Dros y Gamfa/Y Wisg Ryfedd
← Yr Afal | Dros y Gamfa gan Fanny Winifred Edwards |
Llys y Tylwyth Chwim → |
VIII. Y Wisg Ryfedd
A rhedeg y buont heb arafu cam nes y daethant at goeden fawr, ac yno y maent yn peri i Hywel eistedd wrth fôn y goeden, ac yntau yn ufuddhau gyda brys a diolchgarwch.
"Nid oes eisiau i ti ddiolch," ebai'r arweinydd, "cei dy rwymo yn awr wrth y goeden gyda'r rhaffau, a chaiff dau ohonom aros yma i dy wylio, tra y bydd y gweddill a finnau yn mynd i le neilltuol yn y goedwig. Tynnwch y rhaffau, Dylwyth Chwim, a gadewch i ni ei rwymo yn dyn." Gyda'r un medr ag y cylymasant ef y maent yn ei ddatod, ac yn ei rwymo wrth fôn y goeden.
"Oni fyddai yn well i dri ohonom aros i'w wylio?" gofynnai un ohonynt.
"Na," oedd ateb yr arweinydd, "y mae'n berffaith ddiogel gyda dau; trowch i'r chwith a dilynwch fi." A chan mai i'r chwith yr oeddynt yn troi, yr oeddynt o'r golwg bron gynted ag y cawsant y gorchymyn, a Hywel yn teimlo mai gwir a ddywedodd yr arweinydd pan y sylwodd ei fod yn berffaith ddiogel, oblegid yr oeddynt wedi ei gylymu mor dyn yn y goeden a phe bai ddarn ohoni, ac nis gallai symud llaw na throed. Ond gan fod ei dafod yn rhydd, mentrodd ofyn i'r rhai oedd yn ei wylio,—"I ba le y maent wedi mynd?"
A dyma'r ateb,—
"Maent wedi cael hysbysrwydd fod Tylwyth y Coed yn dod i'r goedwig heno i chwarae pan gyfyd y lloer, ac mae'n Tylwyth ni wedi mynd yno i roi olew glynu ar y glaswellt."
"Olew glynu," ebai Hywel, "beth yw hwnnw?"
"A gaf fi ddweyd wrtho?" gofynnai un i'r llall. "Cei," ebe yntau, "mae'n bryd iddo gael gwybod rhai pethau. Bydd raid iddo ein helpu gyda'n goruchwylion gyda hyn."
"Na fydd byth," ebe Hywel wrtho ei hunan, gan arswydo wrth gofio yr hyn alwent yn oruchwylion.
Ac ebe un oedd yn siarad ag ef,—"Olew anweledig ydyw yr olew glynu, ac os bydd wedi ei roddi ar rywbeth a thithau'n sefyll ar hwnnw, nis gelli symud oddiyno nes daw rhywun atat i dy ollwng yn rhyrdd. Ac y mae ein Tylwyth ni am ei roddi ar y gwellt lle y bwriada Tylwyth y Coed chwarae heno. Ond unwaith y safant arno, bydd raid iddynt aros yno nes y cyfyd yr haul, pan y daw rhai o'u llys i chwilio amdanynt, gan eu bod i ddychwelyd gartref cyn i'r wawr dorri."
"Sut y dônt yn rhydd yr adeg honno?"
"Aiff y lleill i chwilio am fwsog pwrpasol, a rhwbiant eu traed á'r mwsog, ac yna gallant symud yn rhwydd."
Yn y fan daeth i gof Hywel, wrth glywed hyn, fel yr oedd ef wedi bod yn sefyll ac yn methu symud o dan y coed helyg, ac fel y darfu i Dylwyth y ddwy gadwen rwbio ei draed a'i ryddhau, a meddyliai,—"Nid dyma y tro cyntaf i'r giwaid yma gael gafael arnaf, fel y mynnai Tylwyth y ddwy gadwen i mi gredu cyn hyn. O na bawn wedi gwrando arnat! Pa bryd y caf dy gwmni eto, Dylwyth caredig?" Ond wrth y rhai oedd yn ei wylio, dywedodd,—"Gallwch fynd ar ôl eich Tylwyth os mynnwch. Byddaf yn sicr o fod yma pan y deuwch yn ôl, nis gallaf symud."
"Digon gwir nas gelli symud. Ond beth pe bai Tylwyth y Coed yn dod yma ac yn dy ollwng yn rhydd? 'Does dim yn rhoi mwy o bleser iddynt na chroesi ein cynlluniau."
