Dros y Gamfa/Yr Afal
← Y Tylwyth Chwim | Dros y Gamfa gan Fanny Winifred Edwards |
Y Wisg Ryfedd → |
VII. Yr Afal
Y lle nesaf y cafodd Hywel ei hunan oedd yn sefyll o flaen twmpath tew o ddrain, ac arweinydd y Tylwyth Chwim yn dywedyd wrtho,—
"Ymwthia drwy y drain, a gwna y llwybr mor lydan ag y gelli i ni gael dy ddilyn heb i'r drain ein anafu."
Ni feiddiai Hywel anufuddhau i'w gais na phetruso cyn ei gyflawni, ac felly y mae yn ymwthio trwy y drain, ac yn ymwthio gyda'r fath egni fel, erbyn cyrraedd yr ochr arall, yr oedd ei ddillad yn garpiau. Prysurodd y Tylwyth Chwim ar ei ôl, ac amlwg arnynt fod yr olwg arno cystal â gwledd; a'u crechwen yn achosi mwy o ofid i Hywel na chyflwr truenus ei ddillad. O'r fan honno cerddent ymlaen a deuent cyn hir at goeden afalau, ac ar un o'i brigau uchaf hongiai un afal mawr, coch, addfed, ac wrth ei weled daeth awydd angerddol ar Hywel am rywbeth i'w fwyta, ond gan nad oedd ond un ar y goeden ni hoffai ofyn amdano rhag ofn fod un o'r Tylwyth Chwim wedi meddwl am ei gael iddo ei hunan, gan eu bod wedi sefyll i edrych arno ac i'w edmygu. Ond fel yr oedd Hywel yn ei flysio ac yn ei chwennych, y mae arweinydd y Tylwyth yn gofyn,—"Hoffet ti gael yr afal?"
"Hoffwn yn fawr," ebai Hywel.
"O'r goreu, mi ddringaf i'w 'nôl, ond y mae yn rhaid i ti ei ennill cyn y cei ei fwyta."
Ac i fyny ag ef i ben y goeden, a thynnodd yr afal oddiar y brigyn. Yna, wedi iddo ddod i lawr, y maent yn cychwyn drachefn, ac yntau yn cario yr afal gerfydd ei goes wrth ei ochr, a Hywel yn meddwl wrtho ei hunan,—
"Am ba hyd tybed y buasai afal trwm yn goddef cael ei gario yn y dull hwnnw heb syrthio," ac yn ceisio dyfalu beth oedd raid iddo wneud cyn dod i feddiant ohono. A dyfalu y bu am amser hyd y daethant i ben bryn bychan. Ac meddai un ohonynt wedi cyrraedd y llecyn hwnnw,—
"Gosodwch yr afal yn y fan hyn; rhoddaf finnau gychwyn arno i lawr y llechwedd, ac os gall Hywel ei ddal caiff ei fwyta."
"Dyna gynllun teg," ebai'r arweinydd, "ond peidiwch a gadael iddo gychwyn nes y bydd yr afal rhyw lathen o'i flaen."
Ac felly y bu. Ond yn rhyfedd yr oeddynt rhywfodd gyda y rhaffau yn llwyddo i fedru cadw Hywel yr un pellter yn barhaus oddiwrth yr afal, nis gallai yn ei fyw fynd yn nes ato.
"Ond," meddai wrtho ei hunan, "byddaf yn siwr o'i ddal wedi iddo gyrraedd y gwastad."
Ac fel yr oedd yn neshau at waelod y bryn y maent yn caniatau iddo gyflymu, a chyflymu gymaint fel na welodd Hywel mewn pryd mai llyn oedd y lle gwastad, yn cael ei guddio â chaenen deneu o chwyn, ac yr oedd bron ar ei fin pan y gwelai yr afal yn diflannu ynddo, a'r un eiliad dacw y Tylwyth Chwim yn gollwng y rhaffau, a Hywel ar ei ben i'r llyn. Yn ffodus iddo nid oedd y dwfr yn ddwfn, ond yr oedd golwg truenus arno yn codi ohono yn wlyb diferol, a'r gaenen wyrdd oedd ar wyneb y llyn yn glynu wrtho. Yr oedd yn berffaith sicr erbyn hyn nas gallai yr un tylwyth fod yn waeth na'r tylwyth yma, a syllai arnynt gyda difrifwch yn crechwen ac yn ymrolio hyd lawr, fel pe bai y digrifwch roddai yr olwg arno iddynt yn fwy nas gallent gynnal. A da oedd ganddo eu gweled yn ailgychwyn, er bod ei glustiau yn merwino wrth eu clywed yn siarad â'i gilydd amdano fel hyn:
"Mae ei liw yn debig i Dylwyth y Coed."
