Dyddanwch yr Aelwyd/Bedd fy Nghariad

Cwyn yr Amddifad Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Y Delyn

BEDD FY NGHARIAD.

Y mae'r ywen werdd yn tyfu
Uwch ben y bedd,
Lle mae 'nghariad bach yn cysgu
Yn llwch y bedd;
Y mae'r rudd a wisgai rosyn
Dan y gwallt oedd fel aur-gadwyn,
At y meirwon wedi disgyn,
Yn llwch y bedd.

Tyner wylo mae'r awelon
Uwch ben ei bedd,
Fel o deimlad, ddagrau'n loewon,
Uwch ben ei bedd;
Y gwynt yn dystaw sio'i chyntun
Yn yr Ywen ledai'i brigyn,
Ac ohoni'r dagrau'n disgyn
Ar lwch ei bedd.

Cangau'r Ywen sy'n telori
Uwch ben ei bedd,
Farw gân alarus iddi,
Uwch ben ei bedd;
Wrth fyn'd heibio bedd y wenfron,
A grudd laith, a llygaid gwlybion,
Rho'i ochenaid mae'r awelon
Uwch ben ei bedd.

Blodau'r haf a dyfant yno,
Ar lwch ei bedd,

Ac a blygant benau i wylo,
Ar lwch ei bedd;
Nid oes dim yn tyfu yno
Ar nad ydyw yn ymdeimlo,—
Gwellt a blodau sy'n cyd-wylo,
Ar lwch y bedd.

Gwylia'r byw, wrth rodio'r beddau,
Rhag rhoi dy droed
Ar ei bedd i blygu'r blodau,
O dan dy droed;
Paid a rhuthro yn ddideimlad,
Bydded ysgafn dy gerddediad,
Paid a sathru bedd fy nghariad
O dan dy droed.

—IONORON GLAN DWYRYD


Nodiadau

golygu