Drych yr Amseroedd/Peter Williams
← Erlid yn Sir Fôn | Drych yr Amseroedd gan Robert Jones, Rhoslan golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Siroedd Dinbych a Fflint → |
Cyn gostegu yr erlidwyr, cyhoeddwyd Mr. Peter Williams rywbryd i bregethu yn agos i Benrhos Llugwy, wrth dŷ tafarn. Erbyn ei ddyfod yno, yr oedd cwmni anhawddgar yn dysgwyl am dano. Ni chai fyned i'r tŷ, na lle i'w geffyl. Ond gan ei Ond gan ei fod yn wr o feddwl gwrol, ac o ddygiad boneddigaidd i fyny, methasant ei wrthsefyll. Yna yn ebrwydd safodd i fyny, a rhoes y gair hwnw o'r Salm allan i ganu,
"Yr Arglwydd biau'r ddaear lawr,
A'i llawnder mawr sydd eiddo.
Yr Arglwydd biau yr holl fyd,
A'r bobl i gyd sydd ynddo."
Cerddodd y fath awdurdod gyda'r gair, nes oedd gwŷr y pastynau a'r cyrn yn taflu pob peth o'u dwylaw; ac wedi eu dal gan ddychryn, dechreuasant nesu ymlaen, a gwrandawsant yn llonydd hyd ddiwedd y cyfarfod. Tan y bregeth yma y dychwelwyd Owen Thomas, Rowland a Richard Hughes, dau ddyn hynod mewn duwioldeb a zêl dros achos Duw; ac ar ol hyny goddefasant lawer o gam a gorthrymder.
Cyn gadael hanes Mr. Peter Williams, adroddaf am y dirmyg a gafodd mewn lle elwir Trefriw, yn agos i Lanrwst. Beth a wnaeth y dorf anifeilaidd, ond diosg clôs y gŵr, a'i lenwi â soeg. Dygwyddodd fod yn eu mysg un dyn tra nerthol; ac wrth weled y fath ffieidd-dra enynodd ei ddig yn ddirfawr yn erbyn yr ynfydion gwallgofus, a gwaeddodd allan, "Ffei! dyma ffieidd-dra na welwyd erioed ei fath!" a dechreuodd chwalu y dorf o'i gwmpas fel gwybed. Cymerodd y clôs, gan dywallt y у soeg o hono, a'i lanhau, ac ymgeleddodd y pregethwr. Ac wedi y cyfan pregethodd Mr. Williams yn wrol, ac ni feiddiodd neb ei aflonyddu, gan arswyd y gŵr oedd yn ei amddiffyn.
Gan fod yr hyn a adroddwyd uchod wedi dygwydd yn ardal Llanrwst, fe allai na byddai yn anfoddhaol genych glywed ychydig yn nghylch y bregeth gynaf a fu yn y dref hono. Yr oedd pregethu wedi dechreu yn fore mewn lle a elwir Crafnant: a byddai rhai o Lanrwst yn myned yno i erlid. Meddyliodd rhywrai am gynyg pregethu yn y dref, a chawsant genad i ddyfod i ryw dy yno. Pan y daeth y noswaith bennodol, safodd cryn nifer o'r erlidwyr ar y bont i ddysgwyl y pregethwr, mewn bwriad i'w daflu i'r afon. Ond wedi deall am y cynllwyn, trosglwyddwyd y pregethwr mewn cwch tros yr afon. Mewn llofft yr oedd y cyfarfod; dechreuwyd yr oedfa trwy ganu mawl a gweddïo, yn darllenodd y gŵr ei destyn, sef y geiriau canlynol:—"Wele yr wyf yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr," &c. Ond cyn iddo gael llefaru nemawr, cododd yno derfysg nid bychan; ac ymegnïodd rhai i geisio dyfod trwy y dyrfa at y pregethwr. "Pan ddeallodd gŵr y tŷ na chaid llonydd, diffoddodd y canwyllau, a chuddiodd yr athraw mewn cist, a chlô arno. Bu yr erlidwyr yno hyd y plygain yn chwilio am dano, ond methodd ganddynt ei gael. Enw y pregethwr oedd Morris Griffith. Aeth at yr Ymneillduwyr wedi hyn, a bu yn weinidog parchedig yn Sir Benfro hyd ei farwolaeth. Bu Llanrwst, yn enwedig y dref, amser maith ar ol hyn heb i neb gynyg pregethu yno; ond