Drych yr Amseroedd/Y Gymdeithas Genhadol
← Pregethwyr | Drych yr Amseroedd gan Robert Jones, Rhoslan golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
Moeswersi → |
YMOF. Gadewch gael clywed genych, cyn ymadael, ryw ychydig o hanes y Gymdeithas Genadol, ag sydd, fel ag yr wyf yn clywed, yn fendith fawr trwy amryw barthau o'r byd.
SYL. Mae hon, a'r Fibl Gymdeithas Frutanaidd a Thramor, fel y ddau udgorn arian, eisoes wedi bod yn foddion i ddeffrôi llawer; ac yn myned rhagddynt yn llwyddiannus i chwalu y tywyllwch o'u blaen: ac er nad ydyw eto ond megys gwawr bore, er hyny gan fod eu tarddiad oddiwrth haul cyfiawnder, diau yr ânt rhagddynt oleuach, oleuach, nes elo teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef. Soniwyd o'r blaen am Gymdeithas y Biblau, a'i defnyddioldeb. Am y Gymdeithas Genadawl, nid rhaid dywedyd llawer, gan fod cymaint eisoes o'i hanes yn argraffedig; ffurfiwyd hi yn Llundain yn y flwyddyn 1795. Treuliodd y gwir Gristionogion flynyddau lawer yn dra anystyriol o gyflwr gresynol y paganiaid tywyll, eulunaddolgar, oedd yn cael eu cludo gan Satan yn filiynau tros y geulan i ddistryw tragywyddol: ond o'r diwedd cyffrôdd Duw feddyliau ei bobl fel na allent gysgu yn hwy heb gynyg wynebu ar rhyw lwybr tuag at eu dwyn o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw.
Y Morafiaid, yn flaenorol i bawb, a anturiasant gynyg yr efengyl i drigolion tywyll Greenland, a manau ereill. Dyoddefasant lawer o galedi a chyfyngderau mawrion: ond llwyddodd Duw eu llafur a'u hymdrechiadau i fod yn fendith i lawer. Nid wyf fi yn deall i neb arall gynhyrfu fawr yn achos y trueiniaid di-Dduw, sef y paganiaid, nes y cododd yr Arglwydd y Gymdeithas Genadol; er fod amryw yn ymofidio yn eu hachos, ac yn gweddïo drostynt; ond nid oeddynt yn gweled un llwybr yn ymddangos trwy ba un y gellid gwneyd dim yn rhagor iddynt; ond pan sefydlwyd y Gymdeithas uchod, ffurfiwyd trefn yn mysg aelodau y Gymdeithas, yn gyntaf, i gadw cyfarfod blynyddol yn Llundain, i roddi prawf a ellid cael modd i anfon yr efengyl at drueiniaid oedd yn cael eu dyfetha o eisiau gwybodaeth. Cawsant yn fuan le i hyderu y llwyddai yr Arglwydd eu hamcanion; casglwyd cyn hir dair mil o bunnau at yr achos tra angenrheidiol hwn. Yn yr ail gyfarfod yr oedd lluaws mawr o weinidogion o amryw enwau, megys Eglwyswyr, Annibynwyr, Presbyteriaid, Methodistiaid, &c., a'r gwrandawyr yn dra lluosog, oblegyd fe bregethodd pedwar o weinidogion yn y cyfarfod hwnw, yn mysg ereill, Mr. Jones, o Langan. Yr oedd y casgliad, erbyn hyn, wedi helaethu i ddeng mil o bunnau. Tueddwyd 28, neu ragor, i anturio tros y moroedd meithion, i'r ynysoedd sydd yn Môr y Dehau, sef Otaheite, &c., ac yn eu mysg un Cymro, sef John Davies, o Sir Drefaldwyn. Bu ef a'i frodyr o fendith i lawer yno, ac yn yr ynysoedd ereill cyfagos; er eu bod am hir amser mewn digalondid mawr, ac yn goddef llawer iawn o galedi; a'u gofid mwyaf oedd gweled mor lleied o lwyddiant ar eu hymdrechiadau. Ond er hau mewn dagrau amser maith, y maent yn medi mewn llawenydd yn bresennol. Y mae yr anialwch gwag erchyll wedi myned yn ddoldir; y rhith-dduwiau wedi eu llosgi yn tân; yr allorau wedi eu distrywio, a thai addoliad i'r gwir Dduw yn cael eu hadeiladu. Brenin Otaheite hefyd wedi dyfod i gofleidio y grefydd Gristionogol. Nid yno yn unig y mae y gwaith gogoneddus hwn yn llwyddo, ond hefyd mewn amryw barthau o Affrica baganaidd, sef yn mysg yr Hottentotiaid, y Caffrariaid aflan a chreulon, yn nghydag ynys Lattacoo, a'i brenin, oedd mor anwybodus na welsent un math o lyfr erioed. Y mae yn agos i China lafur a diwydrwydd mawr yn cyfieithu y Testament Newydd, a rhanau o'r Hen, i iaith yr ymerodraeth hono, er gwaethaf yr ymerawdwr creulon; ac y maent yn cael eu darllen gyda blas gan amryw yn y wlad hòno. Y mae hefyd yn yr India Ddwyreiniol lwyddiant neillduol ar lafur cenadau yn cyfieithu yr ysgrythyrau i amryw ieithoedd, y gwledydd meithion hyny sydd a'u trigolion yn aneirif o luosogrwydd. Ni bydd i mi ymhelaethu ar hyn yn bresennol, gan hyderu y bydd i'r hyn a adroddwyd godi awydd ynoch i ddarllen hanesion helaethach sydd yn argraffedig eisoes.