Drych yr Amseroedd/Cynnydd Methodistiaeth
← Gau athrawiaethau | Drych yr Amseroedd gan Robert Jones, Rhoslan golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Yr ysgolion dyddiol a'r Ysgol Sul → |
YMOF. Pa fodd yr oedd proffeswyr yn nyddiau boreuol y diwygiad yn cael yr ordinhadau, sef bedydd a swper yr Arglwydd?
SYL. Yn Eglwys Loegr y byddai pawb yn bedyddio eu plant, a chan mwyaf yn cymuno, yn Ngwynedd: ond byddai ar brydiau rai o offeiriaid y Deheudir yn gweinyddu swper yr Arglwydd yn eu plith yn y capeli. Nid oedd yr amseroedd hyny odid un capel na thŷ wedi ei awdurdodi yn ol y gyfraith i bregethu ynddynt; nac ond ychydig o'r pregethwyr wedi cymeryd caniatâd (licence) i fod tan nodded y gyfraith. Bum yn rhyfeddu lawer gwaith, er maint a ddyfeisiwyd o ffyrdd i geisio gyru crefydd o'r wlad, trwy erlid mewn pregethau, ac argraffu llyfrau i'r un dyben, taflu rhai o'u tai a'u tiroedd, trin ereill yn greulon trwy eu curo a'u baeddu yn ddidrugaredd, dodi rhai yn y carcharau, yn mysg ereill, un Lewis Evan a fu yn y carchar yn Nolgelley flwyddyn gyfan, gyru ereill yn sawdwyr, &c., a chan faint o ddichellion a arferwyd, pa fodd na buasai rai trwy yr holl flynyddoedd yn defnyddio y gyfraith i gospi y pregethwyr, yn nghyda'r rhai oedd yn eu derbyn hefyd? Ond fe guddiwyd hyny oddiwrth y doethion a'r deallus trwy yr holl amser; a thrwy hyny fe gafodd yr efengyl y wlad o'i blaen i daenu ei newyddion da yn y prifffyrdd a'r caeau, trefydd, pentrefi, mynyddoedd a glanau y moroedd, &c. yn ddirwystr, oddieithr y byddai ychydig erlid weithiau. Y cyntaf a ddefnyddiodd y gyfraith oedd rhyw ŵr boneddig oedd yn byw yn Sir Feirionydd. Dalwyd un William Pugh, a gorfu arno dalu ugain punt o ddirwy. Ciliodd L. Morris i'r Deheudir rhag ei ddal, ac yno rhoddodd ei hun dan nodded y llywodraeth. Erbyn hyn, wrth weled y dymhestl yn dyfod, yr oedd yn llawn bryd diangc ar frys i ryw le am ddyogelwch. Nid oedd rhaid ond wynebu at yr fam hynaws, llywodraeth Prydain, nad oedd hon yn union yn barod i daenu ei haden gynhes dros y gorthrymedig. Fo gafodd llawer o'r pregethwyr tlodion eu dirmygu i'r eithaf mewn llysoedd barnol wrth geisio yr hyn oedd y gyfraith yn ganiatâu. Gorfu ar bregethwyr Sir Feirionydd gael cyfreithiwr i ddadleu eu hachos cyn llwyddo gyda'r mawrion. Ar ol cael y pregethwyr a'r capeli dan nodded y gyfraith, yn fuan ar ol hyny daeth cynygiad newydd i'r Senedd i gaethiwo ar ryddid. Ond er mawr siomedigaeth i lawer (fel Haman gynt,) yn lle cyfyngu rhyddid crefyddol, eangwyd ei derfynau yn fwy nag y buasai o'r blaen er's llawer o oesoedd. A chan fod eglwysi yn amlhau, a'r gweinidogion a fyddai yn arferol o ddyfod atom wedi heneiddio, a rhai o honynt wedi marw, barnwyd fod angen neillduol am ryw lwybr i'r eglwysi gael eu breintiau. Ffurfio y drefn i ddwyn hyn yn mlaen oedd waith anhawdd, ac yn gofyn llawer o bwyll a doethineb; a gadael i'r henafgwyr oedd yn blaenori mewn gwybodaeth a gras (mewn undeb a'r rhai cymhwysaf o'r ieuengctyd) ystyried y mater yn ddwys ac yn ddifrifol cyn ei benderfynu. Ond nid mor ganmoladwy yr ymddygodd rhyw ychydig o'r pregethwyr ieuaingc yn yr achos. Yr