Drych yr Amseroedd/Erlid yn Sir Fôn

Y Canghellwr a'i gyfeillion Drych yr Amseroedd

gan Robert Jones, Rhoslan


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon
Peter Williams

YMOF. Mae hanes dychrynllyd yr adyn truenus hwn yn dwyn i'm cof eiriau y Šalmydd, "Gosod dithau un annuwiol arno ef." Os oedd gelyniaeth y llewod hyn at eu gilydd mor ofnadwy mewn byd amherffaith, pa beth a fydd pan y rhwymir hwynt ynghyd yn ysgubau i'w llwyr losgi? Ond a ddarfu yr erlidigaeth bellach?


SYL. Naddo; ac ni dderfydd chwaith tra byddo hâd yn wraig o fewn cyrhaedd i'r ddraig a'i hâd eu drygu.

YMOF. Ond pa ddichell ymhellach a arferwyd i geisio atal pregethiad yr efengyl? Dymunaf i chwi adrodd yn mhellach rai o'r pethau mwyaf neillduol am yr erlidigaethau yn y dyddiau hyny.

SYL. Dygwyddodd unwaith i ryw gynifer fyned o Leyn i Sir Fôn i wrando Mr. Daniel Rowlands, sef y tro hwnw ag y rhwystrwyd ef i bregethu yn Llangefni; ac wrth ddyfod yn ol yr oedd torf o erlidwyr yn dysgwyl am danynt yn Llanaelhaiarn, a churasant hwy yn ddidrugaredd, fel pe buasent gwn cynddeiriog, nes oedd eu gwaed yn llifo, a rhai o honynt yn cwympo oddiar eu ceffylau; a chafodd y rhai oedd ar eu traed y cyffelyb driniaeth. Wedi i William Prichard symud o Lasfryn fawr i Blas Penmynydd, yn Môn, cafodd yno ei ran yn helaeth o'r erlidigaeth. Dryllid ei erydr a chêr y ceffylau yn y nos; a thrafferth fawr fyddai ceisio llafurio y tir gan elyniaeth yr ardal. Daeth Mr. Benjamin Thomas ryw Sabbath i bregethu mewn tŷ gerllaw yno, sef Minffordd, yn agos i Sarn fraint, ac ymgasglodd torf o erlidwyr i aflonyddu y cyfarfod, a ffyn mawrion yn eu dwylaw, ac ar un o honynt ben o haiarn, A chyda bod y gwr yn dechreu pregethu, tafodd un o honynt lestraid mawr o ddwfr ar ei ben, ac yna dechreuasant guro â'u holl egni, fel pe buasent yn lladd nadroedd. Fel yr oedd Mr. B. Thomas yn ddyn cryf a bywiog, gadawodd hwynt oll wrth redeg; a diangodd oddiarnynt heb gael nemawr o niwaid.

