Dy enw Di, mor hynod yw
← Hwn yw yr hyfryd fore ddydd | Dy enw Di, mor hynod yw gan Charles Wesley wedi'i gyfieithu gan Anhysbys |
Yn rhad 'Rwy'n disgwyl rywbryd gael iachâd → |
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930 |
139[1] "Efe a ddichon yn gwbl iacháu."
M. H.
1 DY enw Di, mor hynod yw,
Hyfrydwch pur eneidiau byw;
I wael bechadur dan ei bwn
Mae cymorth yn yr enw hwn.
2 I bechaduriaid croeso gaed,
Pan ddoent yn gleifion at dy draed;
Trwy rasol eiriau, doniau Duw,
Ai'r claf yn iach, a'r marw'n fyw.
3 Ac onid ydwyt eto'r un—
Yn llawn o nefol ddawn i ddyn?
Ym mhob rhyw oes, dan loesau'r llawr,
Mae rhinwedd yn dy enw mawr.
4 Dy addewidion sydd yr un,
Wyt heddiw'n Feddyg euog ddyn;
Mae gennyt allu, Iesu mawr,
Ac 'wyllys i'n iacháu yn awr.
5 O! gwêl ni'n nesu at dy ddôr,
I gael iachâd, anfeidrol Iôr;
Iachâ ni'n hollol o bob clwy',
Fel na bo arnom archoll mwy.
—C. WESLEY, Cyf AN.
Ffynhonnell
golygu- ↑ Emyn rhif 139, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930