"A oes clychau gan y Tylwyth Teg?"
"Oes," oedd yr ateb, "ond paid a holi dim yn eu cylch, nid yw yr arweinydd yn foddlon i ni sôn am danynt."
Os cafodd y gobaith yn Hywel am gael dod yn rhydd ei gryfhau gan y wybodaeth fod yn bosibl iddo glywed yr utgorn a'r clychau, ni fu y mwynhad roddodd hyn iddo ond byr ei barhad, oblegid yn fuan wedi iddynt gychwyn o'r winllan, ebe'r arweinydd:
"Yn awr, heb oedi rhagor, gwell i ni gychwyn ar y llwybr sydd yn arwain gyntaf at ein llys." A chyda dweyd hyn dringant dros wal uchel, ac i Hywel, er ei syndod, ymddangosai fel pe baent yn mynd o'u ffordd er mwyn cael ei dringo, ond cafodd fwy o achos i synnu pan welodd mai cors oedd yr ochr arall i'r wal, ac nis gallai ddeall fod llwybr mewn cors y llwybr cyntaf i unrhyw le. Ond trwy gors y bu raid mynd, a chan ei bod mor laith a sigledig, nid oedd yr un ohonynt, er mor chwim ydoedd, yn gallu prysuro drwyddi. Wedi o'r diwedd ddod allan ohoni, y maent yn dal i deithio yn yr un cyfeiriad heb droi i dde nac aswy. Ac nis gallai Hywel lai na sylwi ar y daith fel yr oedd popeth o'u cwmpas yn mynd yn llai prydferth. Y gwrychoedd yn mynd yn brinach o ddail; dail y coed wedi colli y gloywder oedd yn eu nodweddu mewn rhannau eraill o'r goedwig; y gwellt o dan eu traed yn mynd yn fwy caled ac anodd ei gerdded; pob blodeuyn fel pe wedi gwrthod tyfu yn unman mor bell ag y gwelai, a rhyw wreiddiau yma ac acw yn gwasgar arogl anhyfryd nes trymhau yr awyr o'u cwmpas. Toc, daethant at ffrwd o ryw ddwy lath o led, a throedfedd o ddyfnder, ac wedi sefyll yn y fan honno, y mae'r arweinydd yn mynd ac yn sibrwd rhywbeth yng nghlust pob un, ac fel yr oedd yn sibrwd, yr oedd gwên faleisus yn ymdaenu dros wyneb y sawl oedd yn gwrando, ac wedi sibrwd yng nghlust yr olaf, y mae'n nesu at Hywel ac yn dweyd gydag awdurdod yn ei lais:
"Mae eisiau i ti ein cario ar dy gefn bob yn un dros yr afon yma. Cei fy nghario i yn gyntaf."
A chyda dweyd hyn y mae yn neidio ar gefn Hywel, ac yn ddiymdroi y mae yntau yn ei gario drwy yr afon i'r ochr arall. Ac yn dychwelyd i nôl y lleill y naill ar ôl y llall, nes yr oedd yn rhy flin bron i ymsythu. Ni feddyliodd erioed y gallai neb o'u maint fod drymed, yr oedd pob un ohonynt fel darn o blwm, a da iawn oedd ganddo gael rhoi yr olaf i lawr yr ochr bellaf i'r afon. Wedi cerdded ond ychydig o gamrau oddiwrth y dŵr, daethant at drofa, ac yn y fan honno, er braw mawr i Hywel, wedi iddynt fynd heibio y drofa, y maent yn dechreu crechwen a dawnsio a gwneud yr ystumiau rhyfeddaf arnynt eu hunain, ac yna wedi ysbaid o hyn, y maent i gyd yn ymsythu, a chan bwyntio i'r un cyfeiriad, y maent yn bloeddio gyda'i gilydd, "Dacw'r llys. Fe gawn groeso cynnes gyda hyn." Ac ymroent i ragor o dwrf a miri, tra yr oedd Hywel yn sefyll o'r neilltu wedi ei feddiannu yn llwyr gan anobaith a braw. Ac yn dweyd wrtho ei hunan:
"Mae ar ben arnaf yn awr. O! na bawn wedi cael mynd dros y gamfa fel Caradog. Paham y gwnes dro mor ffôl ac uno â'r Tylwyth yma, a chymryd fy nenu ganddynt. Tybed fod Tylwyth y Coed yn parhau i chwilio am danaf? Pa le——"
Ond cyn iddo gael gorffen gofyn iddo ei hunan ei gwestiwn, sylwodd ar un o'r Tylwyth yn sefyll yn syth, ei wyneb yn gwelwi, ei enau yn symud, ac yna gydag anhawster yn bloeddio,—"Y rhaffau." Ar amrantiad dacw y Tylwyth Chwim i gyd yn sefyll; dacw pob gwedd yn newid, a chyda'r un cyfyngder yn eu llais y maent gyda'i gilydd yn gwaeddi, "Y rhaffau." Ac ebe'r arweinydd yn groch, gan ruthro yn ôl at y ffrwd,—"Yn ôl! Yn ôl! Rhaid dod o hyd iddynt."
A ffwrdd â hwy, a Hywel am y tro cyntaf yn ysgafn ei galon yn ufuddhau i'r arweinydd. Ac heb gofio am ei gefn, i'w cario drosodd, yr oeddynt yn eu braw drwy y ffrwd fel saethau, ond prin yr oeddynt yn cadw y blaen ar Hywel gan mor llawen yr oedd cefnu ar eu llys yn peri iddo deimlo.