Bryd arall ymgasglodd lluaws o erlidwyr creulon at dŷ W. Prichard, mewn bwriad i'w ladd. Rhuthrodd rhai o honynt i'r drws, gan ofyn yn llidiog i'r wraig, "Pa le mae dy bengrwn di?" Atebodd hithau, nad oedd efe gartref (canys yr oedd ef y pryd hyny wedi myned ar ryw achos i Sir Gaernarfon,) a chan na chawsant ef, nid oedd ganddynt ddim i'w wneuthur ond dryllio y ffenestri, a gwneyd pob galanastra ag a allent ar ei feddiannau. Symudodd W. Prichard oddiyno i le a elwir Bodlew, gerllaw Llanddaniel. Byddai raid iddo gadw ci mawr i'w amddiffyn ar hyd y ffyrdd, gan mor lidiog oedd trigolion ye ardaloedd. Anogodd y diafol un dyn o Niwbwrch i brynu cyllell fawr yn Nghaernarfon, gan fwriadu ei ladd yn ddilai, ac aeth i'w dy ef i'r dyben hyny: a pha beth a ddygwyddodd fod yn y cyfamser ond gwr y tŷ yn darllen pennod ac yn gweddio gyda'i deulu. Synodd y dyn yn ddirfawr, a dywedodd ynddo ei hun, "Os peth fel hyn y mae y rhai hyn yn ei wneuthur, yn enw y Gŵr goreu ni wnaf ddim iddynt." Cyfaddefodd y dyn ei fwriad gwaedlyd, ac aeth adref yn heddychol. Symudodd W Prichard drachefn o Fodlew i Glwch dyrnog, lle y treuliodd y gweddill o'i ddyddiau yn addurn i'w broffes, a bu farw mewn henaint teg. Defnyddiodd Duw ef fel offeryn dechreuol i blanu y Winwydden ffrwythlon yn Môn, yr hon sydd yr awr hon a'i changenau wedi ymledaenu dros y rhan fwyaf o'r wlad. Dygwyddodd fod yn Môn y pryd hyny ddau o wŷr boneddigion, sef William Bulkeley, o'r Brynddu, a'r Councillor Williams, o'r Tŷ fry, yn dirionach at grefydd nag ereill: ac anogodd y rhei'ny William Prichard a'i gyfeillion oedd yn cael eu herlid, i ddefnyddio y gyfraith o blaid eu rhyddid crefyddol; ac felly y gwnaethant. Daliwyd rhai o'r mawrion oedd yn blaenori yn y gwaith o erlid, diangodd ereill o'r wlad, a dychrynodd y lleill; ac felly gostegwyd y terfysgwyr, o 'radd i radd, trwy Ynys Fôn byd heddyw, a bu tawelwch mawr.[1]


Nodiadau

golygu
  1. Gan i mi gael hanes mwy cyflawn am y gŵr uchod ar ol ysgrifenu ychydig am dano o'r blaen, gwelais yn addas ychwanegu yr hyn a ganlyn.
    Ganwyd ef yn y flwyddyn 1702, yn y Bryn rhydd, plwyf Llanarmon: cafodd ei addysgu yn yr iaith Gymraeg, Saes'neg, a rhyw ychydig o'r Lladin. Wedi ei briodi, ymadawodd o'r Bryn rhydd i Lasfryn fawr, yn mhlwyf Llangybi. Yr oedd arfer pryd hyny gan fagad o wyr o fyned i'r dafarn ar ol y gosper i fyw yn llawen, ac i ymddifyru mewn coeg ddigrifwch. Wedi aros yno un nos Sul yn hwy nag arferol, wrth ddyfod adref, collodd y ffordd, ac wedi ymddyrysu enyd canfu oleuni, a thynodd tuag ato; adnabu y lle yn ebrwydd, a rhoddes ail gynyg i fyned adref; dyrysodd eilwaith, gan grwydro yma a thraw; canfu oleuni drachefn, a dynesodd tuag ato, gwybu yn union mai y lle y buasai o'r blaen ydoedd. Synodd yn aruthr pa fodd yr oedd yn cyfeiliorni ac yntau mor gydnabyddus: rhoddes gynyg teg y drydedd waith i fyned adref, ond methodd y llwybr fel o'r blaen, hyd nes ydoedd yn llawer o'r nos, a chanfu oleuni y trydydd tro, ac wrth ganfod mai yr un man ydoedd ag y buasai o'r blaen, efe a bruddhaodd, gan feddwl beth a allai hyn fod, a pha beth oedd yn ei dywys yno y naill dro ar ol y llall: wedi edrych trwy y ffenestr canfu wr y tŷ yn darllen Mathew xxv.; yn ganlynol aeth y gwr i weddïo dros ei deulu a'i gymydogion annuwiol, ar i Dduw faddeu iddynt, a'u troi hwynt i ymofyn gwir dduwioldeb: wedi hyny cafodd ei ffordd yn rhwydd adref. Synodd yn ddirfawr fod y gŵr yn gweddïo tros ereill, &c.; effeithiodd hyny yn ddwys ar ei feddyliau wrth fyned adref; ac yr oedd rhai adnodau o'r bennod a ddarllenasid wedi cael argraff neillduol ar ei feddyliau. Bu yspaid dwy flynedd tan ddwfn argyhoeddiad, tynai yn fynych i leoedd dirgel i weddïo. Trwy ei ymarweddiad sobr a'i weddïau difrifol enillwyd dau o'i weision i adael eu hynfydrwydd, ac i garu gwir grefydd. Tynodd y cyfnewidiad yma sylw y gymydogaeth arno ef neillduol, ac hefyd ar ei deulu.