"O diar," meddyliai Hywel, "paham mae'n rhaid i neb gynllunio o'm hachos i? Y cwbl sydd arnaf eisiau yw mynd dros y gamfa." Ac wrth gofio am y gamfa, aeth i feddwl am ei gartref, a'i dad, a'i fam, a'i nain, ac i hiraethu amdanynt, ac nis gallai atal dagrau gloywon rhag treiglo dros ei ruddiau. Ac ebe un o'r rhai oedd yn ei wylio,—
"Paid a gadael i'r Tylwyth weld dagrau ar dy wyneb, os nad oes arnat eisiau achos i golli rhagor."
Ceisiodd Hywel ymwroli yn ddioed, a dyna lle'r oedd yn gobeithio â'i holl galon i'r awel sychu ôl y dagrau oddiar ei wyneb cyn i'r gweddill ddychwelyd. Yr oedd ei adnabyddiaeth ohonynt yn gyfryw fel nas gallai ond credu yr hyn a ddywedai ei wyliwr wrtho. A pharodd ystyried hyn iddo deimlo eto y dylai roddi holl rym ei feddwl ar waith i geisio cael dod yn rhydd o'u gafael. Pan yn meddwl am y cynllun yma a'r cynllun arall, a'r naill ar ôl y llall yn ymddangos yn llai posibl i'w gario allan, y mae y Tylwyth Chwim yn dod yn ôl ar redeg, ac amlwg ar eu hwynebau fod rhywbeth wedi eu llwyr gynhyrfu, ac meddai'r arweinydd wrth y gwylwyr,—
"Beth ddyliech chwi, y mae Tylwyth y Coed allan yn finteioedd i geisio cael Hywel o'n gafael. Cawsom air o'n llys pan oeddym o fewn ychydig lathenni i'w chwaraele, a throisom yn ôl heb golli eillad o amser. Yn awr, ewch chwithau ar redeg i'r llys i nôl gwisg iddo, gwisg goch fel ein gwisg ni."
Heb aros i ofyn cymaint ag un cwestiwn, ymaith a'r ddau wyliwr fel dau ewig, a'r gweddill yn siarad yn gyflym â'i gilydd, ac ar draws ei gilydd, a phob gair ddeuai dros eu genau yn profi mor llawn o elyniaeth oeddynt at Dylwyth y Coed, ac mor sicr oeddynt y byddai i'r cynllun yma o'u heiddo o wisgo Hywel yn y wisg goch ddyrysu a chamarwain y rhai oedd yn ceisio ei waredu. Er bod llawer o'r hyn ddywedent yn synnu ac yn rhyfeddu Hywel, nid oedd yn cynhyrchu ond un cwestiwn yn ei feddwl,—"Sut yn y byd y medraf wthio eu dillad am danaf, a hwythau gymaint yn llai na fi?"
Ni chafodd amser i betruso yn hir. Yr oedd y ddau wyliwr yn ôl, ac yn ôl mewn cyn lleied o amser nes peri iddo gredu fod eu llys yn nes nag yr oedd wedi meddwl. Pan ddaethant gyntaf i'r golwg ar eu taith yn ôl, tybiodd, er ei lawenydd, gan nad oedd ganddynt ddim yn eu dwylo, eu bod wedi methu cael gwisg iddo, ond wedi iddynt ddod ato, gwelodd fod un ohonynt yn cario y wisg amdano, a gwaith ychydig o funudau oedd ei thynnu.
Y gorchwyl nesaf oedd rhyddhau Hywel, ac O! deimlad hyfryd pan y cafodd sefyll yn syth unwaith eto, ac edrych ar y rhaffau yn disgyn y naill ar ôl y llall wrth ei draed.
"Ond," meddai, pan estynwyd y wisg iddo, "mae arnaf ofn ei rhwygo gan ei bod gymaint yn rhy fach i mi."
Ac ebe'r arweinydd,—"Na, y mae y wisg yma yn wisg gywrain; fe ddeil i ymestyn nes bod yn ddigon mawr i un gymaint ddwywaith â thi."
A thra yr oedd Hywel yn ei gwisgo, gwelodd fod yr arweinydd, am y tro hwnnw, beth bynnag, yn dweyd eithaf gwir. Wedi ond ychydig o drafferth yr oedd wedi ei wisgo yn hollol fel y Tylwyth Chwim, a hwythau yn sefyll o'i gwmpas nid i'w edmygu ef, ond i edmygu pertrwydd eu dyfais eu hunain, barodd iddynt ei droi i liw eu Tylwyth.