Drych yr Amseroedd/Y Rhagymadrodd

Drych yr Amseroedd Drych yr Amseroedd

gan Robert Jones, Rhoslan


golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon
Dangoseg

Y RHAGYMADRODD.

GARIDIG GYFEILLION,

NID oes odid o genedl ag sydd yn meddu gradd o ddysgeidiaeth, wedi bod, hyd yn ddiweddar, yn fwy difraw a musgrell am gadw coffadwriaeth o lawer o bethau tra nodedig a ddygwyddasant yn eu plith, na'r Cymry. Mae yn wir eu bod faith oesoedd heb fanteision i helaethu eu gwybodaeth. Ychydig o honynt, tua'r unfed ganrif ar bymtheg, a fedrai ddarllen; a llawer llai yr oesoedd cyn hyny. Nid oedd (amser maith ar ol hyn) ond ychydig o lyfrau Cymraeg yn argraffedig: ond yn awr mae yr addewid hono yn dechreu cael ei chyflawni, "Llawer a gyniweiriant, a gwybodaeth a amlheir." Mae yn wir fod breintiau ein cenedl ni yn bresenol (trwy ddaioni Duw) yn dra helaeth. Gall yr Arglwydd ddywedyd yn briodol am ein gwlad, megys y dywedodd gynt am ei winllan, "Beth oedd i'w wneuthur ychwaneg i'm gwinllan nag a wnaethum ynddi ?" Mae yn ddiau i bwy bynag y rhoddir llawer, llawer a ofynir ganddo. Fe allai fod rhai ag sydd yn ceisio darllen, ïe, i fuddioldeb, yn addef fod y Bibl, a llyfrau da ereill, yn llesol i'w darllen, ond yn methu a deall fod darllen llyfrau hanesiaeth ond hollol afreidiol. Ystyried y cyfryw, fod llyfr da Duw, sef y Bibl, a rhan fawr o hono yn hanesiol, fel y gwelir yn yr Hen Destament a'r Newydd. Gobeithiaf nad oes neb sydd yn addef dwyfoldeb yr Ysgrythyrau, yn gallu cyfrif y rhanau hanesiol hyny o honynt yn afreidiol; "Canys holl air Duw sydd bur."

Pe na buasai genym ond y rhanau athrawiaethol yn unig o'r Ysgrythyrau, pa fodd y cawsem wybod pwy a greodd y bydoedd! ac yn mha gyflwr yr oedd ein rhieni cyntaf yn Eden cyn cwympo? a'r modd gwarthus y syrthiodd Adda a'i wraig fel dwy seren, o uchder dedwyddwch i ddyfnder trueni, ynghyda'u holl hiliogaeth i'r unrhyw bydew dinystriol! Ac os buasai rhyw draddodiadau amherffaith wedi dyfod i ni, o dad i fab, ac o fab i wyr, o'r cynfyd am eu cwymp, a bod rhyw greadur maleisus â llaw yn y gwaith o'u hudo; ac oni ba'i i'r Bibl roddi hanes cywir i ni am y twyllwr, sef, mai y diafol ydoedd; oni fuasai rhai, o bosibl, yn barod i ddychymygu mai rhyw fwystfil dychrynllyd, neu sarph ehedegog, neu ynte wiber enbyd o'r diffeithwch, a'u gwenwynodd yn fuan ar ol eu creu. Am v diluw hefyd, ni buasai genym un darluniad cywir am dano, ond rhyw ddychymygion gwyrgam a chyfeiliornus, fel y sydd gan rai o'r Paganiaid hyd heddyw, oni buasai yr adroddiad am dano yn y Bibl. Diau mai trwy hanesiaeth yr Ysgrythyrau y cawsom dystiolaeth ddiamheuol am Abraham yn aberthu ei fab, helyntion Joseph, gwyrthiau Moses, agor y môr a boddi Pharao, teithiau yr Israeliaid, dull y babell a'r aberthau, atal dyfroodd yr Iorddonen, Dafydd yn lladd y cawr, teml Solomon, Jona yn mol y pysgodyn, y tri llangc yn y ffwrn dan, Daniel yn ffau y llewod: ac aneirif o bethau ereill tra hynod a ddygwyddasant yn yr oesoedd gynt. Buasem hefyd yn y fagddu o dywyllwch am Gyfryngwr y Testament Newydd, oni buasai yr hanes sanctaidd hòno a gawsom gan yr Efengylwyr am dano, sef mawredd ei Berson, Duw-ddyn yn un Crist, ei genedliad goruwchnaturiol, ei sanctaidd enedigaeth, ei demtasiynau, ei wyrthiau, ei annhraethol ddyoddefaint, ei angeu poenus, ei gladdedigaeth, ei anrhydeddus adgyfodiad, ei esgyniad gogoneddus, a'i ddyfodiad i farnu byw a meirw: yn nghyda theithiau, yr erlidigaethau, a'r gwaredigaethau a gyfarfu â'r Apostolion sanctaidd, a llwyddiant eu gweinidogaeth.