    Nid oedd yr amser hwnw ddim pregethu yn Sir Gaernarfon nac yn Môn ond gan weinidogion Eglwys Loegr, a hyny ond unwaith yn y mis, gan rai, neu unwaith bob pythefnos, yn gyffredin, gan ereill. Yr oedd diadell fechan o Ymneillduwyr yn Mhwllheli a rhai manau ereill yn Sir Gaernarfon, a chanddynt hen weinidog duwiol, ond nid oedd ei ddoniau yn helaeth; isel iawn oedd y gwaith yn eu plith pan ddaeth Mr. Lewis Rees i ymweled a hwynt. Wedi clywed gan Mr. L. Rees am Mr. Howel Harris, a Mr. Jenkin Morgan, yr hwn oedd athraw ysgol, a chael hwnw i Lasfryn fawr i gadw ysgol, dechreuwyd llunio chwedlau celwyddog ar William Prichard a'r ysgol-feistr, gan haeru eu bod yn dysgu egwyddorion cyfeiliornus i'r plant, a bod llong o'r gwledydd tramor yn dyfod i ryw borthladd cyfagos, a'u bod yn bwriadu gwerthu y plant yn gaethweision, fel nas gwelai eu rhïeni mo honynt byth mwy. Taerai ereill eu bod am ddenu dynion o'u plaid i godi gwrthryfel yn y wlad; ereill yn dywedyd mai ymgasglu yr oeddynt i fyw mewn aflendid a thrythyllwch, a llawer yn chwaneg o anwireddau disail.
    Dygwyddodd i William Prichard, wrth glywed son am y Canghellwr Owen fyned un tro i wrando arno i Lannor; wedi dyfod o'r Llan, gofynodd un iddo, Pa fodd yr oeddych yn hoffi pregeth y Canghellwr-A oeddych chwi yn caru yr athrawiaeth? Yntau a atebodd, "Nid oeddwn i yn caru mo honi, na dim o'r fath athrawiaeth:" Ebe y llall, "Pa'm hyny, William?"
    "Am ei fod yn dywedyd anwiredd ac yn wrthwyneb i air Duw." Yn fuan ar ol hyn gwasanaethwyd ef gan ringyll llys eglwysig Bangor, i ateb am ei gam ymddygiad yn erbyn y Canghellwr, ac felly bu gorfod arno ateb yn llys Bangor, oddeutu dwy flynedd neu dair, ac yn methu cael neb i'w amddiffyn, a hyny yn anad dim am iddo ddywedyd yn y fynwent fod y Canghellwr Owen yn dywedyd anwir yn ei bregeth, er y gallasai efe brofi hyny yn ddi-wrthddadl allan o air Duw. O'r diwedd efe a gododd y gyfraith allan o lys Bangor i'r Sessiwn fawr, a'r Counsellor Williams o'r Tŷ fry a safodd yn amddiffynwr iddo; ac wedi dyfod a thystion i brofi yr hyn a ddywedasai y Canghellwr yn ei bregeth, &c., dywedodd y Counsellor y gwnai ef ddiswyddo y Canghellwr os oedd efe yn chwennych talu y pwyth iddo: dywedodd yntau, Nad oedd yn dewis hyny, nac yn chwennych ymddïal, &c. A chan na allodd y Canghellwr dori bywioliaeth William Prichard trwy y gyfraith, dychymygodd lwybr arall, sef llunio pob enllib a chwedlau celwyddog wrth ei feistr tir, nes