Dyddanwch yr Aelwyd/Canig i'r Gormeswr
← Y Fenyw Fwyn | Dyddanwch yr Aelwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam |
Edifeirwch Meddwyn → |
CANIG I'R GORMESWR.
O! paid gormesu'r gweithiwr tlawd
Sy beunydd dan ei bwn,
Os ydwyt ti, hoff blentyn Ffawd,
O paid dirmygu hwn.
Llafuria'n foreu ac yn hwyr,
A'i chwys a fwyda'r llawr,
Efallai heb damaid,—nef a'i gwyr
Am lawer deuddeg awr.
O! paid gormesu'r gweithiwr blin,
Mae ganddo deulu trwm,
Heb neb yn enill ond ei hun;
Rho dro i'w fwthyn llwm—
Mae yno wraig a'i gruddiau n llwyd,
A'i gwisg yn hynod wael,
A'i bychain tlawd yn gofyn bwyd,
Ond Oh! heb ddim i'w gael.
O! paid gormesu'r gweithiwr tlawd,
O! gwel mor wael ei lun,
A chofia hyn—mae iti'n Frawd,
Bydd dirion wrtho, ddyn.
Cei di ddanteithion fyrdd yn rhwydd,
Ca yntau grystyn sych;
Drwy lafur hwn cei segur fwyd,
A gwisg a phalas gwych.
O paid gormesu'r gweithiwr tlawd;
Efallai try y Rhôd,
Pan welir di dan wgau Ffawd
Heb geiniog yn dy gôd;
Ni charet ddyoddef y pryd hwn
Bwys yr haiarnaidd droed;
O dan ei gwasgiad teimlet, gwn,
Yn ddwysach nag erioed,
O! paid dirmygu'r gweithiwr tlawd;
Mae cyfoeth gan ei Dad;
Creawdwr bydoedd yw ei Frawd,
Cyn hir caiff yntau 'stat;
O wlad y gormes hed ei gri
I glustiau Cyfiawn Lys;
Ofnadwy fydd dy gyfrif di
Pan ddaw dy olaf wys.
—PEREDUR, Cendl.