oeddynt mor danbaid anorchfygol, yr oedd raid ei gael i ben yn ddiymaros, beth bynag fyddai y canlyniad; heb ystyried y dylesid mewn addfwynder ddysgu y rhai gwrthwynebus. Tybiodd y gelyn uffernol, wrth weled gradd o annghydfod, mai rhwyg a fyddai y canlyniad; ond methodd gael ei amcan i ben. I'r dyben o wneyd pawb yn dawel, ac yn siriol at eu gilydd, yr Arglwydd a gymerodd y Parchedig T. Charles o'r Bala yn ei law, i sefyll ar yr adwy: a thrwy ei ddoethineb a'i larieidd-dra fel cymedrolwr hynaws a thirion, sefydlodd ef, yn nghyda'r corph yn gyffredin, drefn esmwyth a boddhaol, i ddwyn y gwaith yn mlaen heb friwo neb; sef ordeinio rhyw nifer fechan o bregethwyr o bob sir, at y rhai oedd o'r blaen, i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd, a'r rhai hyn o ddewisiad cyfarfod misol eu sir, gan chwanegu atynt mewn amser i ddyfod, yn ol y byddai yr achos am danynt. Methodd gan ryw ychydig yn y Deheudir a chydsynio â'r drefn, ac y maent hyd yma wedi sefyll allan ar eu penau eu hunain: ond nid ydynt ond ychydig nifer, ac nid oes ganddynt un rheswm digonol i gyfiawnhau eu hymddygiad. Ond er fod ein breintiau yn helaeth, a'r gwaith dan ei goron (er nad heb ei frychau,) er hyny, os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwaid. Mae yn gof genyf glywed i hen ŵr duwiol o Ymneillduwr rybuddio y corph o Fethodistiaid mewn geiriau tebyg i hyn, "Fy mrodyr, gwawriodd bore arnom ninau yr Ymneillduwyr, a bu llawer o bresenoldeb yr Arglwydd yn ein plith, yn nghanol erlidiau; ond nid oedd trefn arnom y pryd hyny fel y dymunasem. Ond wedi cael rhyddid cydwybod i addoli Duw, ac ymgorphori yn eglwysi, a chael gweinidogion yn rheolaidd, aeth yn ganol y dydd arnom. Ond nid hir iawn y bu heb ddechreu nosi: aeth yn gyntaf, yn ail, ac yn drydydd, gan amryw o'n gweinidogion ni, heb fawr o enaid y weinidogaeth; newidiwyd y tarianau aur am rai prês. 1 Bren. xiv. 27. Am danoch chwithau, y Methodistiaid, gwawriodd bore lled ddeffrous arnoch chwithau, ond yr oeddych yn ddigon annhrefnus flynyddau lawer; ond yn awr mae yn ganol dydd arnoch chwithau. Y mae eich capelydd yn fawrion ac yn drefnus, eich gweinidogion yn ddoniol, a chan mwyaf yn drwsiadus, eich gwrandawyr yn lluosog, a'r wlad yn gyffredin yn eich parchu. Gwiliwch! O gwiliwch! rhag y bydd raid i'r gwyliedydd waeddi arnoch, 'Daeth у bore a'r nos hefyd.'" Y mae y rhybudd uchod yn deilwng o sylw pob un o honom; gan gofio geiriau yr apostol, "Yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll edryched na syrthio."
YMOF. Mae genym fawr achos i ryfeddu daioni a thiriondeb yr Arglwydd tuag atom, yn mysg aneirif luoedd ereill o'i fendithion, am gadw cymaint o undeb a brawdgarwch yn ein plith gyhyd o amser, er i'r gelyn roi cynyg lawer gwaith i ddyrysu ac i ddiddymu yr undeb. Onid ellir barnu fod y Cymanfeydd (Associations) a'r cyfarfodydd misol yn llaw Rhagluniaeth ddwyfol, a thrwy, arddeliad yr Arglwydd arnynt yn foddion neillduol i ddal i fyny undeb a brawdgarwch yn y corph trwy yr holl dalaith? Dymunwn glywed genych pa fodd y dechreuodd y cyfarfodydd hyny, a pha fodd y cynyddasant i'r agwedd sydd arnynt yn bresenol?