llwyddo i'w gael allan o Lasfryn fawr yn y flwyddyn 1742. Symudodd i Blas Penmynydd yn Môn: erbyn dyfod yno yr oedd yr holl ardaloedd wedi clywed son fod ganddo ryw grefydd newydd, ynghyda'i deulu; ac y byddai pawb a wnai un math o gyfeillach â hwy yn sicr o fyned o'u synwyrau; felly yr oedd pawb yn edrych arnynt fel pe buasent wedi dyfod â'r pla dinystriol i'r wlad: a'r gwŷr urddasol tu hwnt i bawb, mewn eithaf llid tuag ato, ac yn anog ereill i wueyd a allent o ddirmyg iddo ef a'i deulu, ynghyda distrywio ei eiddo. Yr oedd yn y gymydogaeth wr yn byw a fyddai yn masnachu mewn prynu a gwerthu llawer o ddefaid; danfonai luoedd o honynt i yd a gwair William Prichard, a rhoddai ddynion afreolus i'w cadw yno, fel na feiddiai perchen yr yd a'r gwair, na'i weision, eu gyru ymaith. Yr oedd ef a'i deulu yn goddef hyn oll yn amyneddgar, heb geisio ymddial, gan gyfrif yn fraint iddynt ddyoddef yn achos yr efengyl. Llawer o golledion ereill a wnaed iddo, a dinystr ar ei feddiannau, heb un achos ond ei fod yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni.
    Yn nechreu y flwyddyn 1743, daeth Mr. Lewis Rees (a grybwyllwyd am dano o'r blaen) i Blas Penmynydd, a phregethodd mewn hen felin yn agos yno, ac yr oedd o bymtheg i ugain yn ei wrando. Dywedai ef ei hun wrth adrodd ei hanes, pan roddes ef y gair hwnw allan'i ganu, "Dysgwyliaf o'r mynyddoedd draw," &c. i'r bobl ddychryn yn ddirfawr, gan ddychymygu fod torfaoedd yn dyfod o fynyddoedd Sir Gaernarfon i gynorthwyo y crefyddwyr: pa fodd bynag, ni bu y tro hwnw ddim erlid; yr oedd rhai yn canmol y bregeth, ac ereill yn ei goganu. —Yn mis Ebrill canlynol y daeth un Benjamin Thomas, o'r Deheudir, i Blas Penmynydd, mewn bwriad o gael pregethu, a chyn ei ddyfod, yr oedd W. Prichard wedi cael awdurdod o lys Bangor i neillduo tŷ bychan a elwid Minffordd yn lle i gynal addoliad yn ol y gyfraith. Soniwyd eisoes am yr agwedd greulon oedd ar yr erlidwyr. Howel Thomas, o Blas Llangefni, a gafodd yr ergyd â'r ffon a'r haiarn; tarawyd ef mor egnïol ar ei ben nes yr oedd ei waed yn llifo, a'r pen haiarn, wrth bwys y tarawiad, a dorodd ac a aeth tros y clawdd i'r cae. Dylynodd yr erlidwyr y trueiniaid gwirion ar hyd y ffordd gan eu curo â ffyn mawrion yn greulon, a hwythau yn cerdded yn araf, nes oedd eu gwaed yn ffrydio ar hyd y ffordd tros fwy na chwarter milldir, nes blinasant o'r diwedd yn eu curo; ond diangodd y pregethwr oddiarnynt (fel y soniwyd) heb gael dim niwaid.