"Byddai yn hawdd ei gamgymeryd am un ohonynt."
"Gwna frenin ardderchog iddynt; y mae mor ddewr a phrydferth."
"Y mae mor hardd a'r Tylwyth Teg. Onid yw y dŵr a'r drain wedi gwneud eu hôl yn dda arno?"
"Mae'n dda gen i fod y rhaff yn ddigon hir i'w gadw ymhell oddiwrthyf."
"Cawn groeso cynnes yn y llys pan welant ef."
"Cawn," ebai'r arweinydd, "gadewch i ni brysuro ymlaen. Mae gennym lawer o waith crwydro cyn cyrraedd yno."
Ac ebai wrth Hywel,—"Pam na faset ti yn chwilio am yr afal ar waelod y llyn. Mae y llyffaint wedi gwledda arno erbyn hyn."
"Mae croeso iddynt ei gael," ebai Hywel, "y cwbl sydd arnaf fi ei eisiau ydyw cael mynd dros y gamfa."
"Nid yw o bwys beth sydd arnat eisiau, yr hyn ydym ni yn ddymuno i ti gael, dyna gei di."
Parodd clywed hyn i Hywel deimlo yn bur ddigalon, ond ni feiddiai eu gwrthwynebu, ac meddai wrtho ei hunan,—
"Mae pob munud wyf yn dreulio yng nghwmni y rhein yn gwneud i mi eu hofni'n fwy. Fe ddwedodd Tylwyth y Coed y gwir bob gair amdanynt. Ond waeth i mi heb a cholli amser i feddwl am hynny, y peth goreu i mi yn awr ydyw chwilio yn ddyfal am gyfle i gael dod yn rhydd oddiwrthynt. O na ddeuai Tylwyth y Coed i chwilio amdanaf. Er iddynt fy nghuro, credaf y buaswn yn ddiogel yn eu cwmni. Mae'r ffaith eu bod yn gyfeillion i'r Tylwyth Teg ac yn elynion i'r rhein, yn profi eu bod yn dylwyth da."
Tra yr oedd Hywel yn myfyrio fel hyn, yr oedd y rhai o'i gwmpas yn siarad a'i gilydd.
"Faint o nythod adar ddaru ti chwalu eleni?" ebai un.
"Gormod i gadw cyfrif," oedd ateb un o'r lleill.
"Faint bynnag chwelaist ti, 'rydw i 'n siwr mod i wedi malu mwy o wyau."
"Mi wnes innau fy rhan," ebai un arall, "hefo malu wyau a chwalu nythod. Ond fy ngwaith pennaf i oedd chwilio am guddfan y wiwer a dwyn y cnau a'r mês oedd hi wedi gadw at y gaeaf. 'Rwyf yn siwr fy mod wedi gwneud llu o gypyrddau yn wag."
"Mi wnes innau y cwbl ydych chwi wedi enwi a mwy. Mi ês gyda dau arall bob cam i ffau tri o lwynogod i ddeyd lle 'roedd teuluoedd o wningod yn byw."
"Ond beth yw hynyna i gyd i ymffrostio ynddo," ebai'r arweinydd, "wrth yr hyn wnes i." A rhoddodd blwc yn ei raff.
"Ha! ha!" ebai y lleill, gan ddilyn ei esiampl, nes peri i Hywel erfyn arnynt ymatal a llacio eu gafael. Yr hyn wnaethant wedi yn gyntaf gael caniatâd gan yr arweinydd a gorchymyn i redeg i gyfeiriad arall.