I Eirian Dwy Genhedlaeth

gan Robin Llwyd ab Owain

Tecwyn Lloyd
Cyhoeddwyd gyntaf yn Barddas, Chwefror 1989. Ffynhonnell: [1] gwefan Rebel ar y We / Rhedeg ar Wydr.

Trosglwyddodd y bardd ei gerddi ar drwydded agored yn Ebrill 2020.



Hi ei hun,
yn wraig dros ei phedwar ugain
draw a agorodd y drws.

Hi ei hun,
y weddw,
a wahoddodd y llencyn i'w hystafell lom;
hi ei hun.

Yntau'n fawr hyn na phlentyn,
yn ddyn heb iddo hanes,
a welodd ei mynwes fel llanw'r môr,
a gwelodd fwy - gwelod ei fam.

Hon a'i chenhedlaeth a'i gwnaeth,
hon a luniodd ac a genhedlodd ei gnawd,
ac wedi'i arwisgo â gwaed yr esgor
a dihuno'r cnawd a wahanwyd,
rhoddodd ei chwymp a'i gwewyr iddo
ac anadl ei thymp i'w genhedlaeth ef.

Mor wyn oedd ei gwallt morwynol
iddo ef yn ddyn o'r ddinas
ac yn was i gnawd.

A heb air o'i ben
rheibiodd y ddoli rwber
o wraig dros ei phedwar ugain
nes i'w hwylofain ddiasbedain
drwy oesoedd a bydoedd a ffatrioedd tranc.
yntau'n ifanc yn ei ffustio'n nwyfus
nes hollti'i chorff bregus a brau fel glaswelltyn
a charthu, wedyn, i'w chroth ei hadau;
y groth a luniodd ac a genhedlodd ar ei gnawd.

Clywaf, a gwelaf ei gwaedd,
ond ni wylaf,
oblegid hi ei hun,
yn wraig dros ei phedwar ugain
draw a agorodd y drws.