    Yn fuan ar ol hyny y gwnaeth torf o erlidwyr yn yr ardal gynghrair a'u gilydd; yr oeddynt o 200 i 250 o rifedi, ac wedi gosod gwylwyr, darfu i'r rhei'ny ddychymygu ei weled ef a phregethwr yn dyfod gydag ef tuag adref nos Sadwrn; a daethant yn lluoedd am ben y tŷ ddydd Sul; a chwi ellwch feddwl ei fod yn fraw mawr i'r wraig weled y fath haid o wiberod gelyniaethol yn dynesu ati, gan ddywedyd wrthi (tan fytheirio llwon arswydus) "Yr ydym ni yn dyfod i ladd dy bengrwn di, a'i bregethwr.", Os pengrwn yr ydych yn ei alw, ebe hithau yn bwyllog (a'i phlentyn bach dau fis oed yn ei breichiau,) nid yw efe gartref yr awrhon —Celwydd wyt ti yn ei ddywedyd, meddent hwythau. Gofynodd y forwyn genad i'w meistres i gau y drws, Paid, gâd iddynt, ebe hithau; ac felly ni ddaethant i'r tŷ, ond drylliasant yr holl ffenestri, a distrywiasant bresebau y meirch a'r gwartheg, a phob peth a allasent gael gafael arno, gan fyned i'r ysgubor a chymysgu yr haidd a'r ceirch am ben eu gilydd, a thyngu yn echryslon y lladdent pwy bynag a'u gwrthwyn. ebai. Yr oedd rhyw drefn Rhagluniaeth ryfedd fod y gweinidogion oll y Sul hwnw wedi myned i Llanffinen i'r gwasanaeth, pe amgen buasai yn berygl iddynt am eu bywydau. O flaen hyny yr oedd un o'r gweision yn yr ysgubor yn trwsio yr aradr, ddechreunos, a bachgen yn dal y ganwyll iddo; saethodd un ergyd rhwng y ddau nes yr oedd yn dartsain yn y pared. Wedi dyfod y gŵr adref, a chlywed yr hanes, a gweled y difrod a wnaethid ar ei feddiannau, penderfynodd nad oedd modd byw felly mewn enbydrwydd am ei einioes ei hun a'i deulu, heb gael rhyw un o'i blaid i'w amddiffyn. Yr oedd gwr o gyfreithiwr ag oedd yn ewyllysiwr da i grefydd, yn byw ar gyffiniau y Saeson; rhoddodd y gŵr enwau y rhai penaf o'r terfysgwyr i'r cyfreithiwr; daeth swyddog o Sir Ddinbych i'w gwasanaethu, a gorfu arnynt ateb i'r gyfraith yn Sessiwn y Mwythig, a thalu yn llawn am y golled a'r ormes a wnaethent; ffôdd eraill rhag ofn y crogbren. Yr oedd un gŵr o gymydog iddo, lled alluog yn y byd, ac yn rhagori ar bawb ereill mewn gelyniaeth at grefydd, ac felly y parhaodd rhai o'i genedl yn olynol, nes i farn amlwg (mal Herod gynt) oddiweddyd un o honynt yn neillduol. Er i William Prichard enill y gyfraith fel na feiddiodd neb o hyny allan ddrygu ei feddiannau rhag ofn cosp; er hyny nid oedd llid yr erlidwyr un gronyn llai: y ddyfais nesaf a luniasant oedd pentyru achwyniadau celwyddog at ei Feistr tir, sef iddo ddyfod a heresiau dinystriol i'r wlad, a'i fod yn erbyn y llywodraeth, a'r canlyniad a fu oedd ei droi allan o Blas