SYL. Y Gymdeithasfa gyntaf a gynaliwyd yn nhy Jeffrey Dafydd, o'r Rhiwiau, ymhlwyf Llanddeusant, yn Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnw (sef y blaenffrwyth o honynt yn Nghymru, Meistriaid Howell Harris, Daniel Rowlands, William Williams, o Bant y celyn, ac ychydig gynghorwyr; ac er nad oedd yno ond nifer fechan ynghyd, eto yr oedd presennoldeb yr Arglwydd yn eu plith. Mewn Cymdeithasfa yn fuan ar ol hono, anogodd Mr. Harris bawb oedd yn bresennol i gyfansoddi ychydig benillion a hymnau erbyn y gymdeithasfa nesaf, i edrych a oedd yr Arglwydd wedi cynysgaeddu neb o honynt â dawn prydyddiaeth. Felly y gwnaethant; ac wedi i bawb o honynt ddarllen eu gwaith, dywedodd Mr. Harris, "Williams bïau y canu." Cydsyniodd pawb oedd yno i'w anog i ddefnyddio ei dalent er gogoniant i Dduw a lles ei eglwys: ac felly y gwnaeth efe. Ас er na efrydiodd efe burdeb iaith, na rheolau barddoniaeth, yn gywrain; eto bu ei waith o fendith i filoedd; ac yr wyf yn hyderu y bydd felly hyd ddiwedd amser. Bu Cymdeithasfa fechan yn y Bala yn fuan ar ol dechreu y diwygiad: yr oedd Mr Howell Davies ynddi, ond ni chafwyd fawr o lonyddwch y tro hwnw gan y saethu a'r afreolaeth blin oedd yn mysg y mawrion a'r gwerinos.
Y Gymdeithasfa gyntaf yn Môn a gynaliwyd yn y Mynydd mwyn, gerllaw Llanerchymedd; yr oedd Mr. Thomas Foulks, a John Evans o'r Bala ynddi. Yn mhentref Clynog, ar yr heol, y cynaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf yn Sir Gaernarfon; pregethodd John Thomas o Langwnlle, John Griffith o Leyn, ac ereill yn hòno. Am Gymdeithasfaoedd Fflint, Dinbych, a Threfaldwyn, nis gallaf alw i gof y manau y buont gyntaf yn y rhai hyny. Nid oedd y gwrandawyr y dyddiau hyny ond ychydig o rifedi. Y mae yn gof genyf nad oedd yn Nghymdeithasfa y Bala, yn y flwyddyn 1767, ond prin ddau gant o wrandawyr. Nid oedd, tros faith flynyddoedd, ond un cyfarfod neillduol yn mhob Cymdeithasfa, sef gan y pregethwyr dros awr neu ddwy. Wedi hyny lluniwyd dau gyfarfod neillduol yn gysylltiedig o lefarwyr a blaenoriaid: un i ymdrin â phethau allanol crefydd, a'r llall i drin materion athrawiaethol, profiadol, dysgyblaethol, ac ymarferol. Ond yn ddiweddar y mae wedi ei helaethu, fel y mae gan y pregethwyr gyfarfod neillduol gyda'u gilydd; felly yr un modd rhyw nifer o flaenoriaid pob sir yn Ngwynedd: ac felly yn yr un modd y maent yn cynal eu cyfarfodydd yn y Deheudir. Bydd torfeydd tra lluosog yn ymgynull iddynt yn gyffredin. Fe fydd o 15 i 20 mil o leiaf amryw weithiau yn gynulledig ynddynt.
YMOF. Rhowch glywed ychydig eto am y cyfarfodydd misol, eu dechreuad a'u cynnydd: y mae yn gof genyf fi nad oedd y gwrandawyr agos mor luosog ynddynt ag y maent yn y dyddiau hyn.
