Dyddanwch yr Aelwyd/Edifeirwch Meddwyn
← Canig i'r Gormeswr | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Y Llong a gollwyd → |
EDIFEIRWCH MEDDWYN,
DRANOETH AR OL TERM.
Ow! ow! meddai meddwyn, i'm coryn mae cur,
Sydd debyg i frathiad neu doriad â dur,
Mi weriais fy arian, 'rwy'n cwynfan bob cam;
Mae hyn yn ddu gwmwl yn meddwl fy Mam.
Mam Mam!—O fy Mam!
Mae hyn yn ddu gwmwl yn meddwl fy Mam!
Fy ngwddf sydd yn boethlyd, a chrinllyd, a chras,
A'm safn yn llawn chwerwder gan Hinder drwg flas
Dylaswn i wylio cyn llithro i ddrwg lam;
Mae hyn yn ddu gwmwl yn meddwl fy Mam.
Mam, &c.
Fy nghylla waghäwyd, ac anwyd a g'es,—
Nid oes yn fy nghorffyn i ronyn o wres;
P'le bynag yr elwyf dyn ydwyf dan nam;
Mae hyn yn ddu gwmwl yn meddwl fy Mam.
Mam, &c.
Pe cawn fenthyg chwechyn gan rywun yn rhwydd,
I'r dafarn cychwynwn, mi gerddwn o'i gwydd;
Cawn yno wir fwyniant, mewn nwyfiant di nam,
Er cymaint yw'r cwmwl sy'n meddwl fy Mam."
Mam Mam—O fy Mam!
Er cymaint yw'r cwmwl sy'n meddwl fy Mam.
Pan dderfydd y chwechyn, rhaid cychwyn, tro cas,
A minau'n lled gyndyn, heb flewyn o flas
I fyned i'm llety, 'rwy'n penu paham,—
O herwydd y cwmwl sy'n meddwl fy Mam.
Mam Mam—O fy Mam!
O herwydd y cwmwl sy'n meddwl fy Mam!
Pe cawn help i godi o'm culni brwnt cas,
A chymorth i ofyn am ronyn o ras,
A gado ffol nwyfiant, er cymaint fu'r cam,
Fe giliai'r du gwmwl sy'n meddwl fy Mam.
Mam! Mam!—O fy mam!
Fe giliai'r du gwmwl sy'n meddwl fy Mam!
—A. ROBERTS.