Penmynydd. Symudodd oddiyno i Fodlew fawr, yn mhlwyf Llanddaniel, yn y flwyddyn 1745. Nid oedd ymddygiad pobl yr ardal hòno ddim gwell tuag ato na'r rhai o'r blaen. Dygwyddodd pan oedd efe yn byw yn Mhlas Penmynydd, i ddau gwnstabl ddyfod i'r tŷ, a chynorthwywyr yn eu canlyn, gan anelu yr amser yr oedd y teulu yn bwyta eu ciniaw, a gwarant i ddal un o'r gweision i fyned yn sawdwr, sef Morris Griffith; gofyn. odd ei feistres genad iddo fyned i'r llofft i roi esgidiau am ei draed, y byddai haws iddo eu canlyn; yntau a neidiodd allan trwy ffenestr y garret tu cefn i'r tŷ, ac yr oedd yn rhy gyflym i neb o honynt ei oddiweddyd. Dyoddefodd William Prichard lawer o amharch wrth fyned i farchnadoedd Caernarfon, yn enwedig os byddai rhai o'r gwyr uddasol yn bresennol, gan ddannod iddo mai efe a ddechreuodd daenu sismau a heresiau ar hyd y wlad, i wyrdroi pobl ddiniwaid i gredu celwydd, ac i wadu yr Eglwys. —Un tro, fel yr oedd yn dyfod dros Foel y dòn, dygwyddodd fod yn y cwch un o gawri y wlad, sef Mr. Morris, o le a elwir Paradwys; dechreuodd hwnw ffonodio ei geffyl ac yntau yn dra mileinig, dan dyngu a rhegi yn ysgeler; wedi dyfod i'r lan, parhau i guro yr oedd Mr. Morris, yn ddiarbed. Gofynodd William Prichard iddo, "Pa'm yr ydych yn fy nghuro heb un achos?" Atebodd yntau â'r yspryd drwg lonaid ei safn, "Y mae hyny yn ormed o barch i ti." A chan nad oedd un tebygolrwydd i gael heddwch ganddo, rhuthrodd William Prichard iddo, a thaflodd ef i lawr ar ei gefn, a llusgodd ef gerfydd ei draed ar hyd y gro, nes torchi ei ddillad, a pheth o'i groen hefyd. Erbyn hyn yr oedd y gwr wedi troi ei dôn, ac yn dechreu gwaeddi yn groch, "Mwrdwr, mwrdwr, er mwyn Duw achubwch fy hoedl!" Ond ni ddaeth neb i'w achub, cafodd ei drin fel yr oedd yn haeddu. Wedi iddynt weled cawr y wlad wedi ei orchfygu (fel Goliath gynt) arswydodd pawb gynyg dim amharch iddo byth mwyach. Y peth nesaf a wnaethant, oddiar eu lild tuag ato, oedd llwyddo gyda'i feistres tir i'w droi allan o Fodlew, Galan gauaf, 1750. A chan nad oedd cynyg am le yn Môn nac Arfon, clybu fod lle yn rhydd gan Mr. William Bulkeley o'r Brynddu; aeth at y gwr boneddig, gofynodd hwnw iddo, Pa beth yw yr achos eu bod yn dy droi allan o'th dyddyn? Ai methu talu yr oeddyt? Nage, meddai yntau, O achos fy marn mewn pethau crefyddol, ac am fy mod yn Ymneillduwr oddiwrth Eglwys Loegr. Onid oes rhywbeth heblaw hyny yn dy erbyn, gosodaf i ti ddigon o dir; felly, efe a gymerodd Glwchdyrnog, a'r lleoedd oedd i'w ganlyn, mewn amrwymiad (lease) ac a aeth yno i fyw Galan gauaf 1750.
