Dyddanwch yr Aelwyd/Y Delyn

Bedd fy Nghariad Dyddanwch yr Aelwyd

gan Hughes a'i Fab, Wrecsam

Hiraeth y Cymro am ei Wlad

Y DELYN.

HOFF Elen! dyg dy delyn fwyn
I'm lloni gyda'i İlef;
Ias hiraeth i fy mryd mae'n ddwyn
Am odlau maws y nef.

A phan yw tanau hon mor gu
Yn lleisio ger fy llaw,
Gofidion dwys y gauaf du
Yn siriol giliant draw.

Ac felly pan ddel Gauaf oes,
Llais Rhinwedd lwys mewn hedd,
A bair fy enaid yn ddi—loes,
I wenu ar y bedd.

—GWENFFRWD


Nodiadau

golygu