Er nad oes unrhyw hanesyddiaeth i'w chystadlu âg eiddo dynion sanctaidd Duw, y rhai a lefarasant megys y cynhyrfwyd hwy gan yr Yspryd Glân, eto y mae hanesiaeth yr eglwys, a'r tymhestloedd yr aeth trwyddynt, a'r erlidigaethau a ddyoddefodd tan ddwylaw creulon ymerawdwyr Rhufain baganaidd: a'r gorthrymder, y lladd a'r llosgi a fu gan y bwystfil anghristaidd, sef y Pab a'i ganlynwyr, ar braidd Crist, yn deilwng iawn o'u cadw mewn coffadwriaeth. Onid ydyw hefyd yn hyfryd cael ychydig o hanes y sêr boreol a adlewyrchodd oddiwrth Haul cyfiawnder, i ddechreu ymlid y nos a'r adar aflan allan o'r wlad? Oni buasai i ryw rai fod mor ffyddlon a chadw coffadwriaeth mewn ysgrifen am yr ardderchog lu o ferthyron a ehedodd adref trwy ganol fflamau tanllyd o ferthyrdod yn orfoleddus; ac am yr enwog Ioan Wickliff, Luther wrol, a'r dichlynaidd Ioan Calfin—ni buasem ni yn gwybod fod y fath wyr enwog (yn nghyda miloedd ereill o dystion ffyddlon tros Dduw) erioed yn y byd. A chan fod hanesiaeth yn ddiamheuol yn mhob oes, ac yn mhob gwlad mor fuddiol ac adeiladol, a raid i'r Cymry uniaith gael eu cau mewn tywyllwch ac anwybodaeth am y pethau rhyfedd a wnaeth yr Arglwydd yn eu plith.

Y mae yn eithaf gwir ddarfod i rai yn y Deheudir fod yn ddiwyd a llafurus i gasglu ynghyd gryn lawer o hanes y Cymry yn yr iaith Gymraeg (i ba rai yr ydym yn dra rhwymedig,) ond gan eu bod yn byw yn mhell, ac yn ddyeithrol am lawer o bethau a ddygwyddasant yn Ngwynedd, mewn perthynas i grefydd, yn y ddwy ganrif ddiweddaf; a chan fod llawer o bethau teilwng iawn o fod mewn coffadwriaeth heb son am danynt mewn ysgrifen gan neb mwy na'u gilydd; wrth ystyried hyny, a gweled pawb yn esgeuluso, anturiais (trwy gael llawer o anogaethau) gymeryd y gwaith mewn llaw, i osod allan, hyd y gellais, y pethau mwyaf nodedig a neillduol a fu yn mysg crefyddwyr siroedd Gwynedd: ond yn beth helaethach am wlad fy ngenedigaeth, am fy mod yn fwy hysbys o'r helyntion a fu ynghylch crefydd yno nag yn un lle arall: ond ni ddarfu i mi yn wirfoddol esgeuluso y siroedd ereill, heb goffau am y pethau mwyaf eu pwys a ellais i gasglu, a fu ynddynt mewn perthynas i grefydd er dechreuad y diwygiad yn Nghymru, a manau ereill; sef, tua'r flwyddyn 1739. A chan fy mod yn rhy anghyfarwydd yn y Deheudir i roddi nemor o hanesiaeth cywir ynghylch crefydd yno, am hyny gorfu arnaf adael heibio; ond yn unig coffâu am rai personau o'r wlad hono, a fu yn enwog yn ein mysg. Diau hefyd i mi adael allan lawer o bethau teilwng o'u coffâu, mewn siroedd ereill, heb grybwyll am danynt, o achos na buaswn yn fwy adnabyddus o honynt. Ond fe allai y caiff rhyw rai, yn y Dehau a'r Gogledd, eu tueddu i ysgrifenu yn fwy trefnus a chyflawn na myfi, hanesyddiaeth crefydd yn ngwlad ein genedigaeth.

