Dyddanwch yr Aelwyd/Cwyn yr Amddifad
← Hedydd lon | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Bedd fy Nghariad → |
CWYN YR AMDDIFAD.
Oes neb a ystyr wrth fy nghwyn—Amddifad wyf.
Na ! na ! ' does neb â fi gyd-ddwyn—O dan fy nghlwyf.
Y rhai wnai gyd-ymddwyn er hedd,
Er's llawer dydd sy'n wael eu gwedd
Yn pydru'n oerion gellau'r bedd—Yn gaeth o'm gwydd;
Adgofiad o hoff fore f'oes,
Sy'n rhoi i'm calon lymaidd loes,
Y pryd nad oedd na chri na chroes—Ar helynt rhwydd.
Bu gynt i minnau gartref clyd—A thad a mam
Yn fawr ei gofal ar bob pryd—Rhag im' gael cam.
Cawn gyfran o bob rhan yn rhad,
Yn nghyd â phob ymgeledd mâd,
Gynt ar hen aelwyd tŷ fy nhad—Ym mhlith y plant:
Gwnawn hau dych'mygion lawer llun,
O bob dedwyddwch im' fy hun,
Ond troes eu ffrwythau'n bläau blin—Tra chwith i'm chwant.
Y bwystfil edwyn anedd glau— Mewn distaw wig;
Mae holltau'r graig, i'r ddraig yn ffau—Lle'n llon y trig;
Ac y mae'r dewfrig goedwig gan
Y mwyngar adar bach yn rhan;
Ond dwysaf modd nid oes un man—I'm derbyn i!
Pa un ai gwych ai gwael fy llun,
Rhaid dwyn pob croes trwy'm hoes fy hun,
'Does genyfgyfaill, nac oes un— A wrendy'm cri.
Tywynodd arnaf heulwen hedd—Ar fore'm dydd;
Llawenydd calon oedd ar wedd—Fy siriol rudd:
Ond iach i'r llon gysuron gynt,
Hwy ffoisant ar adenydd gwynt,
Ac ofer disgwyl ar fy hynt—Am danynt mwy.
Y dagrau'n fynych ylch fy ngrudd,
Ar dori mae y galon brudd,
Rhyw dòn ar dòn o hiraeth sydd—Dan lawer clwy'.
Mewn 'stronol fro rwy'n oer fy nghri—Am dir fy ngwlad,
Ond 'sywaeth ni waeth p'le i mi—Heb fam na thad,
Cartrefwn mewn dirgelaidd gell,
Wrth ffrydiau yr anialwch pell,
Pe gwyddwn cawn dawelwch gwell—I'r fron yn wir;
Cyfeilles wnawn o dan fy nghlwy'
O belican yr anialwch mwy;
Cyd-ddwyn â'n gilydd wnaem ein dwy—O dan eir cur.
I'm gwylio yno cawn y lloer—Nos angeu prudd;
A'r awel sychai'r deigryn oer—Oddiar fy ngrudd;
Gan gwyno'n mrig y tewfrig bren,
Lle'r ymollyngwn bwys fy mhen,
Amdoid fy nghorph â deiliog len—Wrth ffrydiawg li,
I fyd siomedig mwy yn iach,
Cawn hedd ar waelod beddrod bach,
Ni chlywid sôn gan gâr nac ach—Am danaf fi.
Can's pob rhyw gâr a chyfaill droes—Eu cefnau'n awr;
Pan mae fy llawen heulwen oes—Dan gwmwl mawr!
Ond f'enaid pruddaidd clafaidd clyw,
Mae Tad'r amddifad etto'n fyw,
Hwn ddichon roi tawelwch gwiw—Ym mhob rhyw loes.
Mae ef o galon dyner fwyn,
Fe wrendy ar amddifad gwyn,
A hwn wna'n unig gyd-ymddwyn—O dan bob croes.
—GUTYN DYFI