byddai ambell oedfa yn achlysurol yn mhlwyf Llansantffraid, Llanfairtalhaiarn, Llanddoged, Penmachno, &c. Nid oedd y pryd hyny ond ychydig yn Ngwynedd wedi derbyn doniau i bregethu; ambell un o'r Deheudir, yn awr a phryd arall, a fyddai yn dyfod atynt. Tua'r amser hwnw yr oedd gwr yn byw yn mhlwyf Llanrwst, mewn lle a elwir Bryniog uchaf, un John Richards, yr hwn oedd brydydd rhagorol; ac o herwydd hyny, yn nghyda harddwch ei berson, ei dymher addfwyn a siriol, oedd wedi enill parch mawr gan bob gradd o'i gydnabyddiaeth: ond er y cyfan, nid oedd ynddo un tuedd at wir dduwioldeb, nes yr ymwelodd Duw ag ef trwy glefyd trwm, yn mha un y deffrowyd ei gydwybod, a llanwyd ei enaid o fraw a dychryn, wrth feddwl ei fod yn wynebu y farn yn anmharod." Wedi gwellhau o'r clefyd, ymroddodd i fyw yn foesol a dichlynaidd, gan ymarfer â gweddïo yn ei deulu fore a hwyr. Erbyn hyn yr oedd son am dano trwy yr ardal. Wedi i rai oedd yn arddel crefydd glywed am y cyfnewidiad oedd yn ei fuchedd, anfonasant ato ddwy waith neu dair, fod gwr yn pregethu yn y lle a'r lle. Ni wnaeth gyfrif yn y byd ar y cyntaf o'u gwahoddiad; ond wrth ystyried nad oedd neb arall yn yr holl ardal yn cael anfon atynt i'w cymhell i ddyfod i wrando y gair, daeth i'w feddyliau, wrth eu bod yn parhau i anfon ato, a oedd gan yr Arglwydd trwy hyny ryw alwad arno, ag y dylasai ei wrando. Y tro cyntaf ar ol hyn pan glywodd fod rhyw wr yn dyfod i bregethu, aeth yno yn ddiymaros: arddelodd yr Arglwydd yr oedfa hono mewn modd neillduol, fel y goleuwyd ei feddwl, i raddau helaeth, am ffordd yr iachawdwriaeth trwy y Cyfryngwr, ac y llanwyd ei enaid o ddiddanwch yr efengyl. Gallasai ddywedyd cyn diwedd y cyfarfod, megys y dywedodd Ruth, "Dy bobl di a fydd fy mhobl i," &c. Yn mhen ychydig o flynyddau ar ol hyn, dechreuodd yotau bregethu yn oleu ac yn wlithog. Braidd y beiddiai neb ei erlid o herwydd y parch oedd gan yr holl ardaloedd iddo. Ni chyfarfyddai gweinidog y plwyf âg ef un amser heb gyfarch gwell iddo; a'i dystiolaeth am dano a fyddai yn wastadol, Ei fod yn credu ei fod yn wr duwiol. Bu amryw weithiau yn pregethu gerllaw mynwentydd rhai o'r eglwysi cymydogaethol, pan y byddai y bobl yn dyfod o'r Llanau, gan na cheid gafael arnynt yn un man arall, i'w hanog i ddychwelyd at yr Ar. glwydd. Treuliodd weddill ei ddyddiau yn ddiwyd a ffyddlon tros ei Feistr, yn addurn i'w broffes, megys seren yn llewyrchu mewn ardal dywyll. Gorphenodd ei yrfa yn y flwyddyn 1763, yn 44 oed.[1] Yn mhen maith flynyddoedd ar ol hyn, dygwyddodd brydnawn Sabbath ar faes yn agos i Drefriw, i ryw ŵr ddyfod i gynyg pregethu; yn y cyfamser daeth yno wr urddasol, o'r ardal, yn llawn o nwydau digofus a chythreulig, ac a gipiodd y Bibl o law y pregethwr, gan ei droedio o'i flaen y fel pe buasai bêl droed. Cyn pon bir tarawyd y gwr â math o walīgofrwydd arswydus. Byddai yn crochleisio yn ofnadwy fel y clywid ef bellder mawr o ffordd. Yr oedd efe yn ddychryn mawr, nid yn unig i'w deulu, ond hefyd i amryw yn y gymydogaeth. Parhaodd yn yr agwedd arawydus hono hyd ddydd ei farwolaeth. Gwas a ymrysona â'i Luniwr!