SYL. Nid wyf yn hysbys o'u dechreuad: pa un a oeddynt wedi dechreu cyn yr ymraniad nis gwn. Nid oeddid yn eu cynal ar y cyntaf tros rai blynyddoedd, ond mewn dau le yn Sir Gaernarfon, sef y Tŷ mawr, a'r Lôn Fudr. Nid oedd un cyfarfod neillduol ynddynt y dyddiau hyny; yn unig y pregethwyr (rhyw nifer fechan iawn oeddynt) a ddeuent ynghyd ychydig cyn y bregeth, i drefnu eu teithiau Sabbathol dros y mis i bregethu. Yna fe bregethai un o honynt i nifer fechan o wrandawyr, wedi hyny âi pawb i'w cartrefi. Nid oedd yn y dyddiau hyny neb mwy na'u gilydd wedi eu sefydlu fel blaenoriaid yn mhlith y cymdeithasau neillduol; ac oherwydd hyny, am nad oedd neb yn myned tros ei ardal i'r cyfarfod misol, byddai llawer cwr o'r wlad, amryw o Sabbathau, heb neb i bregethu. Ond fel yr oedd rhai o newydd yn cael eu cymhell i lefaru, a mwy o alwad am weinidogaeth y gair trwy y wlad yn gyffredin, barnwyd yn angenrheidiol i'r cyfarfod misol gael helaethu ei derfynau. A chan nad oedd cyfleusdra i'w dderbyn, na galwad am dano, ond mewn ychydig o fanau yn y wlad, gorfu ei anfon, fel yr arch gynt, o fan i fan trwy y wlad: weithiau mewn pentrefi, ac mewn rhai trefydd ceid cenad i'w gynal gan amryw o'r tafarnwyr er mwyn yr ychydig elw a gaent oddiwrtho. Diau, yn ei gylchdro fel hyn, i'r Arglwydd ei arddel i fod yn fendith i lawer. Deuai cannoedd i wrando i loedd cyhoeddus fel hyn, na ddeuent yn agos i bregeth mewn tŷ na chapel. Wedi talm o amser adeiladwyd capeli, y naill ar ol y llall, ac yn y rhai hyny y cynhelir y cyfarfodydd misol yn bresenol. Sefydlwyd blaenoriaid hefyd i ofalu am, ac i iawn drefnu achosion yr eglwysi. Cyffelyb i'r un dull y maent yn cael eu cynal â'r Gymdeithasfa; ond eu bod yn perthyn yn unig i un sir, a'r llall i amryw siroedd ynghyd.
YMOF. Mae yn amlwg wrth olygu y gwaith o'i gychwyniad, a pha mor wael oedd yr offerynau a ddefnyddiwyd i'w ddwyn yn mlaen, y gellir dywedyd gyda'r Salmydd, "O'r Arglwydd y daeth hyn: hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni." A fyddai yn anhawdd genych roi ychydig o hanes y capeli cyn dybenu?
SYL. Nid oedd trwy holl Wynedd yn nechreu y diwygiad yn mhlith y Methodistiaid, sef tua'r flwyddyn 1736, ond chwech o dai addoliad, heblaw gan Eglwys Loegr, yn perthyn i un enw o grefyddwyr, sef dau yn Ngwrecsam, un yn Llanfyllin, un yn Newmarket, un yn Ninbych, ac un yn Mhwllheli. Yr oeddynt oll yn perthyn i'r Annibynwyr, ond un yn Ngwrecsam oedd yn eiddo'r Bedyddwyr. Y capel cyntaf a adeiladwyd yn Nghymru gan y Methodistiaid, oedd y Groes wen yn Sir Forganwg: a'r cyntaf yn Ngogledd Cymru oedd Adwy y clawdd yn Sir Ddinbych; y cyntaf yn Sir Feirionydd oedd capel y Bala: y cyntaf yn Sir Flint oedd capel y Berthen gron: y cyntaf yn Sir Gaernarfon oedd capel Clynog; a'r cyntaf yn Sir Fôn oedd capel Llangristiolus. Nid oes mor 80 mlynedd er pan godwyd y cyntaf o honynt; ond rhyfedd fel y cynyddodd eu rhifedi mewn mor lleied o amser i nemawr lai na dau gant o nifer yn perthyn i'r Methodistiaid yn Ngwynedd, heblaw sydd gan enwadau ereill o grefyddwyr! Y mae amryw o honynt wedi eu helaethu er's blynyddoedd; a llawer wedi gorfod eu hail adeiladu; ïe, a rhai wedi eu trydydd adeiladu, oherwydd eu bod yn rhy fychain i gynwys y gwrandawyr. Mae yn rhesymol i farnu fod y gost yn fawr i ddwyn i ben nifer mor fawr o dai addoliad; er hyny nid wyf yn deall i neb gael eu beichio, na'u gofidio, wrth gario y gwaith yn mlaen; a hyny oherwydd fod y corph o Fethodistiaid mor lluosog; o chwe'cheiniog i swllt bob chwarter blwyddyn oddiwrth bob aelod a gliriai y ddyled yn esmwyth. (A pha hyd y bydd y balch a'r meddwyn yn treulio mwy ddengwaith ar eu melus chwantau?) A chan fod y tlodion, ïe, gannoedd o honynt, mor isel arnynt trwy y gwledydd, da os gall y rhai hyny hebgor ceiniog neu ddwy bob chwarter blwyddyn.