    Bu cyfeillgarwch mawr rhyngddo a'i feistr tir mewn pethau crefyddol a gwladol, tra bu ei feistr byw. Yr oedd yn aelod o gynulleidfa yr Ymneillduwyr yn Mhwllheli, a byddai yn myned yno yn fisol i gymundeb swper yr Arglwydd tra bu yn byw yn Mhlas Penmynydd a Bodlew. Ar ol sefydlu yn Glwchdyrnog neillduwyd tŷ ar y tir, yn lle i addoli Duw yn ol cyfreithiau y deyrnas, ac yno y byddai y rhai a ddeuai i'r wlad yn pregethu. Yr oedd yn dra chyfeillgar a'r Methodistiaid Caifinaidd, holl ystod ei fywyd, ac yn mawr barchu eu gweinidogion. Yr oedd yn ddiwyd iawn yn cyflawni dyledswyddau crefyddol yn ei deulu fore a hwyr: tystiodd gwas a fu yn ei wasanaethu un mlynedd ar ddeg, na welodd mo hono, er neb ryw drafferth, gymaint ag unwaith yn esgeuluso addoliad teuluaidd. Yn gyffredin wrth ddarllen a gweddïo yn ei deulu byddai dagrau edifeirwch yn cwympo tros ei ruddiau, ynghyda'i ymbiliau taerion yn enw y Cyfryngwr, yr hyn oedd yn brawf amlwg o undeb ei yspryd â Duw, ac yr oedd ei ymarweddiad sobr a diargyhoedd mewn gair a gweithred yn peri i'w gymydogion annuwiolaf addef ei dduwioldeb: byddai arswyd pechu yn rhyfygus ar drigolion yr ardal, os meddylient ei fod yn agos, yn enwedig yn ei ddyddiau diweddaf. Yn mis Ebrill, 1773, cafodd glefyd trwm; ymddygodd dano yn dra amyneddgar a thawel: pan y cai ychydig hamdden gan rym y clefyd, ei bleser a fyddai dye wedyd rhywbeth am ddaioni Duw; anogai ei wraig a'i blant i ymddiried yn yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ddifrifol am rym duwioldeb, gan ei fod ef yn eu gadael. Parai i un o'i feibion ddarllen Ioan xiv. Wedi ei gwrando, dywedai, "O ryfedd gariad Crist! Ie, ïe, i bechadur!" Fel yr oedd angeu yn nesâu, yr oedd yn cael mwy o bresennoldeb Duw, ac yn fwy diysgog i wynebu yr hen Iorddonen. Dywedai wrth elynion ei enaid, "siglwch fy sail, os geilwch." Mae cadarn sail Duw yn sefyll, &c. Oddeutu awr cyn gorphen ei yrfa, ac efe yn siriol ac yn gyflawn yn ei synwyrau, galwodd ei wraig a'i blant ato; a phan ddaethant, edrychodd yn sobr arnynt, gan ddywedyd, "Wel, fy ngwraig a'm plant anwyl, yr wyf fi am eich gadael; myfi a weddiais lawer trosoch ar i Dduw ymweled â chwi yn ffordd ei râs, heb un argoel amlwg eto i Dduw gyflawni fy nymuniadau; ond fe allai pan y byddwyf fi yn pydru yn y bedd yr etyb Duw fy ymbiliau, ac y cyfyd ef rai o noch yn dystion tros ei enw a'i achos, ac i fod yn golofnau yn ei dy. Wedi hyny dywedodd, "O Arglwydd dyro râs i'm gwraig a'm plant, fel y byddo iddynt adnabod Iesu Grist yn Briod i'w heneidiau, a bod yn ffyddlon hyd angeu yn dy wasanaeth." Ac yna rhoddes gynyg i ganu y penill canlynol,

    "Dal f'enaid i fyny, 'rwy'n ffaelu bob dydd,
    A nertha fy nghalon yn ffyddlon mewn ffydd:
    Rho i mi dy 'nabod yn Briod, yn Frawd,,
    Yr ydwyf yn barod i ymadael â'r cnawd."

    Wedi hyny rhoddes i fyny yr yspryd yn orfoleddus yn nghyfiawnder difrycheulyd y Meichiau bendigedig, a chauodd ei lygaid naturiol, a'i yspryd a ehedodd ymaith at ei Arglwydd;" "Lle ni ddywed y preswylydd, Claf ydwyf." Bu farw y 9fed o fis Mawrth, 1773, yn 71 oed.
    Er nas gwelodd ef yn ei ddydd gyflawniad o'i weddïau tros ei deulu, er hyny ar ol ei ymadawiad, daeth rhai o'i blant a'i berthynasau i gofleidio gwir grefydd, ac i fod yn ddefnyddiol yn ei dy a thros ei achos. "Ni ddywedais wrth hâd Jacob, ceisiwch fi yn ofer."