Gallaf ddywedyd fod hyny hefyd yn beth anogaeth i mi ysgrifenu yr hanes fel y gwnaethum; sef clywed ambell un yn adrodd rhyw bethau ynghylch crefydd heb fod agos yn gywir, ond yn eithaf gwyrgam a chamasyniol. Ac oni buasai i rywun achub hanesiaeth o ddwylaw y rhai oedd yn ei bradychu, ac yn ei hystumio i bob agwedd anghywir, yn ol eu dychymygion, wrth geisio ei gosod allan, diau y gallai llawer fod mewn petrusder am y cyfan y maent yn ei glywed, am fod cymaint o anghysondeb yn yr adroddiad o honynt. Nid wyf yn rhyfygu dywedyd nad oes llawer o amherffeithrwydd yn fy ngwaith inau; gwnaethum fy ngoreu na byddai ynddo ddim ond sydd wirionedd. Cefais y rhan fwyaf o'r hanesion a fu or's 80 mlynedd gan rai oedd yn dystion cywir o'u gwirionedd. Os bernwch fy llafur gwael hwn yn deilwng o dderbyniad, darllenwch ef, a'ch plant ar eich ôl; o wneuthur felly cewch achos i ryfeddu daioni yr Arglwydd tuag atom ni y Cymry tlodion, yn enwedig yn yr oen bresenol. Ac wrth eich gadael, erfyniaf ar yr Arglwydd, yn ngeiriau y ddau ddysgybl, "Aros gyda ni; canys y mae yn hwyrhau, a'r dydd yn darfod."

Ydwyf eich annheilwng gyfaill, ROBERT JONES.

CAPEL Y DINAS,[1]

Chwef. 10, 1820.


Nodiadau

golygu
  1. Y mae Awdwr y llyfr hwn yn cael ei adnabod fynychaf wrth yr enw Robert Jones Rhoslan, ond brydiau ereill gelwir of Robert Jones Ty Bwlcyn, a Robert Jones, Capel Dinas, neu Lôn Fudr. Yr achlysur oedd fel hyn, wedi iddo fod am amser yn cadw ysgol mewn gwahanol fanau yn Sir Gaernarfon, Sir Fflint, &c., sefydlodd mewn tyddyn o'r enw Tir Bach, Rhoslan; ac wedi bod yno am rai blynyddau cymerodd dyddyn helaethach, sef Tŷ Bwlcyn, lle y bu fyw hyd farwolaeth ei wraig; a chan fod un o hen gapeli y Methodistiaid yn y gymydogaeth hono o'r enw Dinas, lle yr ystyrid ei gartref crefyddol, gelwid ef cyn diwedd ei oes yn "Robert Jones Dinas," neu y "Lôn Fudr," enw arall ar yr un lle; ac mewn tŷ a adeiladwyd iddo wrth y Capel hwnw y bu farw Ebrill 18, 1829—gwel "Llyfryddiaeth y Cymry," a "Methodistiaeth Cymru."