Gan fy mod eisoes wedi dyfod a'r hanes mor belled a chwr Sir Ddinbych, adroddaf i chwi hanes tra rhyfedd a ddygwyddodd yn more y diwygiad yn y wlad hòno. Yr oedd un o'r enw Lewis Evan, pregethwr teithiol, wedi addaw dyfod i bregethu ar ryw brydnawn Sabbath, ar fryn ger llaw y ffordd o Wytherin i Lansannan. Yr oedd yn y cyfamser wr yn byw gerllaw a fyddai yn ymhyfrydu yn fawr mewn cellwair a choeg ddigrifwch. Meddyliodd hwnw unwaith am fyned i'r Llan: ond ofnodd y delid ef yn rhy hir, os âi ef yno, ac y collai y difyrwch o wawdio y pregethwr. Wedi aros ychydig yn y dafarn, aeth tua'r lle yr oedd y cyfarfod i fod ynddo: a chan nad oedd yno neb wedi dyfod, gorweddodd i lawr, a chysgodd. Yn mhen ennyd, daeth yno wr arall, cyn i'r bobl ymgynull yn nghyd, a chanfu y dyn a ddaethai o'r dafarn, yn cysgu. Rhodiodd y gŵr i fyny ac i waered ar hyd y bryn i aros i'r bobl ddyfod yn nghyd; ac wrth edrych o'i gwmpas, canfu welltyn praff, megys wedi ei blanu yn y ddaear; ymaflodd ynddo, a chanfu yn ebrwydd mai powdwr oedd ynddo, ac wedi iddo gloddio â'i law, cafodd dywarchen fechan, a phowdwr oddi tani, a ffôs neu rigol fain yn cyrhaeddyd i ben y bryn, a phowdwr ynddi o benbwygilydd; ao ar ben y bryn le crwn wedi ei dori yn y ddaear, o gylch dwy droedfedd drosto, ac ynddo lawer o bowdwr, a gwellt yn ei orchuddio yn dra chywrain, a thywyrch wedi eu rhoddi yn drefnus ar bob man, fel na byddai i neb amheu fod yno un math o berygl. Darfu i'r gwr a ganfu y gwelltyn grafu ymaith y powdwr yn llwyr, a dodi y tywyrch yn eu lle fel o'r blaen, a'r gwelltyn hefyd a ddododd efe yn ei le fel y cawsai ef. Erbyn hyn, yr oedd y pregethwr a'r bobl yn dyfod; a safodd y gwr i bregethu yn gymhwys ar y fan yr oedd y powdwr wedi ei guddio ynddo. Yr oedd y gŵr a ganfu y bradwriaeth yn sylwi yn fanwl pwy a ddeusi at y lle yr oedd y gwelltyn ynddo: ac yn mhen ychydig, dyna ddyn yn rhedeg, a gwisg certiwr am dano, a mwg o'i gwmpas; a phan gyrhaeddodd hyd at y gwelltyn, dechreuodd chwythu ei dân. Erbyn hyn dyma y gŵr a ganfuasai y ddichell yn gwaeddi arno, "Methaist genyt dy gast y tro hwn." Felly amddiffynodd Duw ei bobl megys yn wyrthiol y pryd hyny. Gwas i gyfreithiwr oedd y dyn a ddaeth â'r tân, ond pa un ai efe ai ei feistr oedd ddyfnaf yn y ddichell, dydd y farn a'i dengys.
Nodiadau
golygu- ↑ Bu gŵr arall o'r un enw yn yr un lle ar ei ol ef ryw gymaint o amser; symudodd oddiyno, a bu farw yn ddiweddar yn Rhuddlan.